Cyfreithiau tai: Landlordiaid yn ofni 'argyfwng' i bobl sy'n rhentu

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn edrych mewn ffenest gwerthwr taiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai tenantiaid wynebu llai o ddewis a phrisiau uwch os bydd rheolau newydd yn gyrru landlordiaid allan o'r farchnad

Dywed landlordiaid yng Nghymru eu bod yn ofni y bydd llawer yn gwerthu ac yn rhoi'r gorau i rentu cartrefi oherwydd pryderon am reolau tai newydd.

Bwriad Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yw amddiffyn tenantiaid, ond dywedodd rhai landlordiaid preifat y gallai greu "argyfwng" i rentwyr.

Fe ddaw wrth i Shelter Cymru ddweud ei bod yn gweld dwywaith y nifer o denantiaid yn cael eu troi allan.

Dywedodd Claire Green, o Feisgyn, Rhondda Cynon Taf, na allai gymryd y "risg" o fod yn landlord mwyach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y fam sengl ei bod eisoes wedi gwerthu nifer o'i heiddo.

Mae hi'n beio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) am roi gormod o risg i landlordiaid.

Dywedodd rhai landlordiaid y gallai arwain yn y pen draw at lai o eiddo a phrisiau uwch.

"Mae yna nifer o gymalau yn dod i mewn a allai o bosibl anfon rhai pobl â phortffolio llai fel fi yn fethdalwr," meddai Ms Green.

"Doeddwn i ddim yn gwneud llawer o elw ar gwpl o eiddo," ychwanegodd.

"Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i barhau i hunanreoli ac roeddwn i'n meddwl na allaf wneud hyn bellach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y landlord Claire Green fod rheolau tai newydd wedi ei gorfodi i werthu tai

Dywedodd Ms Green fod llawer o landlordiaid yn poeni am gynnydd yn y cyfnod rhybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi ar gyfer troi allan 'dim bai', o ddau fis i chwech.

"Nid yw'n beth braf gorfod rhoi rhybudd i'ch tenant. Fodd bynnag, mae yna sefyllfaoedd y mae landlordiaid yn canfod eu hunain ynddynt, boed hynny trwy ysgariad neu anhawster ariannol a sefyllfaoedd eraill, lle mae angen iddynt roi rhybudd nawr," meddai.

Ychwanegodd fod landlordiaid yn gorfod addasu i newidiadau mawr yn y ffordd y mae cytundebau'n gweithio.

"Pan wnes i ddarganfod y byddai'n rhaid i mi hefyd amnewid y cytundeb tenantiaeth syml hwnnw am gontract hir, roedd yn benderfyniad hawdd i mi oherwydd nid oes gennyf yr amser.

"Rwy'n gweithio'n llawn amser, rwy'n fam sengl a does gen i ddim amser i wneud y math yma o waith ychwanegol."

Dywedodd er nad oedd angen iddi roi rhybuddion troi allan 'dim bai' i unrhyw denantiaid, efallai y byddai'n rhaid iddi ei ystyried yn y dyfodol er mwyn dadlwytho eiddo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coates yn rhedeg grŵp Facebook ar gyfer mwy na 600 o landlordiaid

Dywedodd Chris Coates, sy'n rhedeg grŵp Facebook ar gyfer mwy na 600 o landlordiaid yng Nghymru, ei fod yn gweld trafodaethau am werthu a rhoi'r gorau iddi "bron yn ddyddiol".

"Yn fy mhrofiad i mae'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yn bobl dda, weddus sydd eisiau gwneud y peth iawn," meddai.

"Mae yna lawer o ansicrwydd ar hyn o bryd a llawer o bryder ymhlith landlordiaid.

"Fy ofn yw y bydd llawer o landlordiaid yn penderfynu gwerthu ac y bydd gostyngiad yn y stoc rhent.

"Gallai landlordiaid hefyd fod mor bryderus ynghylch i bwy y maent yn gosod eu heiddo fel y bydd yn effeithio ar allu ein tenantiaid mwyaf bregus i ddod o hyd i rywle i fyw."

Beth yw'r newidiadau i'r rheolau rhentu?

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno'r gyfraith newydd ym mis Gorffennaf, ond mae honno bellach wedi'i gohirio tan fis Rhagfyr, yn rhannol er mwyn "caniatáu mwy o amser i landlordiaid" baratoi.

Dywedodd Shelter Cymru fod yr oedi wedi bod yn "syndod mawr" gyda'r achosion o droi allan heb fai wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf.

"Roedden ni'n teimlo ei fod yn ergyd wirioneddol i denantiaid," meddai Jennie Bibbings, pennaeth ymgyrchoedd yr elusen.

Disgrifiad o’r llun,

Jennie Bibbings, Shelter Cymru

"Mae cymaint o fanteision yn y ddeddfwriaeth hon ac rydym i gyd wedi bod yn aros am amser mor hir amdani.

"Yn ein gwaith ni, mae achosion o droi allan heb fai wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf," meddai. "O'r hyn rwy'n ei glywed mae llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â gwerthu tai.

"Mae yna swigen prisiau tai ar draws y DU. Mae gennym ni gyfuniad arbennig o wenwynig yng Nghymru oherwydd mae gennym ni newid deddfwriaethol mawr ar y gweill.

"Mae hynny bob amser yn codi ofn ar bobl ac fe allai fod yn ysgogiad ychwanegol i rai landlordiaid sydd eisoes yn meddwl am adael y gêm."

Disgrifiad o’r llun,

Carl Sully gyda'i bartner Siân Davies

Dywedodd Carl Sully, 28, y byddai wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr" i'w deulu ifanc pe bai ganddyn nhw chwe mis, yn hytrach na dau, i ddod o hyd i gartref newydd ar ôl cael hysbysiad troi allan gan eu landlord yng Nghasnewydd.

"Rydw i a fy mhartner yn gweithio'n llawn amser gan gynnwys goramser a rhoi oriau ychwanegol i mewn. Ry' ni wedi cael trafferth dod o hyd i unrhyw beth yn ein hystod prisiau, yn ogystal â'r bond a'r blaendal, ar fyr rybudd.

"Mae wedi rhoi straen aruthrol ar ein hiechyd meddwl, ein pryderon teuluol ac ariannol gan fod gennym ddau fab ifanc i ddarparu ar eu cyfer. Roedd yn frawychus."

Dywed Carl fod ei deulu wedi angen cymorth gan dimau tai cymdeithasol yn y pen draw a'u bod yn "lwcus" i ddod o hyd i rywle mewn pryd.

Awgrymodd ymchwil gan Sefydliad Bevan yn ddiweddar fod nifer cynyddol o bobl yng Nghymru mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd prinder eiddo fforddiadwy.

Dangosodd data a gasglwyd o 1,775 o hysbysebion rhent ledled Cymru mai dim ond 24, neu ddim ond 1.4%, oedd am bris a gwmpesir yn llawn gan y lwfans tai.

90,000 o landlordiaid

Credwyd yn flaenorol fod yna 130,000 o landlordiaid ond dywedodd Rhentu Doeth Cymru, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i fynd i'r afael â landlordiaid gwael, mai dim ond 90,000 yw'r ffigwr go iawn.

Dywedodd Jeanne Fry-Thomas, cyfarwyddwraig gyda gwerthwyr tai Bidmead Cook ym Mlaenau Gwent, fod nifer o landlordiaid yn "tynnu'n ôl o'r farchnad rhentu preifat".

"Mae llawer o'r landlordiaid hyn yn rhentu i bobl ar fudd-dal tai," meddai.

"Mae'r sector rhentu preifat mor wael mae nifer yr eiddo sydd ar gael yn gostwng drwy'r amser. Dyna pam rydyn ni'n gweld rhenti'n codi cymaint, mae hynny oherwydd y cyflenwad a'r galw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Anaml iawn y mae'r math hwn o ddiwygio mawr yn digwydd ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gan landlordiaid ddigon o amser i wneud y paratoadau angenrheidiol a gwneud pethau'n iawn i denantiaid."

Dywedodd y llefarydd ochr yn ochr â'r Ddeddf Rhentu Cartrefi fod Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun sy'n cynnig cymhellion i berchnogion nad ydyn nhw eisiau mynd ati i reoli eu heiddo er mwyn iddyn nhw allu ei brydlesu i'w hawdurdod lleol yn lle hynny.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol