Ble mae lleoliadau cyfres The Guest?

Eve Myles a Gabrielle CreevyFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions
  • Cyhoeddwyd

Ydych chi wedi bod yn gwylio cyfres The Guest? Ydych chi wedi clywed am set-jetting?

Mae drama ddiweddaraf BBC One sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac yn serennu Eve Myles a Gabrielle Creevy yn cynnig y profiad set-jetio perffaith i bobl sy'n ymweld â Chaerdydd a de Cymru.

Mae'r thriller Cymreig wedi plesio cynulleidfaoedd yng Nghymru gan ei bod yn arddangos rhannau o dde Cymru, bron nes fod yr ardal yn gymeriad ynddo'i hun.

Set-jetting yw'r arfer o deithio yn benodol i weld lleoliadau ffilmio rhaglenni a ffilmiau. Yn ôl adroddiad Unpack '25 gan Expedia mae 66% o deithwyr wedi'u dylanwadu gan leoliadau maen nhw wedi'i weld ar sgrin wrth gynllunio teithio.

Dyma rai o'r lleoliadau mwyaf cofiadwy o The Guest.

Llys Whitson, Casnewydd – Maybury Court, cartref Fran

maybury house yn The GuestFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions/Julia Fullerton Batten

Dyma'r prif leoliad yn y ddrama deledu a lle mae digwyddiadau mwyaf gwallgof y gyfres yn digwydd.

Mae'r adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif a thros y canrifoedd mae wedi bod yn gartref i amryw o sefydliadau.

Er mai cartref preifat oedd yn wreiddiol, mae'n debyg ei fod wedi bod yn lleiandy am gyfnod, yna'n goleg Cristnogol ar ddechrau'r 20fed ganrif ac yna'n sŵ yn y 60au a'r 70au. Ymhlith anifeiliaid y sŵ, roedd y perchennog Olive Maybury yn cadw eirth, mwncïod, fflamingos, llewod ac adar ecsotig.

Ffilmio yn Whitson CourtFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions

Mae'n adeilad trawiadol a adawodd argraff ar sêr y rhaglen. Dywedodd Eve Myles wrth y BBC: "Mae Llys Maybury [enw'r plasty yn y ddrama] yn gartref prydferth, ac mae'r tir o'i amgylch yn drawiadol ac wedi'i lenwi ag anifeiliaid o bob math – peunod, asynond a cheiliogod.

"Mae gweld Cymru'n cael ei phortreadu fel hyn – yn oludog, uchelgeisiol a chreadigol – yn beth prin. Mae 'na gyfoeth wedi bod yng Nghymru erioed ac mae The Guest yn rhoi hynny ar sgrin."

Canol Caerdydd

Os ydych chi'n adnabod Caerdydd yn dda, bydd gwylio The Guest yn gêm dda o ddyfalu yn lle maen nhw'n ffilmio.

Mewn un olygfa, lle mae Ria, cymeriad Gabrielle Creevy, yn rhedeg drwy strydoedd Caerdydd cawn weld mannau llai adnabyddus o Gaerdydd fel Heol Clare a Stryd Despenser yn ardal Grangetown. Ond y lleoliadau yng nghanol y ddinas sy'n rhoi'r foment Instagram i set-jetwyr!

Dyma'r tro cyntaf i'r actor Emun Elliot, oedd yn actio rhan Richard Abbot, i weithio yng Nghymru. Wrth siarad â'r BBC, dywedodd:

"Mae Cymru yn ffantastig, a Chaerdydd yn ddinas urban ardderchog. Fe wnaeth Ashley Way, ein cyfarwyddwr, ganolbwyntio nid yn unig ar gymhlethdod y ddrama, ond ar ddefnyddio'r tirwedd a dinas Caerdydd fel cymeriad arall yn y plot."

Ffilmio ar High Street CaerdyddFfynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions
Disgrifiad o’r llun,

Ffilmiwyd dêt tyngedfennol Ria (Gabrielle Creevy) yn un o fariau Stryd Fawr, Caerdydd, Gin & Juice, ger Heol y Santes Fair

Maple & Bean, Morgan Arcade
Disgrifiad o’r llun,

Yn y caffi eiconig yng nghanol Arcêd Morgan y brifddinas y seliwyd ffawd Fran a Ria wrth iddynt ail-gydio yn eu perthynas gythryblus

Hayes Island Snack Bar
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ble dechreuodd stori Fran a Ria yn The Guest, ger bwyty Hayes Island Snack Bar ar Yr Ais sydd wedi bod yn gwerthu bwyd i drigolion Caerdydd ers 1948

Traeth Rhosili a'r Hen Reithordy

Traeth Rhosili a'r Hen ReithordyFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Mike Henton

Dydy drama yng Nghymru ddim yn gyflawn heb olygfeydd gwledig neu arfordirol ac mae'r ystrydeb honno'n cael ei gwireddu yn The Guest gan fwthyn hanner ffordd rhwng pentrefi Rhosili a Llangenydd. Hwn oedd "eiddo arfordirol" Fran a'i gŵr Simon yn y ddrama.

Adeiladwyd yr Hen Reithordy yn y 1800au, ac yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mae ganddo hanes diddorol "o'i rôl fel safle i weithwyr radar yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ymddangos yn y gyfres deledu Torchwood".

Tafarn The Master Gunner, Caerdydd

the master gunnerFfynhonnell y llun, Google Maps

Fel cyferbyniad go ysgytwol i fawredd cartref Fran, The Master Gunner ar Gabalfa Avenue, Caerdydd yw un o'r lleoliadau sy'n rhoi cip i ni ar fywyd Ria.

Agorodd y dafarn yn wreiddiol yn 1967 ac mae wedi bod yn denu pobl leol am ddegawdau – mae'n dweud "your friendly local" ar yr arwydd hyd yn oed.

Wrth siarad gyda'r BBC am ffilmio yng Nghymru dywedodd Julian Lewis Jones, sy'n actio rhan Simon: "Mae ton gref o ddrama yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru, sy'n hynod o gyffrous.

"Yr hyn sy'n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig yw'r ffaith nad dim ond rhywbeth sydd wedi'i ffilmio yng Nghymru [ydy The Guest], mae wedi'i gosod yng Nghymru.

"Mae'n stori Gymreig am bobl Gymraeg ac mae'n arddangos ochr o hunaniaeth Gymreig nad ydyn ni bob tro yn gweld."

  • Bydd pennod olaf The Guest ar BBC One nos Lun am 21:00 a'r gyfres gyfan ar BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig