Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
A470

Mae dynes wedi marw a thri pherson arall wedi cael eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal rhwng Dolwyddelan a Betws-y-Coed tua 16:45 yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys car Renault Captur lliw hufen a hen gar Daimler lliw llwydfelyn.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod dynes yn ei 60au oedd yn teithio yn y Daimler wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn oedd yn gyrru'r Daimler a pherson oedd yn teithio yn sedd flaen y Renault eu cludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke.

Mewn ambiwlans arferol y cafodd gyrrwr y Renault ei gludo i ysbyty yn Stoke.

Ond dywed yr heddlu bod y tri wedi cael anafiadau all beryglu bywyd.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau tra bod swyddogion fforensig arbenigol yn cynnal ymchwiliadau cychwynnol.

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr un rhan o'r A470 tua'r un pryd rhag ofn eu bod wedi gweld un o'r ddau gerbyd cyn y gwrthdrawiad.

"Rydym yn credu bod y Renault yn teithio i gyfeiriad ardal Betws-y-Coed a'r Daimler yn teithio'r ffordd arall tua Dolwyddelan," meddai'r Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd.

Mae'n diolch teithwyr a phobl leol "am eu hamynedd" tra bo'r ffordd yn dal ar gau, ac yn dweud eu bod "yn meddwl am bawb oedd yn rhan" o'r achos.

Pynciau cysylltiedig