Dod â data bywyd gwyllt yn fyw ar Ynys Echni

  • Cyhoeddwyd
Neidr ddefaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys Echni yn gynefin i nadroedd defaid (slow worms) a nifer o rywogaethau eraill

Mae prosiect yn gobeithio tynnu sylw at y cyfoeth o fywyd gwyllt prin ar Ynys Echni, oddi ar arfordir de Cymru.

Dyw nifer ddim yn ymwybodol o'r amrywiaethau o blanhigion, anifeiliaid na hanes yr ynys, na chwaith y gwaith mae'r wardeniaid ar Ynys Echni'n ei wneud.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Met Caerdydd wedi helpu datblygu dull o ddarlunio data ar fywyd gwyllt a thywydd yr ynys, sy'n cael ei arddangos yn Techniquest ym Mae Caerdydd.

Yn ôl wardeniaid yr ynys, mae'n "gyfle cyffrous iawn" i ennyn diddordeb pobl yn yr ymdrechion cadwraethol ar Ynys Echni.

Bywyd ar yr ynys

"Mae'n eich gwneud chi'n wirioneddol ddiymhongar yn byw yma, a 'dych chi'n deall y bydd natur bob amser yn ennill, waeth be' dych chi'n ei wneud."

Dyw bywyd ar yr ynys ddim o hyd yn hawdd, yn ôl un o'r wardeniaid, Pierre Court.

Dim ond ers rhai misoedd mae Pierre, 23, a Heidi Aguirregoicoa, 21, wedi bod yn wardeniaid ar Ynys Echni.

"Mae'n brofiad hollol unigryw. Dwi erioed wedi gweld lle fel hwn," meddai Heidi.

Gyda'r profiad unigryw, daw ystod eang o gyfrifoldebau.

"Mae'n swydd rheolwr, ond mae'n wahanol iawn i fod yn rheolwr mewn swyddfa," meddai Pierre.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw bywyd ar yr ynys ddim o hyd yn hawdd, yn ôl un o'r wardeniaid, Pierre Court

Yn ogystal â chyfrifoldeb am wirfoddolwyr yr ynys, mae'r wardeniaid yn cynnal teithiau tywys, yn rhedeg tafarn yr ynys - y dafarn fwyaf deheuol yng Nghymru - yn cynnal a chadw adeiladau ac isadeiledd ac yn sicrhau bod ganddynt ddŵr glân i'w yfed a'i ddefnyddio.

"'Da ni'n casglu ein holl ddŵr o ddŵr glaw. Yna mae'n cael ei storio mewn tanc Fictoraidd o dan y ddaear a'i hidlo sawl gwaith. Ac yna fe allwn ni ei yfed o'r diwedd a'i ddefnyddio yn y llety," ychwanegodd Pierre.

"Yn y bôn 'dyn ni'n defnyddio'r dŵr 'dyn ni wedi'i gasglu trwy gydol y gaeaf a bydd yn para'r haf cyfan i ni. Felly, mae hwn yn bryder mawr i ni."

Cadwraeth

I'r wardeniaid a'r gwirfoddolwyr, mae gwaith cadwraeth wrth galon bywyd ar Ynys Echni.

Er ei bod yn fwyaf adnabyddus efallai am arbrofion Marconi gyda negeseuon radio ar ddiwedd y 19eg ganrif, mae Ynys Echni wedi bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ers 1972.

Yn gartref i boblogaeth enfawr o wylanod, mae'r ynys hefyd yn gynefin i nadroedd defaid (slow worms) gyda marciau glas unigryw, yn ogystal â gwyfynod, gloÿnnod byw a chwningod.

Mae hefyd yn gartref i nifer o blanhigion prin, fel lafant môr y graig, peonies gwyllt a chennin gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n brofiad hollol unigryw - dwi erioed wedi gweld lle fel hwn," meddai Heidi Aguirregoicoa

Er mwyn cadw golwg ar fywyd gwyllt, mae'r wardeniaid yn cynnal arolygon rheolaidd.

"Mae rhai o'n harolygon yn fisol ac yn wythnosol, ac mae rhai yn ddyddiol. Yr arolwg dyddiol yw'r arolwg adar," esboniodd Heidi.

"'Dyn ni'n gwneud taith hir gron am awr bob bore, tua 07:30 o amgylch ymylon yr ynys."

