Pa mor frenhingar ydy Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cymysg oedd yr ymateb wrth i BBC Cymru holi pobl am eu barn am y frenhiniaeth ar drothwy'r Jiwbilî

Wrth i'r Frenhines baratoi i nodi 70 mlynedd ar ei gorsedd yr wythnos hon, mae BBC Cymru wedi bod yn holi pobl am eu barn am y frenhiniaeth.

Tra bod nifer wedi dweud eu bod nhw'n edrych ymlaen i ddangos eu parch at y Frenhines a dathlu ei chyfraniad, mae sawl un arall yn poeni dim am y digwyddiad na'r sefydliad ei hun.

Eraill eto yn gwrthwynebu'n gryf yr holl wariant a'r oferedd ynghlwm â'r digwyddiad yn ystod argyfwng costau byw.

'Jobyn da dros y blynydde'

Yng Nghaerfyrddin, ble mae Heol y Frenhines yn arwain at Heol y Brenin, roedd siopwyr yn parchu Elizabeth yr Ail, ond roedd y farn ar y frenhiniaeth fel sefydliad yn gymysg.

"Mae'r Frenhines wedi gwneud jobyn da dros y blynydde fi'n credu," meddai Dewi Bowen o Gaerfyrddin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Dewi Bowen farn gadarnhaol am y frenhiniaeth

Roedd Dewi'n gobeithio y byddai Charles, Tywysog Cymru yn parhau i gofio am Gymru pan fydd o'n Frenin.

"Mae'n dywysog Cymru a gobeithio fydd e'n gwneud pethe da i Gymru."

Mae Ffilis Hughes, hefyd o'r dre', yn pryderu am y dyfodol. Dywedodd: "Dwi'n hoff iawn o'r Frenhines, a'r teulu i gyd, a gweud y gwir.

"Fi'n credu bydd e'n saff yn nwylo William achos bydd e 'na am sbel.

Disgrifiad o’r llun,

Ffilis Hughes: 'Dwi'n hoff iawn o'r Frenhines, a'r teulu i gyd'

"Fi hanner a hanner [am y Tywysog Charles], mae e'n neud lot fowr o waith da yn y gymuned yn yr UK ond fi yn teimlo'n galed arno fe oherwydd beth nath o i Diana.

"Dylia fe ddim wedi priodi hi'n y man cyntaf. Mae hwnna'n aros yn y cof."

Mae Siobhan Eleri o Llansteffan yn ei hugeiniau. "Sa i'n ymddiddori gormod yn y teulu brenhinol," meddai, ond mae'i barn ar y sefydliad yn gadarn.

Disgrifiad o’r llun,

Siobhan Eleri: 'Sai'n credu bod nw'n llesol iawn i'r wlad'

"Sai'n credu bod nhw'n llesol iawn i'r wlad, yn bersonol.

"Mae'r frenhines bresennol wedi 'neud swydd dda, mae hi wedi cadw at y rôl yn dda dim fel rhei er'ill yn y teulu brenhinol.

"Ond ar y cyfan fi ddim yn cytuno gyda'r cysyniad yn gyffredinol o deulu brenhinol."

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan a Nesta Davies: 'Rhwydd iawn i redeg pobl lawr'

Mae'r pâr priod, Ieuan a Nesta Davies yn gytûn. "Mae gen i lot o barch at y teulu i fod yn onest, 'dy nhw ddim yn gwneud dim lot yn rong. Mae'n rhwydd iawn i redeg pobl lawr."

Dywedodd Nesta Davies ei bod yn "rili yn edrych 'mlaen" at weld y Tywysog Charles yn dod yn Frenin, gan ddweud bod hynny'n "overdue".

Arolwg newydd

Mae arolwg newydd gan Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 ym Mhrifysgol Cymru yn awgrymu bod 55% o bobl yn cefnogi'r frenhiniaeth.

Byddai lleiafrif sylweddol - 28% - yn ffafrio pennaeth etholedig, fel arlywydd.

Cafodd yr ymchwil ei wneud ar-lein gan gwmni YouGov i Astudiaeth Etholiad Cymru ym mis Mawrth eleni. Gofynnwyd i 3,041 o bobl dros 16 oed am eu barn ar y frenhiniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r farn am y frenhiniaeth yn bell o fod yn unfrydol

Credir mai dyma'r arolwg mwyaf o'i fath sydd yn holi am agweddau'r Cymry tuag at y teulu brenhinol.

