'Diffyg gwybodaeth' am fynediad anabl i atyniadau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae "diffyg gwybodaeth" am fynediad anabl mewn rhai lleoliadau twristaidd yng Nghymru yn "cipio rhyddid pobl anabl i ffwrdd" oddi wrthyn nhw, yn ôl grŵp ymgyrchu.
Dywedodd Anabledd Cymru bod rhai mannau yn cael eu hystyried i fod yn rhai anhygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl gyda phroblemau symudedd.
Mae'r mater wedi ei amlygu gan fenyw 47 mlwydd oed o Rhondda Cynon Taf, sydd wedi ei pharlysu'n rhannol ac yn ceisio cyflawni Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Amanda Harris, a gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn damwain seiclo saith mlynedd yn ôl, yn benderfynol o gyflawni'r her 870 milltir wrth ddefnyddio cadair olwyn, treic a baglau pan fo angen.
Mae Ms Harris hefyd wedi dechrau gweithio gyda Llwybr Arfordir Cymru i nodi gwelliannau posibl i fynediad anabl.
Mae ei hanaf yn golygu mai dim ond am bellteroedd byr y gall hi gerdded ac fel arall mae hi'n defnyddio cadair olwyn.
'Diffyg gwybodaeth'
Yn dilyn y ddamwain, nid oedd Ms Harris yn meddwl y gall hi fynd i rai lleoliadau byth eto.
"Mae'n ymwneud â gwella gwybodaeth. Mae 'na ddiffyg gwybodaeth ar hyn o bryd," meddai.
"Dwi 'di bod yn dibynnu ar bobl i ddweud wrtha i be' sy'n hygyrch a be' sydd ddim.
"Mae pob problem symudedd yn wahanol, felly efallai na fydd yr hyn y mae rhywun yn ei weld yn hygyrch yn hygyrch i mi.
"Felly mae'n ymwneud â chael y wybodaeth honno allan yna fel bod pobl yn gallu gweld sut le yw'r tirwedd, ac yna gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain."
Dywedodd Miranda Evans, rheolwr polisi a rhaglenni Anabledd Cymru, bod y mater yn "cipio rhyddid pobl anabl i ffwrdd".
"Mae angen ateb nad yw'n cyfyngu ar fynediad pobl anabl oherwydd mae o hefyd yn effeithio ar rieni, gofalwyr ac aelodau eraill o'r teulu," meddai.
'Dinistrio profiad a churo hyder'
"Mewn rhai mannau harddwch, ac ar hyd llwybr yr arfordir, efallai bydd yn rhaid i bobl anabl droi o gwmpas a mynd adref oherwydd nad ydyn nhw'n gallu symud ymlaen ar y llwybrau.
"Mae'n dinistrio'r profiad ac yn curo hyder pobl, ac nid ydyn nhw'n debygol o fentro mor bell â hynny eto."
Dywedodd y grŵp ymgyrchu eu bod eisiau gwell gwybodaeth ar-lein "ar flaenau ein bysedd".
Tricia Cottnam yw'r swyddog ar gyfer rhan de Cymru o'r llwybr arfordirol sy'n cwmpasu'r llwybr rhwng Gŵyr a Chas-gwent yn y dwyrain.
"Yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw cael cymaint o bobl â phosib i ddefnyddio'r llwybr," meddai.
"Bydd cyfyngiadau oherwydd ei natur. Mi ddewch chi ar draws arwynebau creigiog ar glogwyni, graddiannau serth a thwyni tywod ond dyna natur a harddwch llwybr yr arfordir," meddai.
"Ond mae yna newidiadau bach y gallwn ei wneud, lle gallwn esbonio'r graddiannau, esbonio'r math o arwyneb a allai fod yno, y math o gatiau neu gamfeydd sydd ar rannau o'r llwybr, fel y gall pobl benderfynu a ddylid gwneud y siwrnai honno neu beidio.
"Ac mae'n ymwneud â disgrifiad ac nid presgripsiwn. Ni all fod yn'one size fits all' - rhaid inni fod yn hyblyg."
'Gwella'r sefyllfa i lawer'
I Ms Harris, mae her y llwybr yn profi'n anoddach na'r disgwyl.
Mae hi wedi cwblhau 50 milltir hyd yn hyn ac wedi bod yn codi arian ar gyfer Gardd Horatio, sy'n creu gerddi yng nghanolfannau anafiadau asgwrn cefn y GIG, ac elusen Rookwood Spur.
Bydd yr arian yn darparu lle tawel i gleifion yn Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg, ble mae'r Ganolfan Adsefydlu Cord Asgwrn Cefn Cymru newydd, a fydd yn cymryd lle y cyfleusterau ar safle Rookwood.
"Dwi'n credu bod yna feysydd eisoes y gellid eu gwella fel mynediad ochr yn ochr â chamfeydd a chyrbau palmant wedi'u gollwng mewn rhai lleoedd, a dwi eisoes wedi bwydo'r wybodaeth honno yn ôl i Lwybr Arfordir Cymru," meddai Ms Harris.
"Dwi'n gwybod na fydd rhai ardaloedd yn y Gŵyr, Sir Benfro a Phen Llŷn yn hygyrch i mi ond mae gen i dîm o gynorthwywyr a fydd yn gwneud y rhannau hyn na alla i eu gwneud.
"Mae'n mynd i fod yn daith wych. Dwi wrth fy modd fy mod yn dod o hyd i leoliadau sy'n hygyrch ac yn cael y wybodaeth honno allan ac yn gwella'r sefyllfa i lawer o bobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd28 Awst 2017