Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer gemau tyngedfennol
- Cyhoeddwyd
Mae Robert Page wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y gêm ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd.
Bydd Cymru yn wynebu un ai'r Alban neu Wcráin ar 5 Mehefin i sicrhau lle yn Qatar, a bydd pedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn ystod y mis.
Mae'r hoelion wyth wedi cadw eu lle yn y garfan o 27, ond yn cael ei gynnwys am y tro cyntaf mae Nathan Broadhead o glwb Everton.
Wedi treulio'r tymor ar fenthyg gyda Sunderland, mae'r ymosodwr 24 oed o Fangor wedi sgorio 13 gôl mewn 26 ymddangosiad yn Adran Un.
Yn dod yn ôl i'r garfan yn dilyn anaf mae'r golwr Danny Ward a Kieffer Moore, a symudodd i Bournemouth fis Ionawr.
Mae Gareth Bale hefyd yn cael ei gynnwys er y diffyg gemau i Real Madrid, yn ogystal ag Aaron Ramsey.
Tra bydd y rhan fwyaf o'r sylw yn canolbwyntio ar y gêm fawr ar 5 Mehefin yng Nghaerdydd - gyda Chymru'n gobeithio cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 - hon hefyd fydd ymgyrch gyntaf Cymru yn haen A Cynghrair y Cenhedloedd.
O ganlyniad bydd sawl gêm yn cael ei chwarae dros gyfnod o bythefnos, gan gynnwys yn erbyn rhai o dimau cryfaf y cyfandir.
Gemau Mehefin
1 Mehefin, 17:00 - Gwlad Pwyl v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)
5 Mehefin, 17:00 - Cymru v Yr Alban neu Wcráin (Cwpan y Byd)
8 Mehefin, 19:45 - Cymru v Iseldiroedd (Cynghrair y Cenhedloedd)
11 Mehefin, 19:45 - Cymru v Gwlad Belg (Cynghrair y Cenhedloedd)
14 Mehefin, 19:45 - Iseldiroedd v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)
Y garfan yn llawn
Hennessey, Ward, A Davies
B Davies, Rodon, Mepham, Gunter, Norrington-Davies, Roberts, N Williams
Allen, Morrell, Ampadu, Smith, Ramsey, Levitt, Matondo,Thomas, Colwill, Wilson, J Williams
Bale, James, Harris, Broadhead, Moore, Johnson
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022