Defnyddio sganwyr metel i chwilio am arfau yn ysgolion Caerdydd

CyllellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon cynyddol am droseddau cyllyll mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Bydd disgyblion ysgol yng Nghaerdydd yn cael eu chwilio gyda sganiwr metel os ydyn nhw'n cael eu hamau o fod yn cario arfau, dan ganllawiau newydd.

Mae'r canllawiau - y cyntaf o'u math yng Nghymru - yn delio gyda'r hyn fydd yn digwydd os ydy plentyn yn cael ei amau o fod ag arf yn ei feddiant, a'r camau wedi hynny pe bai arf yn cael ei ganfod.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud fod y canllawiau wedi'u llunio yn dilyn galwadau gan benaethiaid am gyngor er mwyn cadw disgyblion a staff yn ddiogel.

Daw yn dilyn pryderon cynyddol am droseddau cyllyll mewn ysgolion, gan gynnwys digwyddiad ble cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn deall y gallai rhieni deimlo'n bryderus am y chwiliadau, ond pwysleisiodd llefarydd na fyddai hynny'n rhan o fywyd bob dydd mewn ysgolion, ac na fyddai'n "cael ei wneud ar chwarae bach".

Yn 2013 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno'r pŵer i ysgolion i sgrinio disgyblion am gyllyll ac arfau eraill, ac i chwilio'r plant sy'n cael eu hamau o fod yn eu cario.

Mae canllawiau newydd sydd wedi'u gyrru i rieni yng Nghaerdydd yn dweud y gallai bod angen chwilio disgybl os oes amheuaeth "resymol" eu bod yn cario arf yn yr ysgol.

Mae'n dweud y byddai dau aelod o staff yn bresennol yn ystod y chwiliad, ac yn y mwyafrif o achosion bydd sganiwr llaw - neu 'ffon' - yn cael ei ddefnyddio, gan olygu nad oes unrhyw gyswllt corfforol.

Bydd rhieni neu ofalwyr yn cael gwybod ar ôl i'r disgybl gael ei chwilio, ac fe fydd eglurhad o'r rheswm yn cael ei roi i'r plentyn a'r rhiant.

Sganiwr llawFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn y mwyafrif o achosion bydd sganiwr llaw - neu 'ffon' o'r math yma - yn cael ei ddefnyddio er mwyn osgoi cyswllt corfforol

Dan y canllawiau, os yw arf yn cael ei ganfod, bydd adolygiad yn cael ei drefnu o fewn pum diwrnod ysgol o'r digwyddiad.

Ni fyddai modd i'r disgybl fynychu'r ysgol cyn i'r adolygiad hwnnw ddigwydd, ond fe fyddai trafodaeth dros y ffôn gyda'r plentyn ynglŷn â'u lles "o leiaf unwaith y diwrnod".

Byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal hefyd er mwyn ceisio deall pam fod y person ifanc wedi dod ag arf i'r ysgol, a pha gamau y dylid eu cymryd nesaf.

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae'r canllawiau yn "cydnabod bod yna resymau cymhleth yn aml pam y gallai person ifanc fod yn cario arf" ac mae'n annog ysgolion i weithio'n agos gyda theuluoedd a gwasanaethau eraill er mwyn rhoi'r gefnogaeth gywir ar waith.

'Ymarferion lockdown'

Mae'r canllawiau wedi'u cyflwyno i bob ysgol gynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig yn y sir.

Cafon nhw eu llunio ar ôl ymgynghori gyda phlant ac "ystod eang o bartneriaid" fel Heddlu De Cymru, gwasanaethau ieuenctid ac arbenigwyr atal trais.

Yn ogystal â'r canllawiau arfau, mae pob ysgol yng Nghaerdydd wedi penodi arweinydd atal trais - uwch aelodau staff fydd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant arbenigol i'w paratoi ar gyfer sefyllfaoedd go iawn sy'n cynnwys arfau neu fygythiadau i ddiogelwch.

Mae camau eraill sy'n cael eu cymryd i gadw ysgolion yn ddiogel yn cynnwys "ymarferion cyfyngiadau symud (lockdown)" i helpu ysgolion baratoi ar gyfer argyfyngau, a defnyddio'r cwricwlwm i "adeiladu diwylliant o barch a diogelwch".

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd a'r aelod cabinet dros addysg: "Mae penaethiaid wedi bod yn gofyn am gefnogaeth yn y maes hwn ac mae'n hollol iawn ein bod wedi gweithio'n agos gyda nhw i greu rhywbeth ymarferol a defnyddiol.

"Mae hefyd yn rhan o'n hadolygiad yn dilyn digwyddiadau mewn rhannau eraill o'r wlad ac yn rhoi'r offer sydd eu hangen ar ysgolion i gadw pawb yn ddiogel - nid yw'n ymwneud â chreu ofn, mae'n ymwneud â meithrin hyder."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.