Roedd pedwar ym mhob pump (80%) o bobl a atebodd yn credu ei bod hi'n debygol y bydd gan y DU deulu brenhinol mewn deng mlynedd. Roedd 63% yn credu y byddai'r sefydliad yn parhau am y 25 mlynedd nesaf.

Er cefnogaeth gref i'r teulu brenhinol ym mlwyddyn y jiwbilî, mae'r ffigyrau'n awgrymu bod pobl Cymru'n credu'n gryf eu bod nhw'n costio gormod o arian i'r cyhoedd.

Mae 58% o'r rheini a gafodd eu holi'n credu bod y teulu'n derbyn "gormod o arian", gyda 39% yn cytuno'n gryf â'r datganiad yma. Dim ond 14% oedd yn anghytuno.

'Tysteb i boblogrwydd y frenhines bresennol'

Yn ôl yr academydd blaenllaw Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r ffigyrau yn awgrymu bod Cymru yn "parhau yn wlad deyrngar frenhingar".

"Mae o'n gred erstalwm iawn bod Cymru yn arbennig o gefnogol i'r teulu brenhinol ac mae'r ffigyrau yma'n awgrymu bod hynny yn parhau i fod yn wir."

Mae 'na "fwyafrif sylweddol" o bobl yng Nghymru, yn ôl yr Athro Wyn Jones, yn cefnogi'r egwyddor o frenhiniaeth ac yn gweld y sefydliad yn parhau am "o leiaf oes y frenhines ac i'r dyfodol gweladwy".

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Richard Wyn Jones: 'Cymru yn parhau yn wlad deyrngar frenhingar'

"Tydy'r gefnogaeth i bennaeth etholedig ddim mor uchel â fysa rhai efallai wedi ei ddychmygu ar ôl yr holl drafferthion mae'r teulu wedi bod drwyddyn nhw. Mae o'n dysteb i boblogrwydd y frenhines bresennol a'r parch sydd yn parhau tuag ati.

Ond ychwanegodd, bod 'na leiafrif cadarn o bobl, sydd yn teimlo yn fwy Cymraeg na Phrydeinig, yn fwy tebygol o gefnogi pennaeth etholedig, fel arlywydd, na brenin neu frenhines.

"Yr hyn 'dw i yn weld mwyaf difyr am y canlyniadau ydy bod 'na begynu'n amlwg ar linellau hunaniaeth genedlaethol.

"Yn benodol mae'r pobol yma yng Nghymru sy'n teimlo yn Gymry yn hytrach na Phrydeinwyr, 'di nhw ddim yn fwyafrif ond mae nhw'n leiafrif sylweddol sydd wedi cynyddu yn ddiweddar o ran eu niferoedd ac mae nhw'n cefnogi'r egwyddor o weriniaeth - hynny ydy, o gael pennaeth etholedig ar gyfer y wladwriaeth."

Dywedodd yr Athro Wyn Jones ei bod hi'n anodd darogan sut fydd cefnogaeth i'r frenhiniaeth yn datblygu yn y dyfodol, ond mae o'n tybio bod cefnogaeth i'r sefydliad wedi ei angori, ar hyn o bryd, mewn parch tuag at y frenhines.

"Mae'n amlwg bod y Frenhines Elizabeth wedi bod yna drwy fywyd bron iawn pawb sydd yn darllen hwn - mae hi wedi bod yn bresenoldeb parhaol. Mae 'na barch yn amlwg iddi hi. Beth fydd yn newid ar ôl i ni gael y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla? Mae hi'n anodd rhagweld beth fydd effaith hyn i gyd."

'Tynnu pobl at ei gilydd'

Mae Audrey Jones MBE yn edrych ymlaen at ddathlu'r jiwbili "r'un fath â'r coroni a phetha' er'ill. Heb ddathlu, heb gael dathliad, toes 'na ddim byd nagoes? Mae o'n tynnu pobol at ei gilydd.

"'Dw i'n meddwl bod o'n bwysig, ac mae 'na rai yn mynd i feddwl bod na ormodedd, a pawb â'i farn. Ella bod 'na ormodedd ynglŷn â'r peth ond dwi'n credu pan mae 'na ddathliad, twt lol, 'da ni gyd yn licio cael ryw ddathliad.

"Mae o'n rhoi rwbath yn ein bywydau ni, tydi, yn yn enwedig ar ôl bod adra am ddwy flynadd heb ddim math o ddathliad o gwbwl."

Disgrifiad o’r llun,

Audrey Jones: 'Da ni gyd yn licio cael ryw ddathliad'

Mae ganddi atgofion melys o gyfarfod y Frenhines pan gafodd hi ei MBE ym Mhalas Buckingham am ei gwaith i Sefydliad y Merched.

"Mae hi wedi addunedu i wneud y swydd yma tra bydd hi. Mae hi'n ddifrifol iawn yn ei swydd ac dwi'n credu yn y frenhiniaeth fy hun. Hebddyn nhw pwy fasa nhw'n eu lle nhw? Ma'i chyfraniad hi'n aruthrol."

'Gas gen i'r holl arian ag egni sy'n cael ei wastraffu'

Tra bod rhai, fel Audrey, yn hapus i ddathlu'r achlysur a dangos ei chefnogaeth, mae eraill yn nodi'r jiwbilî mewn ffordd wahanol iawn.

I Gwenno Dafydd o Gaerdydd, mae oferedd y dathlu wedi arwain at benderfyniad i brotestio.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenno Dafydd: 'Teulu brenhinol yn amlwg wedi bod yn ansensitif uffernol'

"'Dw i'n bwriadu mynd heb fwyd, ymprydio, ar gyfer cyfnod y jiwbilî, sef pedwar diwrnod. A'r rheswm dwi'n neud e ydy mae gas gen i'r holl arian ag egni sy'n cael ei wastraffu i ddathlu y jiwbilî pan mae gymaint o bobl yn dioddef.

"Mae'r teulu brenhinol yn amlwg wedi bod yn ansensitif uffernol i be sy'n digwydd yn y wlad yma."

Mae Gwenno yn gwahodd eraill i ymuno â hi wrth ymprydio a rhoi'r arian mae'n nhw'n arbed ar fwyd i fanciau bwyd.

"Mae gas gen i'r sefydliad i ddechrau, mae o'n lot yn rhy fawr ac mae na lot o wastraff yna.

"Mae heir and spare yn ddigon ond dwi'n teimlo hefyd mai'n gyfnod mor llwm ar y wlad, ar y bobl, gyda gymaint o bobol yn gorfod gwneud tair swydd i ymdopi gyda'r holl filiau a'r newidiadau… mae'r sploetsh ar yr amser yma mor ansensitif."

Rôl mewn cymdeithas fodern?

Rhwng y ddau begwn, o gariad a chasineb, mae 'na ddiffyg diddordeb, ac mae 'na sawl un yn disgyn yn y man canol yna. I Melanie Owen o Aberystwyth, does ganddi ddim teimladau cryf iawn o blaid nac yn erbyn y teulu, ond tydi hi ddim yn siŵr pa rôl sydd ganddynt mewn cymdeithas fodern.

Ond mae'i barn wedi newid yn ddiweddar, ac "mae'r saga gyda'r Tywysog Harry a Meghan Markle yn sicr wedi newid fy marn".

Disgrifiad o’r llun,

Melanie Owen: 'Rîli cwestiynu pa mor fodern yw'r teulu'

"Pan briododd hi mewn i'r teulu roeddwn i'n gobeithio ei fod yn mynd i fod yn gam mawr ymlaen ac y byddai hynny'n llusgo'r teulu i'r oes fodern," meddai.

"Fel person o leiafrif ethnig sydd wedi profi sut mae pobl yn gallu bod yn hiliol, fy ymateb naturiol i oedd i'w chredu hi.

"Mae'i ymateb nhw i'r sefyllfa, a'r ffordd gafodd y ddau eu trin wedi gwneud i fi rîli cwestiynu pa mor fodern yw'r teulu.

"Fi'n teimlo bod yr optics o gael rhwysg y penwythnos jubilee yng nghanol crisis costau byw ddim yn ok ac mae hynny yn gam gwag gan y teulu brenhinol."

Pynciau cysylltiedig