Maent yn gwneud cyfrif bras o adar a nodi rhifau a mathau o wyfynod, gloÿnnod byw a nadroedd defaid.

Technoleg newydd

Newidiodd y ffordd y maen nhw'n cofnodi'r data hwn yn ddiweddar, gyda datblygiad prosiect newydd a ddaeth ag Awdurdod Harbwr Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, asiantaeth marchnata technegol o Gaerdydd, Yard a Techniquest ynghyd.

Gyda'r bwriad o ddod â'r data'n fyw, datblygwyd ap newydd sy'n caniatáu i'r wardeniaid gofnodi eu canfyddiadau a'u huwchlwytho ar unwaith.

Er eu bod wedi arfer â'r "ffordd draddodiadol o ddefnyddio beiro a phapur," yn ôl Heidi, mae'r dull newydd yn gyflymach ac nid oes risg y bydd y data'n cael ei golli.

Yn ogystal â chyfrannu at setiau data cadwraeth pwysig, mae'r gwaith y maent yn ei wneud ar yr ynys bellach yn bwydo'n uniongyrchol i arddangosyn yn Techniquest ym Mae Caerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar yr ynys bellach yn bwydo'n uniongyrchol i arddangosyn yn Techniquest ym Mae Caerdydd

Er gwaethaf yr heriau a oedd ynghlwm wrth ddatblygu'r prosiect yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, helpodd y pandemig i dynnu sylw at y ffordd rydyn ni'n ymgysylltu â data, yn ôl Dr Fiona Carroll, arbenigwr ar ein perthynas â chyfrifiaduron ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

"Dechreuodd pobl flino gan lawer o'r data cymhleth a oedd yn dod trwy'r ystadegau, y graffiau," meddai.

"Felly, rydyn ni wedi creu argraff data, ac mae hynny wir wedi cael ei ysbrydoli gan fynd yn ôl i'r 1800au a'r Argraffiadwyr Ffrengig."

Mae'r arddangosyn rhyngweithiol yn galluogi pobl i wasgu botymau i ddod â'r arddangosfa'n fyw.

Mae'n adlewyrchu'r nifer o wahanol anifeiliaid ar yr ynys, gan ddefnyddio lliwiau a phatrymau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Fiona Carroll y gall delweddu data helpu'r cyhoedd i gael gwell dealltwriaeth o'r byd o'u cwmpas

Mae data am y tywydd ar yr ynys hefyd yn cael ei gasglu a'i ddelweddu gan ddefnyddio prismau sy'n cylchdroi i ddangos graddau amrywiol o wynt, glaw neu heulwen.

Er mai nod y prosiect hwn yw "cydgysylltu pobl mewn ffordd newydd am Ynys Echni," mae cynlluniau i geisio defnyddio'r dulliau a'r dechnoleg mewn lleoliadau ymarferol eraill.

"Mae gennym ni ddata yn dod allan o'n clustiau bob eiliad o'r dydd. 'Dyn ni'n cynhyrchu mwy a mwy o ddata," esboniodd Dr Carroll.

Mae hi'n dweud y gallai delweddu data helpu'r cyhoedd i gael gwell dealltwriaeth o'r byd o'u cwmpas, fel mesur llygredd aer ar strydoedd neu wneud synnwyr o gostau cynyddol bwyd mewn archfarchnadoedd.

Dyfodol yr ynys

I wardeniaid yr ynys, mae gwybod bod eu gwaith yn dod yn fyw wedi bod yn "hynod gyffrous".

"Mae'n gyffrous iawn gwybod bod y cyhoedd yn mynd i allu profi Ynys Echni o bell," meddai Heidi.

Mae'n farn a rennir gan Pierre, hefyd. "Mae'n ein helpu ni i adeiladu'r berthynas yma gyda'r ymwelwyr a'r cyhoedd," meddai.

"Mae hyn newydd ddechrau felly rydyn ni wir yn gobeithio y bydd gennym ni ymwelwyr yn dod i'r ynys drwy gydol tymor yr haf yn dweud, 'O ie, roeddwn i yn y Techniquest a weles i'r holl ddata'.

"Rydym yn gobeithio bod hyn yn mynd i helpu Ynys Echni dyfu hyd yn oed yn fwy, a helpu pobl i fynd i faes cadwraeth."