Arian i 'ddelio â phwysau amgylcheddol' twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Fe fydd £26m yn cael ei roi i gyfyngu effaith twristiaeth ar yr amgylchedd a chyfyngu ôl troed carbon Cymru.
Bydd yr arian sy'n cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru hefyd yn mynd tuag at wella trafnidiaeth gyhoeddus mewn mannau sy'n denu llawer o ymwelwyr a gwella mynediad i gefn gwlad.
Yn ôl y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wrth i fwy o bobl ymweld ag ardaloedd gwledig a'r arfordir yng Nghymru mae angen sicrhau ffyrdd o ymdopi.
"Wrth i fwy o bobl ddarganfod cefn gwlad Cymru, mae'n rhaid i ni sicrhau y gall ddelio â'r pwysau," meddai.
"Ein gweledigaeth yw cefn gwlad lle gall cymunedau barhau i weithio a ffynnu, lle gall ymwelwyr fwynhau tra'n gadael ôl troed yn unig ar ôl, a lle gall planhigion a bywyd gwyllt ffynnu unwaith eto.
"Mae natur yn rhoi'r offer i ni fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn ein galluogi i deimlo'n well yn ein hunain pan fyddwn yn cysylltu ag ef - mae'n iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu amdano."
Mwy o bwyntiau gwefru
Roedd Julie James yn siarad wrth agor pwyntiau gwefru newydd ar gyfer ceir trydan ym mhentref Llanusyllt (Saundersfoot) ar arfordir Sir Benfro.
Erbyn hyn, mae 74 o bwyntiau gwefru ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a'r gred yw mai dyma'r nifer fwyaf mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig.
"Dwi'n falch heddi bod ni'n agor rhwydwaith i wefru cerbydau trydan ar ddrws y Parc Cenedlaethol yma yn Sir Benfro," meddai prif weithredwr y parc, Tegryn Jones.
"Bydd y capacity gyda ni i wefru 120 o geir ar draws y Parc Cenedlaethol. Felly y gobaith yw bod hwnna'n rhoi hyder i bobl leol i symud i gerbydau trydan ond hefyd i ymwelwyr i'r ardal i gael yr hyder i ymweld â'r ardal gyda'u cerbydau trydan - gyda'r hyder a'r sicrwydd bod gyda ni lefydd i wefru.
"O ran sefydliadau 'dan ni yn gyson gyda sefydliadau eraill yng Nghymru yn gweithio tuag at leihau ôl troed carbon erbyn 2030.
"Mae'n mynd i fod yn dipyn mwy o sialens i weithio i gael gwared [ar lefelau carbon] o safbwynt twristiaeth ond byddwn ni'n gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth i'w cefnogi nhw a chydweithio gyda nhw er mwyn cwrdd â'r amcan yna mor gloi â phosib."
Mynediad gwell i bobl anabl
Bydd yr arian hefyd yn gwneud mannau gwledig yn fwy hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn.
Yn ôl Tegryn Jones, oedd yn siarad gyda BBC Cymru ger traeth Llanusyllt, mae yna safleoedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n addas at anghenion pawb.
"Mae yna rannau sy'n hygyrch iawn. Rydyn ni yn ardal Saundersfoot, ddim yn bell o Amroth, felly ma' canran sylweddol o lwybr yr arfordir yn yr ardal yma yn hygyrch i bobl llai abl ac sydd mewn cadair olwyn.
"Wrth gwrs mae rhannau eraill o'r llwybr lle bydde fe'n anodd iawn i neud e yn hygyrch ond y gobaith yw bod 'da ni nifer o safleoedd ar draws y parc sy'n gallu bod yn hygyrch i bawb."
Ar draethau Sir Benfro, mae bellach modd llogi cadair olwyn sy'n addas ar gyfer ei defnyddio ar draethau.
Er hynny, mae rhai yn y gorffennol wedi cwyno nad oes digon o wybodaeth am fynediad anabl mewn rhai lleoliadau twristaidd yng Nghymru.
Mae Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yn cydnabod bod angen codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau hynny.
"Rwy'n cytuno bod angen i ni gael y wybodaeth hynny allan. Mae pobl angen cael gwybod lle i gael y cadeiriau olwyn hynny," meddai Julie James wrth Newyddion BBC Cymru.
"Bydd llefydd fel y cyfleuster newydd, sef cadeiriau olwyn ar y traeth ar harbwr Llanusyllt, yn helpu'n fawr."
Angen darparu ar gyfer beics
Mae Teifryn Williams o Aberdaugleddau yn rhedeg teithiau cerdded a seiclo yn yr ardal. Yn ei farn e, mae angen ei gwneud hi'n haws mynd ar fws gyda beic neu gadair olwyn.
"Mae eisiau gwelliannau achos os yw rhywun eisiau cerdded, mae bws yn mynd o amgylch yr arfordir ond os ti'n mynd ar gefn beic, s'dim lle i roi y beic," meddai.
"Mae'n rhaid i nhw gael trelar tu ôl y bws neu bydd rhaid i nhw gael bws arall i fynd â'r beiciau. Dydyn nhw ddim wedi deall eto bod lot yn fwy o bobol mo'yn beicio nawr.
"Mae'r un peth â chadair olwyn. Mi allen nhw roi cadeiriau olwyn yn y fan er mwyn i bobol mewn cadeiriau olwyn allu mynd am dro... a dal y bws nôl i lle bynnag maen nhw'n aros.
"Mae twristiaeth yn dipyn o dreth ar y byd o ran carbon footprint... felly mae'n rhaid newid hwnna, cael mwy o bobol i fynd ar drenau, ar y bws, a pheidio gyrru'r car.
"Hyd yn oed car trydan... dyw car trydan ddim yn hollol wyrdd achos mae'n rhaid gwneud y car i ddechrau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Awst 2017