Jon Gower a'i 'Gymry o Fri'
- Cyhoeddwyd
Mewn llyfr newydd mae'r awdur Jon Gower yn adrodd hanes 'Cymry o Fri!' - 50 o Gymry ysbrydoledig.
Mae'r rhestr yn un amrywiol tu hwnt, gan ymdrin â'r byd gwleidyddol, chwaraeon, cerddorol, llenyddiaeth, addysg, celf ac ymgyrchu. Yma mae Jon yn trafod rhywfaint o'r bobl sy'n ymddangos yn y gyfrol.
Mae'r anthem genedlaethol yn disgrifio Cymru fel 'gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri' ac mae pobl felly, rhai talentog a dawnus yn medru ein hysbrydoli, gan efallai sylweddoli ein bod ni hefyd yn medru gwneud pethau'n dda, os nad yn dda iawn. Dyna oedd symbyliad sgrifennu y llyfr Cymry o Fri!, yn y gobaith bod darllen am 50 o bobl sydd wedi disgleirio yn eu meysydd nhw, ac yn aml-ddisgleirio'n llachar iawn, yn serennu, wir yn cynnig modelau da i'r darllenwyr.
Felly mae 'na bobl o meysydd fel gwyddoniaeth, chwaraeon, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, addysg, celf ac ymgyrchu. Pobl fel y campwraig Lauren Price, y mynyddwr Eric Jones, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y chwaraewr rygbi Gareth Edwards a'r bardd Hedd Wyn. Gallai'r llyfr fod wedi cynnwys 100 o bobl yn hawdd, ac efallai mwy na hynny, yn enwedig o gofio ffigyrau hanesyddol megis Hywel Dda, Owain Glyndŵr a'r Dywysoges Gwenllian.
I mi y rhai mwyaf ysbrydoledig yw'r rhai sydd wedi dechrau bywyd mewn amgylchiadau digon llwm, heb llawer o fantais ac yn aml mewn tlodi, ond sydd wedi llwyddo er gwaethaf y cefndir hwnnw. Un o'r rhain oedd yr ymgyrchydd Elizabeth Andrews, gafodd ei geni yn un o 11 o blant i deulu tlawd.
Roedd ei thad yn löwr yn ardal Hirwaun ac er bod Elizabeth yn breuddwydio am fod yn athrawes, bu'n rhaid iddi adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed i ddod ag arian i mewn i'r tŷ. Dechreuodd ennill cyflog drwy wneud dillad.
Pan symudodd i fwrlwm y Rhondda yn 26 oed roedd gweld y tlodi yno wedi gwneud iddi benderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch. Hi oedd Trefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, gan geisio sicrhau addysg i fenywod, ac yn 1920 daeth yn un o'r ynadon heddwch benywaidd cyntaf yng Nghymru.
Gwyddai am y straen ar fenywod oedd yn gorfod cario bwcedi o ddŵr i roi bath i'r dynion ar ôl iddyn nhw ddod adref o'r pwll glo yn ddu gan ddwst. Byddai plant hefyd yn cael ei niweidio oherwydd y dŵr berw oedd yn cael ei ddefnyddio.
Roedd sychu dillad mewn cartrefi bach yn niweidio iechyd y plant, felly ymgyrchodd Elizabeth i wella'r sefyllfa ac yn 1924 daeth cyfraith newydd oedd yn mynnu bod rhaid cael cyfleusterau ymolchi i lowyr yn y pwll glo ei hunan, sef y 'pit head baths.' I nifer o fenywod oedd yn ddiolchgar iddo am ei gwaith hi oedd 'Our Elizabeth - Ein Elizabeth ni.'
Yn y Gymru gyfoes mae un dyn yn f'ysbrydoli yn fwy na neb, sef yr actor a'r ymgyrchydd Michael Sheen. Fel Elizabeth Andrews mae'n gweithio galed er lles pobl ddifreintiedig ac i newid yr hyn sy'n anghyfartal o fewn cymdeithas. Un agwedd o hyn oedd y ffordd wnaeth drefnu Cwpan Pêl-droed i'r Digartref yng Nghymru, gan nid yn unig wahodd y digwyddiad i Gaerdydd ond hefyd ariannu tipyn o'r peth o'i boced ei hun. Daeth timau o bob rhan o'r byd i gystadlu.
Ond mae e hefyd yn actor a hanner, ac yn ogystal a'i waith ffilm, ble mae e'n aml wedi chwarae pobl go iawn fel y cyn Brif Weinidog Tony Blair, y rheolwr pêl-droed Brian Clough a'r cyflwynydd teledu David Frost ond mae e hefyd yn actor gwych ar lwyfan. Un o uchafbwyntiau ei yrfa hyd yn hyn oedd The Passion, sioe enfawr wnaeth ddigwydd yn Mhort Talbot, dim nepell o ble mae Michael yn byw dyddiau 'ma.
Mae'n ddiddorol bod cymaint o actorion gwych yn dod o'r dre, gan gynnwys Richard Burton ac Anthony Hopkins. Efallai bod rhywbeth yn y dŵr!
Ffefryn arall yw Betty Campbell, sef y brifathrawes groenddu gyntaf yng Nghymru. Cafodd ei geni yn Nhre-biwt, Bae Caerdydd. Roedd ei thad yn dod o Jamaica ond bu fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd ei mam - fel mam Elizabeth Andrews - yn ei chael hi'n anodd cael dau bel llinyn ynghyd, ac roedd y teulu bach yn dlawd iawn.
Roedd Betty â'i bryd ar fod yn athrawes ers ei bod yn blentyn. Fe wnaeth hi'n dda yn yr ysgol, a chael y marciau gorau yn y dosbarth yn aml iawn. Ond cafodd siom pan ddywedodd ei hathrawes wrthi na allai merch groenddu, dlawd fynd yn bell yn y byd academaidd. Serch hynny, roedd am brofi bod hyn yn anghywir a daeth yn athrawes, ac yna'r brifathrawes yn Ysgol Mount Stuart yn ardal Bae Caerdydd.
Roedd hi wedi gweld bod prinder o bobl dduon ym myd addysg ac roedd yn benderfynol o wneud gwahaniaeth. Dechreuodd ddysgu'r disgyblion am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon a'r system apartheid oedd yn digwydd ar y pryd yn Ne Affrica, oedd yn trin pobl dduon yn israddol, ac yn anghyfartal.
Pan ddaeth arweinydd De Affrica, Nelson Mandela, i Gymru, cafodd Betty gyfle i gwrdd â'i harwr - dyn oedd fel hithau, wedi ysbrydoli pobl eraill.
Hefyd o ddiddordeb: