Torri record byd ar ôl crôl tafarndai yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

I faint o dafarndai aeth Gareth Murphy mewn 24 awr i dorri record byd?

Cafodd Gareth Murphy o Gaernarfon y noson orau erioed 'nôl ym mis Chwefror 2022 ar ôl iddo ymweld â 56 o dafarndai Caerdydd er mwyn torri record byd.

Ond, bu'n rhaid i Gareth aros tan 19 Mai nes cael llythyr gan Guiness World Records yn cadarnau fod ei ymgais wedi bod yn llwyddiannus.

Y record byd mae wedi llwyddo i'w dorri yw ymweld â'r nifer fwyaf o dafarndai mewn 24 awr. Roedd rhaid iddo gyflawni'r her fel unigolyn a phrynu ac yfed diod feddal neu alcoholig ymhob un.

Yn flaenorol, Matt Ellis oedd yn dal y record yma ar ôl ymweld â 51 o dafarndai yng Nghaergrawnt a thref St Neots fis Hydref 2021.

Gwireddu Breuddwyd

Mae wedi bod yn siwrne hir i Gareth i wireddu ei freuddwyd a thorri record byd ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus.

Eglura: "O'n i'n meddwl ddeg mlynadd yn ôl y basa'n rwbath reit cŵl i 'neud, dwi'm yn gwybod faint o bobl o Gaernarfon sydd 'di torri un o'r blaen. O'n i'n meddwl mae 'na gorfod bod rwbath 'swn i'n gallu neud, unwaith nes i weld yr un pub 'ma, nes i feddwl, dwi am 'neud hwn ia!"

"Dwi 'di trio torri sawl un o'r blaen jest yn fy amsar fy hun. Dwi 'di trio yfad litr o gravy, aeth hwnna ddim yn dda iawn. Nes i drio taflu iâr rubber 'ma, faint o bell o'ch di'n gallu mynd... aeth hwnna ddim yn dda iawn chwaith.

"Does 'na 'run ohonyn nhw wedi mynd yn dda iawn heblaw am yr un pubs 'ma so dwi'n ddiolchgar rŵan, ga' i stopio 'neud hyn rŵan."

Ymateb Bradley Walsh

Un wnaeth ryfeddu at ddyfalbarhad Gareth i dorri record byd oedd y cyflwynydd Bradley Walsh ar raglen Beat The Chasers yr wythnos hon. Roedd Gareth yn un o'r cystadleuwyr ac roedd Bradley Walsh yn g'lana chwerthin wrth i Gareth adrodd ei droeon trwstan wrth geisio torri record byd.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Bradley Walsh, cyflwynydd rhaglen Beat The Chasers gafodd ei ryfeddu gan Gareth, un o gystadleuwyr y rhaglen fis Mai 2022

Llongyfarchiadau Gareth!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig