Arholiad mathemateg wedi 'lladd morâl' disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder fod rhai cwestiynau mewn arholiad mathemateg Uwch Gyfrannol eleni yn cyfeirio at bynciau oedd wedi eu dileu o'r cwrs.
Mae'r bwrdd arholi CBAC yn gwadu hynny, ond yn ôl disgybl o Sir Ddinbych mae'r profiad o sefyll yr arholiad wedi "lladd morâl" nifer o bobl ifanc.
Dywedodd athro, oedd eisiau aros yn ddienw, wrth BBC Cymru bod tocio wedi bod ar y cynnwys oherwydd y pandemig, a'i fod yn credu mai camgymeriad oedd cynnwys y cwestiynau dan sylw.
Dywed CBAC nad oedd unrhyw gwestiwn yn yr arholiad yn dibynnu ar ddealltwriaeth o gynnwys oedd wedi ei ddileu o'r cwrs ar gyfer 2022.
'Sioc i'r system'
Roedd Elgan o Ddinbych, disgybl 17 oed ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Glan Clwyd, yn un o'r rheiny gafodd sioc wrth weld cynnwys y papur arholiad.
"O'n i'n mynd fewn i'r arholiad yn disgwyl cwestiynau penodol o'n i 'di adolygu, wedyn nes i agor y llyfryn a doedd y cwestiwn cyntaf ddim hyd yn oed i fod ar y syllabus," meddai.
"O'dd o'n bach o sioc i'r system. Es i drwy'r papur - o'dd 'na rai cwestiyna' o'n i'n oce efo - ond o'dd y rhan fwyaf o'r pethau yn y prawf bron yn amhosib. Oedd o mor anodd.
"O'i gymharu â phapurau cyn coronafeirws, dwi methu credu'r penderfyniada' sy wedi cael eu gwneud gan CBAC i roi'r papur 'ma i ni."
Dywedodd nad ef oedd yr unig un oedd wedi cael problemau gyda'r arholiad - yn ei ysgol ef ac ysgolion cyfagos hefyd.
"Nes i edrych i'r chwith ac i'r dde, ac roedd pawb yn teimlo'r un fath - pawb bron yn anobeithiol," meddai Elgan.
"O'n i 'di siarad efo ysgolion eraill wedyn - Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Bryn Hyfryd - ac roedd yr un consensws yn fanna, bod y prawf yn lot rhy anodd.
"Mae o 'di effeithio morâl fi 'bach yn mynd i'r arholiadau sydd i ddod.
"Mae 'na brawf Ffiseg sydd i ddod, ac mae 'na chunk mawr wedi cael ei gymryd allan o'r syllabus i hwnna - i fod - ond os 'di hynny'n dod fyny yn y prawf does 'na ddim allwn ni 'neud."
Mae Elgan yn un o garfan fawr o ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau uwchradd am y tro cyntaf eleni, wedi iddyn nhw gael eu canslo am y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig.
"Y tro cynta' i fi 'rioed 'neud arholiad, a gweld rhywbeth fel'na, mae o'n g'neud fi feddwl 'i be? i be maen nhw'n ei 'neud o?'
"Dwi'n meddwl bod morâl lot o bobl wedi cael ei ladd mewn ffordd efo'r prawf 'ma, oherwydd dydyn nhw ddim wedi g'neud dim byd o'r fath o'r blaen."
Dywedodd ei fod yn galw ar CBAC i "feddwl am bethau o bersbectif disgyblion, a be 'ma fel i fod yn ein sgidiau ni".
'Wastad amrywiaeth o gwestiynau'
Er i BBC Cymru geisio cysylltu gyda bwrdd arholi CBAC sawl gwaith am ymateb, ni chafwyd ateb.
Ond wrth ymateb i gais am esboniad ar Twitter, mae'r corff arholi yn dweud nad oedd unrhyw gwestiwn yn yr arholiad yn dibynnu ar ddealltwriaeth o gynnwys oedd wedi ei ddileu o'r cwrs ar gyfer 2022.
"Mae arholiadau wastad yn cynnwys amrywiaeth o gwestiynau, rhai yn fwy heriol na'i gilydd, fel y gallwn wahaniaethu'n effeithiol ar draws yr holl raddau a rhoi gradd deg i bob disgybl," meddai'r corff.
"Pan fo'r arholiadau yn cael eu marcio, mae uwch-farcwyr yn ystyried atebion myfyrwyr yn ofalus ac yn gosod terfynau'r graddau o ganlyniad i hynny.
"Os ydyn ni'n canfod, er enghraifft, fod papur eleni ychydig yn fwy heriol na blwyddyn flaenorol, bydd terfynau'r graddau ry'n ni'n eu gosod yn ystyried hynny."
Ychwanegodd y corff y bydd yn ymchwilio'n drylwyr i bob cwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022