Arestio dyn wedi marwolaeth seiclwraig ar yr A40

  • Cyhoeddwyd
Yr A40 ger cylchdro RhaglanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan

Mae dyn wedi'i arestio ar ôl i fenyw gael ei lladd ar ôl cael ei tharo gan fan tra'n seiclo yn Sir Fynwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan tua 19:20 nos Iau.

Dywed Heddlu Gwent bod y fenyw wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl cael ei tharo gan fan Vauxhall Movano gwyn.

Mae dyn 46 oed o'r Fenni yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.

Mae'r A40 wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchdro yn Rhaglan a system gylchu Hardwick.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i berthnasau'r fenyw a fu farw, ac mae'r llu'n awyddus i dderbyn gwybodaeth a lluniau gan unrhyw un oedd yn ardal yr A40 rhwng 19:00 a 19:30 nos Iau.

Pynciau cysylltiedig