Coroni'r bocsiwr Cordina yn 13eg pencampwr byd Cymru
- Cyhoeddwyd
![Joe Cordina](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C3ED/production/_125275105_gettyimages-1401054101.jpg)
Llwyddodd Cordina i orffen yn ornest gydag ergyd bwerus gyda'i law dde yn yr ail rownd
Mae'r Cymro Joe Cordina wedi caei goroni'n bencampwr byd Uwch Bwysau Plu yr IBF ar ôl trechu Kenichi Ogawa mewn gornest yng Nghaerdydd.
Cordina, 30, ydy'r Cymro cyntaf i ennill teitl pencampwr y byd ers Lee Selby 'nôl yn 2015.
Ef yw'r 13eg pencampwr byd bocsio o Gymru, a dyma oedd ei 15fed gornest broffesiynol yn unig.
Bu'n fuddugol yn y 14eg flaenorol hefyd.
Llwyddodd i orffen yn ornest yn erbyn Ogawa, o Japan, gydag ergyd bwerus gyda'i law dde yn yr ail rownd.
"Rydw i ar ben y byd!" meddai wedi ei fuddugoliaeth wych yn Arena Motorpoint yn y brifddinas nos Sadwrn.
"Mae llond bywyd o waith wedi mynd mewn i'r pum munud a hanner 'na - rydw i mor ddiolchgar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2020