Eisteddfod yr Urdd 2022: 'Da ni yma o'r diwedd!'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Pobl yn cyrraedd y maes ar gyrion Dinbych ben bore Llun

Am y tro cyntaf ers 2019, mae pobl yn heidio i faes Eisteddfod yr Urdd wedi i'r pandemig orfodi trefnwyr i ohirio'r ŵyl flynyddol ddwywaith.

Roedd yn fwriad yn wreiddiol i gynnal Eisteddfod Sir Ddinbych, ar gaeau Fferm Kilford ar gyrion Dinbych, yn 2020.

Dyma'r ŵyl fwyaf i'w chynnal wyneb yn wyneb yng Nghymru ers cyn Covid, ac mae'n cyd-fynd â chanmlwyddiant y mudiad ieuenctid.

Mae sawl newid i'r trefniadau eleni gan gynnwys mynediad i'r maes am ddim, tri phafiliwn ar gyfer y cystadlu a dim rhagbrofion.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma rai o'r bobl gyntaf i gyrraedd y maes ben bore Llun

'Cyffrous - a nerfus'

"Fedra' i'm credu'r peth - 'da ni yma o'r diwedd wedi pedair mlynedd hir o baratoi ac o edrych ymlaen," dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Dyfan Phillips ar raglen Dros Frecwast.

"Mae'n anodd credu bod y diwrnod wedi cyrraedd a 'da ni yma!"

"Mae o mor gyffrous bod yma bore ma," meddai cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian. "Yn naturiol 'da ni yn nerfus, ond yn fwy na dim 'da ni yn ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wneud i hyn weithio dan amgylchiadau anodd iawn.

"Mae pobl Sir Ddinbych wedi aros yn hir iawn am yr Eisteddfod ac os oes rhywbeth da wedi dod o hwn mae nhw yn haeddu Eisteddfod y Canmlwyddiant."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ŵyl fwyaf i'w chynnal wyneb yn wyneb yng Nghymru ers cyn Covid

'Pawb wedi rhoi cant y cant'

"Mae'n siŵr mai cadw momentwm sydd 'di bod yn gri dros y ddwy flynedd diwetha ma'," meddai Dyfan Phillips.

"Mae 'di bod yn her ond dwi'n hynod ddiolchgar i'r tîm o wirfoddolwyr, y gymuned - mae pawb 'di roi cant y cant.

"Tasa unrhyw ardal yn gallu ffynnu a llwyddo yn ystod y pandemig 'ma efo paratoadau Eisteddfod yr Urdd - wel, Sir Ddinbych fasa hwnnw."

Pawb yn cael llwyfan

Dywedodd Siân Eirian bod dwy flynedd heriol y pandemig wedi eu gorfodi i "edrych ar y Steddfod mewn ffordd fel bydden ni byth wedi neud o'r blaen" gan gynnwys cystadlaethau digidol.

"Mewn Eisteddfod arferol mi oedd ganddon ni rhyw ddeuddeg canolfan rhagbrawf, felly yn Eisteddfod y canmlwyddiant mi fydd pawb yn cael llwyfan," dywedodd.

"Mi fydd ganddo ni dri pafiliwn a'r cystadlaethau rheina yn dechrau am 9 y bore. Mae 'na hen edrych ymlaen."

Bydd yna wedd newydd eleni hefyd o ran prif seremonïau'r llwyfan, gan adlewyrchu rhai o elfennau seremonïau cyfatebol yr ŵyl ddigidol, Eisteddfod T yn 2020 a 2021.

"Fe fyddan nhw yn cyhoeddi y tri sydd wedi dod i'r brig, yr un ohonyn nhw yn gwybod os ydyn nhw yn ennill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni

Daeth cadarnhad y llynedd y byddai yna fynediad am ddim i ŵyl eleni i nodi canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, yn dilyn buddsoddiad o £527,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd hynny, medd Siân Eirian, "heb os nac oni bai" yn denu pobl o'r newydd i'r Eisteddfod, boed "yn ddysgwyr, yn bobl o gyffiniau Sir Ddinbych ac ehangach" a bydd hynny'n "gyfle i ni genhadu o ran y Gymraeg".

Ychwanegodd: "Hwn ydi y digwyddiad mwyaf ers y pandemig, a falle [bydd] ambell i deulu ond yn gallu fforddio dod am un diwrnod, falle fyddan nhw yn gallu dod yma i dreulio yr wythnos".

Pynciau cysylltiedig