Carcharu dyn a dynes am farwolaeth Jack Lis

  • Cyhoeddwyd
Jack Lis
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack ar 8 Tachwedd 2021 wedi i gi ymosod arno

Mae dau berson wedi eu dedfrydu i garchar am fod yng ngofal ci oedd yn beryglus ac a wnaeth achosi marwolaeth bachgen 10 oed y llynedd.

Bu farw Jack Lis yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd 2021.

Cafodd Amy Salter, 29, o Drethomas, Caerffili ei dedfrydu i dair blynedd ac fe gafodd Brandon Hayden, 19, o Benyrheol, Caerffili ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis.

Yn ogystal, ni fydd hawl ganddynt i berchen ar gi wedi iddyn nhw adael y carchar.

Roedd y ddau eisoes wedi cyfaddef yn Llys y Goron Caerdydd i fod yng ngofal ci peryglus.

Bu farw Jack, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Caerffili, yn y fan a'r lle yn dilyn yr ymosodiad mewn tŷ ym Mhentwyn, Penyrheol.

Mewn datganiad gafodd ei darllen i'r llys, dywedodd mam Jack fod yna "rwyg enfawr yn fy mywyd i a bywyd fy nheulu".

"Mae ffrindiau o'r un oed a Jack yn galaru mewn ffordd na ddylai unrhyw blentyn orfod gwneud," meddai Emma Whitfield.

Disgrifiad o’r llun,

Mam a llystad Jack Lis y tu allan i Lys y Goron Caerdydd ddydd Gwener

Cafodd y ci, oedd o frîd XL Bully ac o'r enw Beast, ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach nad oedd yn frîd sydd wedi'i wahardd yn y DU.

Hayden oedd yn berchen ar Beast pan ymosododd y ci ar bobl ger siopau yn y dyddiau cyn yr ymosodiad angheuol.

Roedd Hayden eisoes wedi cyfaddef i dri chyhuddiad pellach o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth a dau gyhuddiad o fod yng ngofal ci a achosodd anaf.

Fe ddigwyddodd yr achosion hyn rhwng 4 a 7 Tachwedd y llynedd, cyn yr ymosodiad ar Jack Lis.

Roedd ardal y cyhoedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener llawn aelodau o deulu Jack.

Fe wnaeth Salter grio drwy gydol y gwrandawiad. Ni wnaeth Hayden ddangos unrhyw emosiwn.

'Ddim yn dda gyda chŵn eraill'

Clywodd y llys fod Hayden wedi prynu'r ci ar 3 Tachwedd 2021, cyn gofyn i Salter ofalu amdano am gyfnod byr.

Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers tua chwe mis.

Fe welodd Hayden hysbyseb oedd yn cynnig Beast "yn rhad ac am ddim", ac fe ddywedodd y gwerthwr nad oedd y ci "yn dda gyda chŵn eraill".

Dywedodd yr erlynydd Gareth James fod hyn yn dangos fod yna "ddealltwriaeth o'r dechrau fod yna broblemau gyda Beast".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog

Fe wnaeth Salter ganiatáu i'r ci aros yn ei chartref a hi oedd yn ei fwydo, ond Hayden oedd yr unig un oedd yn mynd â'r ci am dro, ac fe roddwyd allwedd i'r tŷ iddo.

Cafodd recordiad CCTV ei chwarae i'r llys o Hayden a Beast y tu allan i siop Top Stores ym Mhenyrheol yn y dyddiau cyn yr ymosodiad angheuol, sy'n dangos y ci yn neidio ar nifer o bobl gan gynnwys plant.

Mae cryfder y ci yn glir yn y recordiad, gyda Hayden yn cael ei lusgo gan y ci ac yn cael trafferth i'w reoli ar adegau.

Mae Salter hefyd i'w gweld - ar un pwynt mae'r ci yn brathu ei llaw, a phan mae'r ci yn ei rhyddhau mae Hayden yn taro'r ci ar ei ben sawl gwaith.

Clywodd y llys fod Jack wedi mwytho pen Beast mewn tŷ yng Nghaerffili ar 8 Tachwedd, ond fod y ci wedi neidio ar y bachgen, ei wthio i'r llawr a dechrau ymosod arno.

Daeth dyn, Kirk Wiebold, i geisio helpu yn y diwedd, a gwelodd Jack yn cael ei ymosod arno drwy wydr yn y drws.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amy Salter a Brandon Hayden eu carcharu am fod yng ngofal ci oedd yn beryglus ac a wnaeth achosi marwolaeth bachgen 10 oed

Roedd Hayden "mewn panig" pan gyrhaeddodd y tŷ, a gadawodd pan ddaeth yr heddlu.

Fe wnaeth torf ymgasglu y tu allan i'r tŷ, gyda rhieni Jack yn eu plith, ac roedd yna ddryswch ynghylch faint o blant oedd yn y tŷ.

Bu'n rhaid i'r heddlu roi'r newyddion "torcalonnus" i rieni Jack ei fod wedi marw.

Fe gafodd y ci, oedd yn pwyso 96.5 pwys, ei ddifa mewn ystafell wely.

Cafodd Hayden a Salter eu harestio'r diwrnod canlynol.

Dywedodd Hayden wrth yr heddlu ei fod o'r farn mai Salter oedd perchennog y ci - dywedodd Salter ei bod yn teimlo dan bwysau am y drefn o ofalu am y ci.

'Cwbl anghyfrifol'

Dywedodd y Barnwr Michael Fitton QC ddydd Gwener fod marwolaeth Jack yn ddigwyddiad cwbl drasig a diangen.

"Roeddet ti'n bresennol pan wnaeth y ci ymddwyn yn ffyrnig," meddai wrth Salter yn Llys y Goron Caerdydd.

"Yn fy marn i, mi oeddet ti'n gwybod fod y penderfyniad i gadw'r ci yn gwbl anghyfrifol."

Dywedodd wrth Hayden: "Roeddet ti'n gwybod fod y gwerthwr yn cael gwared [ar y ci] gan nad oedd e'n dda gyda chŵn eraill - roeddet ti'n gwybod fod yna broblemau.

"Fe ddylai hi wedi bod yn glir fod yna digwyddiad difrifol yn fwyfwy tebygol."

Ffynhonnell y llun, Bronwen Weatherby | PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad mewn tŷ yng Nghaerffili

Dywedodd Ryan Randall o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Er gwaethaf rhybuddion y perchennog diwethaf, ac er iddyn nhw wybod pa mor ffyrnig oedd y ci, fe wnaeth Hayden a Salter adael yr anifail yn y tŷ heb gymryd unrhyw fesurau go iawn i'w reoli.

"Roedd gan eu methiant i wneud hynny ganlyniadau erchyll."

Pynciau cysylltiedig