Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 11-21 Lions

  • Cyhoeddwyd
Dreigiau v LionsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ruan Dreyer yn croesi am drydydd cais y Lions

Fe gafodd y Dreigiau ddiweddglo siomedig i dymor siomedig, gan golli yn erbyn y Lions o Dde Affrica ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Y Dreigiau sgoriodd y pwyntiau cyntaf wedi 22 munud, wrth i'r asgellwr Rio Dyer groesi'r gwyngalch am gais yn dilyn rhyng-gipiad gan Joe Maksymiw.

Fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl o fewn 10 munud gyda chais gan Edwill van der Merwe, ond diolch i chwe phwynt o droed Will Reed y tîm cartref oedd ar y blaen o 11-7 ar yr egwyl.

Ond aeth y Lions ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda chais Ruan Venter, cyn i Ruan Dreyer groesi am drydydd cais i'r ymwelwyr.

Mae'r Dreigiau felly wedi gorffen y tymor yn 15fed o'r 16 tîm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, wedi ennill dwy gêm yn unig drwy'r tymor.

Pynciau cysylltiedig