Seddi pafiliwn yr Eisteddfod: Pob sedd bellach ar gael

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pafiliwn

Mae pob sedd o fewn pafiliynau Eisteddfod yr Urdd "bellach ar gael i'w defnyddio", yn dilyn problem diogelwch ddydd Llun.

Roedd dros 1,000 o seddi'r tri phafiliwn - sef hanner y capasiti - ar gau ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl, ac roedd yna giwiau mawr tu allan gan fod yna lai o le i bobl gael eistedd.

Bu'n rhaid cymryd y cam yn sgil problem gydag eisteddle mewn digwyddiad arall a gafodd ei osod gan yr un contractwyr ag sy'n darparu seddi'r eisteddfod.

Ond yn siarad fore Mawrth, dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Mae'r tri phafiliwn bellach ar gael i'w defnyddio, ac maen nhw'n llawn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Urdd wybod ddiwedd wythnos ddiwethaf nad oedd yr holl seddi ar oledd yn y tri phafiliwn yn saff i'w defnyddio

Disgrifiad o’r llun,

Cannoedd yn ciwio tu allan i'r Pafiliwn Gwyn ddydd Llun gan mai nifer cyfyngedig oedd yn gallu mynd mewn

Yn gynharach, roedd prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn "hyderus" y byddai modd datrys y broblem yn ymwneud â'r seddi yn ystod y dydd.

"Yn sicr, mae'r broblem allan o'n dwylo ni," meddai Siân Lewis ar raglen Dros Frecwast.

"Fe gafon ni nifer fawr o drafodaethau ddoe 'efo HSC sydd yn rheoli yr holl ddigwyddiad o'r ochr yna.

"Dwi'n hyderus y bydd y broblem wedi ei datrys.

"Mae'n bwysig nodi hefyd nad oedd dim un person wedi colli allan ar gweld eu plant a phobl ifanc yn cystadlu ac o gael y cyffro yna a'r mwynhad o'i weld ar wynebau y cystadleuwyr a hefyd wynebau eu teuluoedd.

"Felly yn sicr 'da ni yn gobeithio erbyn heddiw bydd y broblem wedi ei datrys. Byddwn ni yn cael diweddariad yn fuan bore heddiw o'r sefyllfa."