Her un dyn i lanhau pob un traeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymdrech un dyn i lanhau pob traeth yng Nghymru, tra'n cerdded 700 o filltiroedd o gwmpas yr arfordir wedi cael ei ddisgrifio fel "tasg anferthol".
Mae Geraint John, 51 oed o Faesteg am sicrhau bod ein traethau gyda'r gorau yn y byd ac yn llefydd glân i'w mwynhau ar ôl gweld cymaint o sbwriel tra'n seiclo i elusen y llynedd.
"Yr holl lefydd gwych yr es i, yr holl bobl anhygoel wnes i gwrdd â nhw a'r holl olygfeydd anhygoel gwelais i, pan gyrhaeddais i nôl ar ôl bron i bum mis o seiclo yr un peth oedd yn aros yn y cof oedd yr holl sbwriel sydd o gwmpas yr arfordir.
"Felly dechreuais fynd i'r traeth lleol, pan o'n i'n gallu."
Ond roedd yn teimlo nad oedd hynny'n ddigon ac aeth ati i sefydlu cwmni nid-er-elw, Coastline Guardian CIC.
Dywedodd ei fod yn "gobeithio codi arian ar gyfer offer fel y gallaf batrolio arfordir Cymru a chael gwared ar y sbwriel rwy'n dod o hyd iddo".
Fe ddechreuodd Geraint ei siwrne yn y Mwmblws yn Abertawe ar 13 Mai.
Dywedodd ei fod wedi dechrau gyda thraethau i'r gorllewin o Abertawe, gan gynnwys Sir Benfro, cyn troi tuag ar Fae Ceredigion.
Her y traethau llai
"O'n i lawr ar draethau Rhosili a Llangenydd a nes i gasglu 26 o fagiau du llawn sbwriel ar ôl 5 diwrnod," meddai.
"Mae'r traethau llai yn gweld y gymuned yn gwneud lot o'r gwaith glanhau, ond mae'r llanw yn dod â rhagor o sbwriel."
Ar hyn o bryd mae e'n glanhau traethau Llangrannog, Cwmtudu a Chei Newydd - traethau poblogaidd sy'n denu ymwelwyr trwy'r flwyddyn.
Ond y traethau llai ar hyd yr arfordir sy'n achosi'r her fwyaf, meddai.
"Ma'r rhan fwya' o arfordir Cymru yn anodd i'w gyrraedd, ond dyw sbwriel ddim yn becso lle mae'n glanio," meddai Geraint.
"Felly gallech chi dreulio hanner diwrnod yn glanhau'r traeth yma a rownd y gornel, gallai fod 10 tunnell o sbwriel yn cuddio ar draeth does dim modd ei gyrraedd ar droed."
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth mae Geraint hefyd am godi arian er mwyn prynu cwch i gyrraedd y mannau nad oes modd eu cyrraedd o'r tir.
Dywedodd y byddai hynny yn ei alluogi i "gyrraedd yr holl lefydd does dim modd cyrraedd ar droed, y llefydd mae'r sbwriel yn hoffi cuddio".
Mae'r broblem o wastraff plastig a sbwriel ar hyd ein harfordir yn un mawr yn ôl Sarah Perry o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn ne a gorllewin Cymru.
"Mae adar neu forloi yn mynd yn sownd mewn llinellau pysgota neu beth bynnag sy'n cael ei daflu i'r dŵr," meddai.
"Mae effeithiau eraill yn llai amlwg, oherwydd nad y'ch chi'n gallu eu gweld nhw mewn gwirionedd."
Anifeiliaid yn llwgu
Ychwanegodd: "Ni'n siarad tipyn dyddiau yma am ficroblastigau - gronynnau bach iawn o blastig - a ni'n dod o hyd i rheini yn yr amgylchedd morol.
"Fyddech chi ddim o reidrwydd yn sylwi arno achos ei fod mor fach, ond mae anifeiliaid fel pysgod ac adar yn bwyta'r microblastigau ac mae hynny wedyn tu fewn i'w cyrff.
"Mae hynny wedyn yn llenwi eu stumogau ac maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n llawn, ond mewn gwirionedd sbwriel sydd yn eu cyrff, ac yna maen nhw'n llwgu oherwydd dy'n nhw ddim yn cael yr holl faeth sydd eu hangen arnyn nhw.
"Mae tasg Geraint yn un anferthol.
"Mae'n anodd cyrraedd rhai o'r ardaloedd mae'n trio cyrraedd, ond mae ei barodrwydd i fynd ati yn ffantastig, yn wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2022