Dringwraig wedi marw ar ôl syrthio o fynydd yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Glyder FachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyder Fach yn 3,261 troedfedd, neu 993 o fetrau, o uchder

Mae dynes wedi marw ar ôl syrthio tra'n dringo ar un o fynyddoedd Eryri.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw am 14:30 brynhawn Iau wedi i'r ddynes syrthio ar Lwybr Chasm Glyder Fach.

Yn ôl yr achubwyr, roedd y ddynes a fu farw yn ei 50au ac yn dod o Sir Caer.

Fe wnaeth dringwyr oedd gerllaw geisio rhoi cymorth i'r ddynes, oedd yn anymwybodol, ac wedi i'r achubwyr gyrraedd fe gafodd ei winsio ar fwrdd hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Cafodd ei chludo wedi hynny i ganolfan y tîm achub mynydd ond ofer oedd ymdrechion meddygon yr ambiwlans awyr i'w hachub.

Tua'r un pryd fe gafodd yr un tîm achub eu galw i helpu dynes yn ei 30au o ganolbarth Lloer oedd wedi mynd yn gaeth wrth ddod i lawr o gopa mynydd Tryfan ar hyd y llethr gorllewinol, sy'n fan drwg am ddamweiniau.

Cafodd ei gweld o'r awyr gan griw hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac fe ddefnyddiodd aelodau'r tîm achub rhaffau i'w hachub.