Archesgob Cymru: 'Y Frenhines wedi arwain yn gadarn'

  • Cyhoeddwyd
Y FrenhinesFfynhonnell y llun, Ranald Mackechnie

Mae Archesgob Cymru wedi rhoi teyrnged i'r Frenhines ar ôl "70 mlynedd o wasanaeth a chyfnod heriol i'r teulu brenhinol".

Wrth i benwythnos y Jiwbilî Blatinwm barhau, mae digwyddiadau crefyddol yn cael eu cynnal ar draws Prydain, gyda gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn Llundain ddydd Gwener.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Andrew John bod y Frenhines wedi bod yn arweinydd "cadarn iawn a thyner sy'n haeddu cydnabyddiaeth".

Ond fe wnaeth gydnabod bod y Frenhines wedi wynebu nifer o heriau personol yn y flwyddyn ddiwethaf a bod barn y cyhoedd tuag at y teulu wedi newid.

"Rwy'n meddwl bod y ffordd y mae hi'n gwasanaethu wedi bod yn enghraifft wych - i'r hen ac ifanc - sut beth ydi ymrwymiad cymunedol," dywedodd yr Archesgob.

"Â hithau wedi colli ei gŵr yn ddiweddar, 'dw i'n meddwl ei fod yn beth hyfryd ac hael ein bod yn gallu dathlu achlysur y Jiwbilî a dymuno'n dda iddi."

Ond wrth edrych yn ôl ar rai o'r heriau sydd wedi wynebu'r Frenhines, roedd yr Archesgob yn cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un "anodd".

Bu'n rhaid i'r Tywysog Andrew gamu'n ôl o ddyletswyddau brenhinol yn sgil setliad achos llys sifil ymosodiad rhyw yn yr Unol Daleithiau, ac fe symudodd y Tywysog Harry a'i wraig Meghan o Brydain i fyw yn America.

Ychwanegodd yr Archesgob: "Dwi'n credu bod yna gred o fewn y Teulu Brenhinol - a gan y Frenhines ei hun - bod angen iddi gynnal urddas a chyfrifoldebau ei swydd o ddifrif.

"'Dan ni'n ymwybodol iawn bod rheiny wedi bod yn heriau ar lefel bersonol ac ar lefel cyfansoddiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines yn ystod seremoni goleuo ffaglau'r Jiwbilî Blatinwm nos Iau

'Cymru fodern'

Wrth edrych tua'r dyfodol, fe wnaeth gydnabod bod agweddau tuag at y Frenhiniaeth wedi newid.

"Pan 'dan ni'n ystyried sut fath o le ydy Cymru, dwi'n siŵr y bydd yna drafodaethau agos ar sut y bydd angen addasu'r frenhiniaeth i gydfynd efo Cymru fodern a Chymru sydd ag is-ymwybod llawer mwy modern nac yr oedd hi 70 mlynedd ôl."

Nos Iau, cafodd gwasanaeth diolchgarwch arbennig ei gynnal yng Nghadeirlan St Deiniol ym Mangor i nodi'r Jiwbilî Blatinwm.

Roedd yn un o gyfres o ddathliadau gan yr Eglwys yng Nghymru ar hyd a lled y wlad yn ystod y penwythnos gŵyl banc.

Ffynhonnell y llun, Cantemos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Williams yn chwarae'r organ ac yn gyfrifol am y gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn ystod Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002

Yn Llundain, mae gwasanaeth diolchgarwch yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Un fuodd yn chwarae'r organ ac yn gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw yn Eglwys Gadeiriol St Paul's yn ystod Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002 yw Huw Williams o Abertawe.

Dywedodd bod trefnu gwasanaeth yn gyfrifoldeb mawr ac yn gofyn am lawer o waith trefnu gofalus.

"Roedd o'n anrhydedd mawr cael chwarae'r organ mewn achlysur mor fawreddog. Mae'n anhygoel credu bod yna 20 mlynedd ers y perfformiad yn y Jiwbilî Aur a bod y Frenhines yn dal i fynd," dywedodd.

"Mae yna lot o bwysau o ran trefnu gwasanaethau fel hyn ond efo achlysur mor farweddog, mae yna llawer iawn mwy o ymarfer.

"Mae'n cymryd amser hir i grefftio'r gwasanaeth ac ma' nhw'n gwneud eu gorau i sicrhau bod o'n sensitif ac yn adlewyrchu bywyd y Frenhines a phopeth ma' hi wedi ei gyfrannu i'r byd."

'Uno pobl'

Dywedodd yr Archesgob fod y penwythnos hwn o ddathliadau'n ymwneud mewn gwirionedd â dod â phobl at ei gilydd.

"Mae'n ddathliad o ddigwyddiad gwych a bydd pobl yn dod o hyd i ffordd o wneud hynny, rydw i'n meddwl, sy'n cynrychioli ac yn nodweddu eu cymuned eu hunain.

"Dw i'n meddwl wrth i ni edrych yn ôl ar flynyddoedd cythryblus ei theyrnasiad, rhyfeloedd byd, gwrthdaro, newidiadau mewn cymdeithas, un o'r pethau cyson trwy hynny i gyd fu'r arweinyddiaeth dyner, gadarn y mae hi wedi'i chynnig i'r genedl ac mae'n briodol ein bod ni'n cydnabod."

Pynciau cysylltiedig