Ffigyrau perfformiad y GIG yn agos i'r gwaethaf erioed

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ebrill roedd 10,391 o gleifion wedi gorfod aros dros 12 awr mewn adrannau brys - yr ail ffigwr gwaethaf erioed

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod gofal brys yn y GIG yn parhau i fod dan bwysau aruthrol, gydag adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn cofnodi ffigyrau perfformiad yn agos i'r gwaethaf erioed.

Ym mis Ebrill dim ond 65.9% o gleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Er bod hyn yn welliant bychan ar ffigwr y misoedd blaenorol o 65.1%, dyma'r trydydd ffigwr misol gwaethaf a gofnodwyd erioed ac i lawr 9.5% o'i gymharu â'r un mis flwyddyn yn ôl.

Nid yw'r targed o 95% erioed wedi'i gyrraedd.

10,391 wedi aros dros 12 awr

Ym mis Ebrill roedd 10,391 o gleifion wedi gorfod aros dros 12 awr mewn adrannau brys - yr ail ffigwr gwaethaf erioed.

Mae targedau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylai unrhyw un fod yn aros mor hir â hynny.

Adlewyrchir y pwysau hefyd ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans.

Ym mis Ebrill, dim ond 51.2% o ymatebion i alwadau coch - yr achosion mwyaf difrifol - a gyrhaeddodd o fewn wyth munud.

Mae hyn 0.1% yn unig yn uwch na'r mis blaenorol. Y targed yw 65%.

Disgrifiad,

Penderfynodd Bob Parry fynd a'i wraig i'r ysbyty ei hun, gan nad oedd ambiwlans ar gael

Pan ddisgynnodd belen wair ar Lesley Parry ar ei fferm yn Llanbabo, Ynys Môn, cafodd ei gwr Bob wybod na fyddai ambiwlans ar gael i'w helpu am rai oriau.

Roedd hi'n "simsan" ac yn amlwg wedi cael anaf, meddai Bob, ond dywedodd y gwasanaeth ambiwlans y byddai'n rhaid aros nes 23:00, neu hyd yn oed y bore wedyn am gymorth.

Penderfynodd Bob fynd a Lesley i'r ysbyty ei hun, er iddi ddod i'r amlwg nes ymlaen ei bod wedi torri asgwrn yn ei gwddf a'i chefn.

"Dyna pam nes i fynd a hi, am mod i'n gweld yr amser mor hir", meddai.

"Os da chi'n brifo da chi isio cael sylw strêt awê does. A da chi isio pobl sy'n dallt ei waith."

'Dim dewis arall'

"Dwi yn dallt [na fedran nhw gyrraedd pob man bob tro] ond iesgob ma' na bobl yn brifo does?

"Sa nhw wedi medru cael paramedic yma, sa nhw wedi medru cael air ambulance yma. Dim son am rheiny."

Ychwanegodd: "Dyna 'di'r peth mwya, do'n ni ddim yn gwybod be oedd 'di digwydd iddi hi.

"Ro'n ni'n gwybod bo hi wedi brifo ond do'n ni ddim yn gwybod bo hi wedi torri gwddw a do'n ni ddim yn gwybod bo hi wedi torri'i chefn.

"Ro'n i'n chansio yn mynd a hi toeddwn?

"Doedd gen i'm dewis arall. Roedd rhaid. Do'n i ddim yn mynd i aros tan y bore."

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos twf arall eto yn y rhestr aros am driniaethau wedi'u cynllunio, gyda'r triniaethau sydd eto i gael eu cynnal yn codi i dros 700,000 am y tro cyntaf.

Mae'r ffigyrau'n dangos cynnydd o 1.4% ers y mis blaenorol, i 701,000.

Mae dros draean o'r rheiny wedi aros dros 36 wythnos am driniaeth a 54% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.

Y targed yw y dylid trin 95% o fewn yr amser hwn.

Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud fod yr adroddiad yn "hollol annerbyniol".

Dywedodd Eluned Morgan y dylai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod wedi gwella ar ôl arolygiad diweddar.

"Mae'n siomedig iawn na chafodd ei wneud a dyna pam ein bod yn gwneud asesiadau yn yr wythnosau nesaf o ran yr hyn a wnawn, neu os ydym eisiau dwysau'r mater mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd penodol hwnnw."

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun i leihau cyfnodau aros, meddai, sy'n cynnwys parhau â thriniaethau ar benwythnosau.

Dywedodd Eluned Morgan na fydd staff yn cael eu "gorfodi" i weithio mwy o oriau.

Ychwanegodd: "Bydd cymhellion os hoffent fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

"Rydym ni'n clywed gan rai llawfeddygon fod ganddynt ddiddordeb yn y cyfleoedd penodol hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth i'r gwasanaeth iechyd barhau i adfer o'r pandemig, a mwy o bobl yn dod ymlaen â phryderon iechyd, rydym wedi gweld y nifer uchaf o atgyfeiriadau am apwyntiad claf allanol cyntaf ers mis Ionawr 2020, gydag ychydig dros 115,000 o atgyfeiriadau wedi'u gwneud ym mis Mawrth.

"Mae'r cynnydd hwn yn helpu i egluro pam mae cyfanswm maint y rhestrau aros wedi cynyddu 1.4% ers y mis blaenorol.

"Dylid nodi bod lefelau gweithgarwch ar gyfer triniaeth a chleifion allanol ar eu huchaf ers dechrau'r pandemig.

"Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol ym mis Mawrth oedd yr uchaf ers mis Ionawr 2020 (255,384). Ar ben hyn, roedd nifer y triniaethau cleifion mewnol ac achosion dydd ar ei uchaf ers dechrau'r pandemig."

Ychwanegodd y llefarydd: "Er bod cyfanswm y niferoedd sy'n aros am brofion diagnostig yn parhau i gynyddu, mae'r niferoedd sy'n aros yn hirach na'r targed wyth wythnos wedi gostwng am yr ail fis yn olynol i'w lefel isaf ers mis Ebrill 2021 a chan 4.9% o'i gymharu â mis Chwefror 2022.

"Gwelodd mis Mawrth hefyd y lefel uchaf o weithgarwch mewn gwasanaethau canser ers mis Rhagfyr 2020."