Llywodraeth Cymru'n ymateb i ymchwiliad hiliaeth mewn ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "condemnio bwlio a cham-drin hiliol" ar ôl i ymchwiliad gael ei lansio i sut gafodd bachgen 11 oed ei anafu mewn ysgol yn Abertyleri.
Yn ôl Heddlu Gwent, maen nhw'n gweithio gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri fel rhan o "ymholiadau" sy'n digwydd mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddydd Mercher.
Mae tudalen GoFund Me wedi cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer triniaeth y disgybl ac mae bellach wedi cyrraedd dros £15,000.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn "adroddiad o ddigwyddiad mewn ysgol yn Abertyleri tua 13:00 ddydd Mercher 18 Mai lle cafodd bachgen 11 oed ei anafu.
"Mae cyfarfod aml-asiantaeth wedi ei gynnal ac ry'n ni'n gweithio gyda'r ysgol fel rhan o'n ymholiadau sy'n parhau," dywedodd llefarydd.
Ar ran Cymuned Ddysgu Abertyleri, dywedodd llefarydd eu bod yn "gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent a'r awdurdod lleol i sefydlu holl fanylion y digwyddiad.
"Mae lles a diogelwch ein disgyblion a staff yn parhau i fod o bwys mwyaf."
Ychwanegodd y llefarydd na fyddai'r ysgol yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.
'Condemnio'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "condemnio bwlio a cham-drin hiliol mewn unrhyw ffordd...
"... mae disgwyl i gyhuddiadau o ddigwyddiadau o fwlio a hiliaeth gael eu hymchwilio'n llawn gan ysgolion gan gymryd camau addas i ymateb i'r mater ac atal achosion eraill rhag digwydd."
"Ry'n ni'n deall bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio gan yr ysgol a'r awdurdod lleol, a bod Heddlu Gwent yn ymwneud â chynnal ymchwiliad. O ganlyniad, mi fyddai'n anaddas i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."