'Diolch Datblygu' am ysbrydoli i ddysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Bron i flwyddyn yn ôl bu farw David R Edwards, prif leisydd y band Datblygu. Y penwythnos yma bydd digwyddiad arbennig yn Llambed ac Aberteifi yn dathlu ei gyfraniad.
Bwriad y digwyddiad yw rhoi cydnabyddiaeth i'r grŵp arbrofol a diolch iddynt gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr a siaradwyr newydd.
Dysgu geiriau newydd trwy Datblygu
Trefnydd yr ŵyl yw Marcus Whitfiled sy'n disgrifio ei hun fel "ffan mawr o Datblygu".
"Dysges i lot o eiriau newydd drwy wrando ar eu caneuon a wnes i ymuno gyda grŵp Facebook o'r enw Datblygu your Welsh, sef grŵp i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy'n hoffi eu miwsig."
Yn rhan o'r penwythnos bydd Pat Morgan, offerynwraig ac aelod o Datblygu yn ateb cwestiynau.
Gobaith Marcus yw cynnal rhagor o benwythnosau sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr drochi yn yr iaith.
"Dwi wedi mwynhau sawl penwythnos yn aros yn rhywle ac yn gwahodd dysgwyr eraill i ddod i aros efo fi a threulio amser yn yr ardal i ymarfer ein Cymraeg a chymysgu efo pobl leol.
"Dwi wedi prynu adeilad gwag yn Llambed i ddechrau busnes newydd a gwneud penwythnosau trochi. Dydi'r adeilad ddim yn barod eto ond dwi'n trefnu penwythnosau fel Dathlu Datblygu yn y cyfamser er mwyn i ddysgwyr allu ymarfer eu Cymraeg yn y gymuned, siarad efo pobl yn eu mamiaith a chodi hyder."
Amseru da ar gyfer 'alternative Jubilee'
Cafodd Gisella Albertini o Turin, yng ngogledd yr Eidal sioc wrth sylwi ar y prisiau uchel i gyrraedd Cymru o'r Eidal y penwythnos yma.
"Pan ddechreues i ymchwilio sut i ddod i Gymru sylwais bod y prisiau yn uchel, wedyn wnes i sylwi bod y Jwbilî ar yr un penwythnos.
"Redd Dave yn dweud mai fe oedd gwir Dywysog Cymru a felly dwi'n meddwl bod hi yng ngwir Jiwbilî yng Nghymru gyda Dave nid y Frenhines. Dave yw gwir Dywysog Cymru felly mae'n amseru da ar gyfer alternative Jubilee."
Gisella yw sylfaenydd y grŵp Datblygu your Welsh sydd â bron i 150 o aelodau yn mwynhau trin a thrafod geiriau David R Edwards.
Clywodd Gisella un o ganeuon Datblygu yn ddamweiniol yn yr 1980au, ac wedi hynny fe ddechreuodd hi ddysgu am Gymru cyn mynd ati o ddifrif i ddysgu'r Gymraeg flynyddoedd wedyn.
"Meddyliais i, mae'r iaith yma yn arbennig, mae'r gerddoriaeth yn arbennig, rhaid i fi ffeindio mas mwy amdano fe. Ffeindiais i gwrs arlein gan Say Something in Welsh, Duolingo yn 2018, a wedyn es i Gymru. Cwrddais i â Dave a band Datblygu ar y pryd a dwi wedi cario 'mlaen ers hynny.
"Pan o'n i'n siarad efo Dave ar y ffôn ro'n i'n ei holi am ei lyrics ond ro'n i yn ei synnu efo 'chydig o gwestiyne achos o'n i'n mynd i fanylder a byddai Dave yn dweud, 'Sneb yng Nghymru wedi gofyn y cwestiynau yma i fi o'r blaen.'"
"Roedd gan Dave safbwynt gwahanol am bopeth, roedd ei feddwl yn wreiddiol iawn."
'Meistroli iaith lleiafrifol fel hobi'
Ar y traeth yn Aberystwyth oedd Stuart Estell o Birmingham pan gafodd ei ysbrydoli gan Datblygu am y tro cyntaf.
"Dwi'n cofio'n iawn, ro'n i ar y traeth yn Aberystwyth, falle ym mis Medi 2019 ac roedd e'n bach o ddatguddiad.
"Dwi wastad wedi bod yn ffan o grwpiau amgen Saesneg fel The Fall, Half Man Half Biscuit, grwpiau llai confensiynol gyda geiriau soffistigedig, doniol, sarcastig a dechreues i wrando ar ar albwm Cwm Gwagle (Datblygu), diolch i awgrymiad Spotify a dweud y gwir.
"Bydde Dave wedi casau hynny dwi'n meddwl, ond ie, meddylies i, dyna bopeth o'n i eisie o ran geirie, o ran faint o fewnweledigaeth, achos bod Dave yn sarcastig ac yn ddoniol ond mae lot o sensitifrwydd yn y gwaith hefyd.
"Mae fe'n dweud y gwir caled ond smo fe heb deimlade chwaith, felly mae'r grŵp wedi bod yn ysbrydoliaeth mawr yn ystod fy nhaith gyda'r iaith."
Yn ystod y penwythnos bydd Stuart yn perfformio rhai o ganeuon Datblygu ac mae'n credu "y gall canu fod yn bwysig iawn wrth ddysgu iaith".
"Mae'n help mawr i'r cof dwi'n meddwl. Wrth gwrs chi'n dod o hyd i eiriau newydd ac yn y blaen ond hefyd er mwyn dysgu patrymau naturiol trwy'r caneuon."
Wrth edrych ymlaen at y penwythnos mae Stuart "yn teimlo bach yn nerfus am ganu caneuon Datblygu o flaen Pat Morgan, ond wrth gwrs bydd e'n lot o hwyl".
Mae yntau hefyd yn falch o allu dianc oddi wrth ddathliadau'r Jiwbilî ac yn amau y byddai Dave Datblygu "wedi ffeindio yr holl beth yn ddoniol".
Hefyd o ddiddordeb: