Cyn-gynghorydd yn pledio'n euog i achos cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Paul Dowson
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Paul Dowson ei sedd fel cynghorydd ar Gyngor Sir Penfro ddechrau'r mis

Mae cyn-gynghorydd yn Sir Benfro wedi pledio'n euog i fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant.

Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd bod yr heddlu wedi ymweld â chartref Paul Dowson ar 31 Gorffennaf 2021 gyda gwarant, gan eu bod yn credu fod yna gyffuriau yn yr adeilad.

Fe wnaeth Dowson gyfaddef bod yna gyffuriau yno, ac fe ddaeth swyddogion o hyd i ddau fag bach yn y gegin oedd â phowdwr gwyn ynddyn nhw.

Daeth archwiliadau i'r casgliad bod y bagiau yn cynnwys 12.7g o amffetamin - gwerth £130.

Fe ddywedodd Dowson wrth yr heddlu bod y cyffuriau at ddiben personol a'i fod yn gwario tua £80 yr wythnos ar amffetamin.

Yn y llys ddydd Mawrth fe blediodd Dowson yn euog i un cyhuddiad o fod â chyffuriau yn ei feddiant.

Fe gafodd ddirwy o £80, ac fe fydd yn rhaid iddo hefyd dalu costau o £85 a thâl dioddefwr o £34.

Rhoddwyd gorchymyn i ddinistrio'r cyffuriau.

Cafodd Dowson ei ethol i gynrychioli ward Doc Penfro Canol fel cynghorydd annibynnol yn etholiadau lleol 2017.

Yn 2022 fe safodd eto fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol, ond y tro yma ar gyfer ward Doc Penfro Llanion, lle gollodd gyda 84 pleidlais.