'Baw dynol' ar hyd llwybr Yr Wyddfa, medd tywysydd

  • Cyhoeddwyd
SnowdonFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd dyn ei ddal gan grŵp o gerddwyr yn 'mynd i'r toiled' ar lethrau'r Wyddfa ddydd Sadwrn.

Gyda thymheredd Cymru yn uwch nag yng Ngwlad Groeg, Twrci a de'r Eidal, fe heidiodd ymwelwyr i'r traethau a'r parciau cenedlaethol.

Ond dywedodd tywysydd yr Wyddfa, Gemma Davies, fod llwybr Llanberis "wedi'i orchuddio â baw dynol".

Roedd hi hefyd wedi "ffieiddio'n llwyr" gan sbwriel a gafodd ei adael ar y mynydd, meddai.

Roedd y broblem mor ddrwg fel ei bod yn gorfod rhybuddio ymwelwyr: "Osgowch y baw dynol."

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nad oes dim byd anarferol wedi cael ei adrodd iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Snowdon Hikes
Disgrifiad o’r llun,

Dywed tywysydd yr Wyddfa, Gemma Davies bod llwybr Llanberis "wedi ei orchuddio mewn baw dynol"

"Roedd 'na dipyn o faw dynol mewn cwpanau papur, o dan gerrig, ac wrth i ni fynd lawr roedd o ar y llwybr," meddai Ms Davies, a arweiniodd daith i fyny mynydd uchaf Cymru i weld codiad yr haul fore Sadwrn.

"Roedd cymaint ar lwybr Llanberis roedd yn ffiaidd."

Wrth iddi hi a chriw o ymwelwyr fynd lawr, fe gawson nhw eu syfrdanu o weld dyn yn "mynd i'r toiled ar y rheilffordd".

"Tynnodd ei bants yn gyflym a cheisio mynd i ffwrdd yn gyflym," ychwanegodd.

"Ond roeddwn i wedi ei weld yn barod, roedd fy ngrŵp i wedi ei weld yn barod. Ac roedd yn rhaid i ni gerdded heibio iddo hefyd."

Diffyg toiledau

Nid oedd yn "sefyllfa braf", meddai, gan ychwanegu ei bod yn ddig am y diffyg toiledau yn y cyffiniau.

"Doedd dim toiledau ar agor yn y gwaelod pan gyrhaeddon ni ar ôl hike saith awr," meddai.

"Dylai fod yn rhywle. Dyma'r mynydd prysuraf yn y DU."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un dyn ei ddal yn 'mynd i'r toiled' ar y rheilffordd, meddai Gemma Davies

Galwodd ar yr awdurdodau i ddarparu cyfleusterau.

"Roedd yn brysur iawn yn Llanberis ond doedd dim toiledau i bobl fynd iddyn nhw," meddai.

"Does dim un ar ben y mynydd oherwydd dydy'r caffi ddim ar agor.

"Dwi'n deall bod pobl eisiau mynd i'r toiled ond dydy gwneud hynny ar y llwybrau ddim yn neis i weld."

Roedd baw ci hefyd yn broblem.

"Mae angen i [bobl] fynd â'u bagiau baw i lawr efo nhw," meddai.

Pynciau cysylltiedig