Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru i herio Gwlad Belg eto

  • Cyhoeddwyd
cymru - ffindirFfynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Fe fydd Cymru yn herio Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 2022.

Mae'n golygu y bydd Cymru yn wynebu'r tîm sydd ar frig rhestr detholion y byd, Gwlad Belg, yng ngrŵp A4.

Chwaraeodd y Cymry yn erbyn y Belgiaid ddwywaith yn 2021 fel rhan o rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Gwlad Belg oedd yn fuddugol ar y cyfandir, tra bod Cymru wedi sicrhau gêm gyfartal yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Roedd y ddau dîm yn yr un grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2016 hefyd, cyn wynebu ei gilydd yn rownd wyth olaf y bencampwriaeth.

Ymgyrch gyntaf Cymru yn haen A

Seren Gwlad Pwyl ydy un o ymosodwyr mwyaf clinigol y byd yn Robert Lewandowski - sydd wedi sgorio 18 o goliau mewn 16 o gemau i'w glwb Bayern Munich y tymor hwn.

Er nad yw'r Yr Iseldiroedd wedi bod ar frig pêl-droed rhyngwladol ers rhai blynyddoedd, mae'r tîm yn cynnwys nifer o chwaraewyr ifanc fydd yn wrthwynebwyr caled i Gymru.

Mae Cymru wedi eu herio ar wyth achlysur, a cholli pob tro.

Dyma fydd ymgyrch gyntaf Cymru yng nghynghrair A - haen uchaf y gystadleuaeth - ar ôl cael eu dyrchafu o'r ail haen.

Daeth hynny ar ôl i dîm Robert Page orffen ar frig y grŵp oedd yn cynnwys Y Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.