Callum Scott Howells; seren dros nos It's a Sin
- Cyhoeddwyd
Mae Callum Scott Howells o'r Rhondda wedi dod yn enwog bron dros nos yn dilyn llwyddiant ysgubol It's a Sin, cyfres ddrama Channel 4 am argyfwng AIDS a'r gymuned hoyw yn y 1980au.
Mae ei bortread o Colin, y Cymro ifanc o'r cymoedd, wedi ei wneud yn ddyn y foment gyda chyfweliadau yn Vogue, Cosmopolitan a GQ - ac ar Heno, dolen allanol!
Ond mae'r actor ifanc yn dal yn driw iawn i'w wreiddiau, meddai un o'i gyn athrawon yn Ysgol Gyfun Treorci sy'n ei ddisgrifio fel disgybl talentog, cyfeillgar oedd yn sefyll allan o'r dechrau.
Mae'n rhywun sydd eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned sydd wedi ei greu felly mae'n hyfryd i weld ei lwyddiant, mae pawb yn falch iawn ohono.
"O'r diwrnod cyntaf gallech chi weld y byddai'n llwyddiannus," meddai pennaeth cynorthwyol yr ysgol, Rhiannon Davies, oedd yn bennaeth blwyddyn ar Callum am bum mlynedd.
"Mae'n ddoniol iawn, yn huawdl ac yn ddisglair. Rwy'n cofio ein sioe fach gyntaf, gwasanaeth Nadolig, ac roedd yn gallu gwneud y rhannau i gyd, yr acenion, y lleisiau."
Roedd Callum yn brif fachgen yn yr ysgol ac yn cymryd rhan lawn yn sioeau a chyngherddau'r ysgol ac yn y gymuned. Roedd hefyd yn aelod o gôr Only Boys Aloud a berfformiodd ar raglen dalent Britain's Got Talent ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd.
Er nad yw Ysgol Gyfun Treorci yn ysgol Gymraeg fe astudiodd Callum yr iaith yno hyd at lefel AS a chafodd gyfle i'w defnyddio mewn cyfweliad ar raglen Heno ar S4C.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
AIDS a neges y gyfres
A hithau'n fis dathlu hanes LGBT+ fis Chwefror mae Rhiannon yn teimlo balchder hefyd am y rhan mae'r gyfres yn ei chwarae mewn codi ymwybyddiaeth am agweddau at AIDS a'r gymuned hoyw yn y 1980au.
"Mae'n ffantastig oherwydd neges y gyfres, mae'n fwy na Callum yn unig. Mae'r neges maen nhw'n ei gyfleu yn hynod o bwysig i bobl ifanc.
"Ac rwy'n credu ei bod yn ffantastig ei fod yn chwifio'r faner dros Gymru ac yn dangos pobl o gymunedau'r cymoedd a'r math o bobl y byddech yn cwrdd â nhw yn y mathau yna o gymunedau a sut mae eu stori nhw yn rhan o'r darlun ehangach.
"Ac oherwydd y pwnc heriol mae wedi agor hynny allan i bobl efallai fyddai ddim wedi gwylio'r math yna o raglen fel arall. Mae wedi agor drysau i ddangos hynny i'n cymuned a dwi'n credu bod hynny'n amhrisiadwy."
Effaith Covid
Er i It's a Sin gael ei ffilmio cyn i bandemig Covid-19 daro mae modd gweld rhai paralelau gyda heddiw yn y gyfres ac mae hynny hefyd yn agos at galon Callum gan iddo golli ei fam-gu a'i dad-cu i Covid-19 o fewn cyfnod byr iawn i'w gilydd yn 2020.
Mae'n ffantastig oherwydd neges y gyfres, mae'n fwy na Callum yn unig. Mae'r neges maen nhw'n ei gyfleu yn hynod o bwysig i bobl ifanc
"Mae Callum wedi siarad am sut mae'r pandemig AIDS wedi canu cloch gydag e oherwydd y sefyllfa gyda Covid a'r ofn a'r anwybodaeth," meddai Rhiannon Davies.
"Roedd yn gallu siarad yn eitha huawdl am hynny a sut yr effeithiodd ar ei deulu. Mae wedi atygyfnerthu'r rhesymau pam fod gan bobl ofn a'r holl bethau eraill sy'n cysylltu'r sioe gyda'r pandemig yma.
Ysgogi pobl eraill
"Roedd pawb yn adnabod Callum o oedran ifanc [yn yr ysgol] gan ei fod yn cymryd rhan ym mhopeth. Os ydych chi mewn ystafell gyda Callum, hyd yn oed os oes 'na 100 o bobl yna, fe wneith wneud i chi deimlo'n sbesial, mae'n rhoi lot o sylw i bobl ac mae'n dathlu'r ysgol drwy'r amser.
"Mae'n ddyn ifanc cynhwysol iawn. Nid ei lwyddiant e'n unig sy'n bwysig iddo, ond llwyddiant pawb. Mae'n rhywun sy'n cario pawb arall gyda fe, yn rhywun sy'n ysgogi pobl."
Wedi gadael Ysgol Gyfun Treorci yn 2017 aeth i Goleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Roedd ar ganol ei astudiaethau yno pan gafodd y rhan ar It's a Sin - ei ran gyntaf ar deledu.
Mae'r gyfres wedi ei seilio ar lawer o brofiadau go iawn yr awdur o Abertawe, Russell T Davies.
Ond mae Callum yn dal i fod mewn cysylltiad gyda'i hen ysgol. Ddiwedd mis Ionawr 2021 roedd ar y ffôn gyda Rhiannon Davies yn trefnu i recordio fideo gyda chyn ddisgyblion eraill i ysbrydoli plant hŷn yr ysgol oedd yn mynd i'r chweched dosbarth.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Mae cael rhywun i'w efelychu yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc mewn ardal fel Treorci meddai Rhiannon Davies.
"Mae yna lot o gyn ddisgyblion rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw ac rydyn ni'n ceisio cadw mewn cysylltiad gyda nhw beth bynnag eu lefel llwyddiant oherwydd os ydych chi'n dod o ardal mor ddifreintiedig â Treorci mae'n bwysig iawn cyfeirio at lwyddiant lle bynnag mae'n digwydd.
"Mae Callum yn berson balch iawn, mae teulu a chymuned y cymoedd yn bwysig iddo - mae'n cymryd rhan lawn yn y gymuned, nid yn yr ysgol yn unig, lle roedd ym mhopeth, roedd yn allweddol yn y gymuned hefyd.
"Mae'n rhywun sydd eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned sydd wedi ei greu felly mae'n hyfryd i weld ei lwyddiant, mae pawb yn yr ardal yn falch iawn ohono."
Hefyd o ddiddordeb: