Oedi i gyfreithiau tai newydd yn 'siom' i denantiaid
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhuddo o siomi tenantiaid ar ôl gohirio deddf tai newydd.
Roedd disgwyl cynlluniau i ymestyn y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi ar gyfer troi allan gyda 'dim bai', o ddau fis i chwech, fis Gorffennaf eleni.
Ond o dan bwysau gan landlordiaid, symudodd gweinidogion y dyddiad i fis Rhagfyr, yn rhannol gan gyfeirio at y rhyfel yn Wcráin.
Dywedodd Plaid Cymru bod perygl y bydd hyn yn rhoi amser i landlordiaid preifat "diegwyddor" i droi tenantiaid allan.
Dywedodd yr elusen Shelter Cymru ei bod yn gweld dwywaith y nifer o denantiaid yn cael eu troi allan gan landlordiaid am ddim rheswm.
Ond croesawyd y symudiad gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, a ddywedodd fod yr amserlen wreiddiol yn afrealistig ac nad oedd digon o amser wedi bod i landlordiaid baratoi.
Symleiddio cytundebau
Pasiwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn 2016 i ailwampio'r gyfraith ar y mathau o gontractau y gall landlordiaid eu rhoi i denantiaid, gan eu symleiddio i ddau yn unig.
Diwygiwyd y gyfraith, nad oedd wedi'i gweithredu eto, yn 2021 i ymestyn y cyfnod o amser sydd ei angen ar gyfer dadfeddiant heb fai.
Byddai hefyd yn rhoi o leiaf blwyddyn i denantiaid newydd fyw yn eu cartref, ac yn gosod rheolau newydd ar landlordiaid i gadw eu cartrefi mewn cyflwr da.
Mae cynlluniau tebyg ar fater troi allan heb fai yn cael eu haddo yn Lloegr, er bod Cymru ymhellach ymlaen wrth gosod deddfwriaeth. Mae eisoes wedi'i wneud yn gyfraith yn Yr Alban.
Ym mis Ionawr fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n dod â'r gyfraith sy'n chwe blwydd oed i rym ym mis Gorffennaf eleni.
Ond mewn datganiad i'r Senedd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James y bydd yr oedi hyd at 1 Rhagfyr eleni "yn caniatáu mwy o amser i landlordiaid" baratoi.
"Rwyf dros y misoedd diwethaf wedi cael sylwadau gan landlordiaid, ac yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, sydd wedi gofyn am ohirio gweithredu'r ddeddf," ysgrifennodd.
Dywedodd y gweinidog ei bod yn gwneud y penderfyniad "yng ngoleuni'r pwysau digynsail sy'n eu hwynebu, gan gynnwys adferiad Covid a chefnogi'r rhai sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin".
Gan gydnabod y byddai'r oedi yn "ffynhonnell o rwystredigaeth", dywedodd fod paratoi cytundebau newydd a sicrhau bod eiddo'n cyrraedd safonau a nodir yn y ddeddfwriaeth "yn ymrwymiadau mawr, yn enwedig i'r landlordiaid hynny sy'n gyfrifol am nifer fawr o eiddo a thenantiaid".
'Digartrefedd yn fygythiad gwirioneddol'
Mae elusen Shelter wedi pwyso am newidiadau i'r gyfraith ar achosion o droi allan heb unrhyw fai, gan ddadlau nad yw'r cyfnod presennol o ddau fis yn ddigon o amser i ddod o hyd i rywle arall i fyw.
Roedd yr elusen wedi pryderu am yr oedi rhwng diwedd y Ddeddf Coronafeirws, a oedd yn ymestyn y cyfnod troi allan heb fai i chwe mis fel mesur brys yn ystod y pandemig, a'r ddeddfwriaeth newydd, fel cyfle olaf i droi allan ar fyr rybudd.
Dywedodd y sefydliad ei fod yn "rhwystredig" gyda'r oedi, a dywedodd ei fod eisoes yn gweld cynnydd mewn achosion o droi allan heb unrhyw fai.
Un o amodau cytundeb cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru yw bod y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn cael ei deddfu.
Dywedodd llefarydd tai'r blaid, Mabon ap Gwynfor: "I ormod o denantiaid, mae digartrefedd yn ormod o fygythiad, a nawr mae gennym ni sefyllfa lle gall troi allan ddigwydd yn gyflym iawn heb unrhyw fai arnyn nhw.
"Mae angen yr amddiffyniadau hyn ar denantiaid nawr yn fwy nag erioed, ac mae llywodraeth Lafur Cymru wedi eu siomi."
Dywedodd pennaeth polisi Cyngor ar Bopeth Cymru, Luke Young, fod yr elusen yn "siomedig bod y diwygiad tai hir-ddisgwyliedig hwn wedi cael ei ohirio ymhellach".
Dywedodd fod 14,000 wedi cysylltu â nhw am gymorth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Fodd bynnag, dywedodd Ben Beadle, prif weithredwr Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl eu bod wedi "rhybuddio ers peth amser fod amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn afrealistig a heb ddarparu digon o amser i landlordiaid baratoi.
"Mae'n galonogol bod pryderon landlordiaid wedi cael sylw, er yn hwyr yn y dydd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod yr oedi yn "dangos anallu Llafur i weithredu eu deddfwriaeth eu hunain" a bod gormod o oedi "yn achosi ansicrwydd i landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020