'Sut wnaeth y Gymraeg farw fel mamiaith fy nheulu?'

  • Cyhoeddwyd
Maggie Morgan yn chwilio am fedd ei hynafiaid ym mynwent Capel y PilFfynhonnell y llun, Silin
Disgrifiad o’r llun,

Maggie Morgan yn chwilio am fedd ei hynafiaid ym mynwent Capel y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Maggie Morgan wedi bod yn ymchwilio i hanes ei theulu i ganfod pam y daeth y Gymraeg i ben fel mamiaith - ac mae ei stori hi yn gyffredin i nifer fawr o deuluoedd Cymreig.

Wrth fyw yn Brighton am 30 mlynedd, roedd atgofion am Sadyrnau ei phlentyndod ar aelwyd ei mam-gu a thad-cu yn Nhremorfa, Caerdydd yn codi hiraeth ar Maggie Morgan.

Ymunodd â grŵp o bobl oedd yn cwrdd yn gyson i ddysgu Cymraeg yn y ddinas ar arfordir de Lloegr.

Wrth ddysgu'r iaith ac am brofiadau ei chyndadau, roedd am wybod pam fod y Gymraeg wedi marw fel mamiaith ei theulu, a daeth i sylweddoli bod hanes Cymru - a dirywiad yr iaith - yn rhan o'i hanes teuluol.

Darganfod 'hen dad-cu coll'

Roedd ei thad, Eddie Morgan, eisoes wedi dechrau hel achau'r teulu ar ôl marwolaeth ei fam yn y 1990au. Cafodd y teulu newyddion annisgwyl drwy'i thystysgrif geni o weld nad Mollie Cross oedd ei henw swyddogol, ond Mary Taylor. A chafodd ei geni chwe mis ar ôl i'w thad gwaed gael ei ladd mewn damwain omnibws yn Aberdâr yn 1904.

Ar ôl geni'r plentyn, symudodd ei weddw i Gaerdydd gyda mecanic o Crewe, Andrew Cross, ond heb ei briodi er iddo gael ei ystyried yn ŵr iddi o fewn y teulu byth wedyn.

Wrth baratoi rhaglen Fy Achau Cymraeg i BBC Radio Cymru daeth Maggie Morgan o hyd i'r tŷ lle bu ei hen dad-cu, Frederick Henry Taylor, yn byw cyn y ddamwain a lle bu farw o'i anafiadau.

"Mae'n ddwbl drist i fi i glywed am y ddamwain angheuol a siwt wnaeth e farw," meddai Maggie wrth ymchwilio i'r digwyddiad yn Aberdâr. "Hefyd mae'n drist achos wnaeth e ddiflannu o hanes ein teulu ni yn llwyr."

Ffynhonnell y llun, Silin
Disgrifiad o’r llun,

Maggie a'r hanesydd Bill Jones ym Mae Caerdydd

Mae'n un o'r straeon personol trist sydd wedi dod i'r golwg wrth i Maggie Morgan ddilyn ei hachau o ardaloedd gwledig yr hen sir Forgannwg i'r cymoedd diwydiannol ac i ardal dociau Caerdydd.

"Mae'r symudiad o'r ardaloedd gwledig i'r ardaloedd diwydiannol yn un o'r datblygiadau pellgyrhaeddol pwysicaf yn ein cyfnod modern ni yn hanes Cymru," meddai'r hanesydd Bill Jones am brofiad hen hen dad-cu Maggie a symudodd i ofalu am y Stablau yn noc Bute yn 1889.

"Roedd hwn yn gyfnod byrlymus iawn yn hanes Caerdydd oherwydd y twf yn allforio glo, a Chaerdydd ar y ffordd i fod yn un o'r porthladdoedd mwyaf pwysig yn y byd."

Cosbi am siarad Cymraeg

Mae hanes y teulu yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o deuluoedd Cymraeg a symudodd i Gaerdydd, yn ôl Dylan Foster Evans sydd wedi ymchwilio i hanes yr iaith yn y brif ddinas.

"Yn ardal Loudon Square, sef canol yr hen Tiger Bay, roedd tua chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg ar ddiwedd Oes Victoria, rhai yn uniaith Gymraeg yn ôl y Cyfrifiad. Ac mi oedd capel Cymraeg llewyrchus iawn Bethania Docks yn Loudon Square."

Roedd emynau Cymraeg i'w clywed ynghanol yr ardal amlddiwylliannol ac amlieithog ond dros ddwy neu dair cenhedlaeth roedd y Gymraeg yn cael ei cholli, meddai.

Mae Maggie yn cofio straeon am lawenydd a thristwch ar aelwyd ei thad-cu a mam-gu yn Nhremorfa. Cafodd gŵr ei hen fodryb, Violet, ei ladd mewn damwain ym mhwll glo Blaenclydach yn 1941 ac roedd yn adrodd ei phrofiad o gael ei chosbi am siarad Cymraeg yn yr ysgol.

"Pan o'n i'n ifanc wnes i glywed straeon fy hen fodryb Violet oedd wedi cael ei bwrw yn yr ysgol gynradd yn Grangetown am siarad Cymraeg ar yr iard. Roedd hi'n dal yn grac," meddai Maggie.

Ffynhonnell y llun, Silin
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Morgan - y genhedlaeth olaf i siarad Cymraeg fel mamiaith

Mae'n dystiolaeth lafar am brofiad siaradwyr Cymraeg Caerdydd, yn ôl Dylan Foster Evans wrth gyfeirio at brofiad Elfed Thomas, athro Cymraeg yn ysgol Cathays, a gafodd ei fagu yn ardal Treganna adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Mae stori amdano a'i frawd yn chwarae ar y stryd a rhyw wraig ddieithr yn pasio ac yn gofyn iddyn nhw 'are you speaking Welsh?'. 'Yes' medde Elfed ac mae'n cael bonclust, slap ar ei wyneb, am siarad Cymraeg."

Yr adeg honno ar ddechrau'r 20fed ganrif oedd y mwyaf anodd i gadw'r Gymraeg yn fyw yng Nghaerdydd, yn ôl Dylan Foster Evans.

"Hoffwn i ddod nôl i gael sgwrs gyda Violet," meddai Maggie, "a dweud 'paid poeni - mae'r iaith Gymraeg yn dal yn fyw yn y brifddinas - bydd popeth yn iawn'."