Archesgob Cymru: Hedfan ceiswyr lloches i Rwanda yn 'anfoesol'

  • Cyhoeddwyd
Credir bod awyren yma yn Wiltshire yn paratoi ar gyfer yr hediad cyntaf i RwandaFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod yr awyren yma yn Wiltshire wedi bod yn paratoi ar gyfer yr hediad cyntaf i Rwanda

Mae Archesgob Cymru wedi condemnio penderfyniad Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches i Rwanda, gan alw'r cynllun yn "anfoesol".

Y bwriad ydy cludo rhai ceiswyr lloches - sy'n cael eu hystyried fel eu bod wedi dod i'r DU yn anghyfreithlon - i Affrica i hawlio lloches yno.

Roedd yr hediad cyntaf i fod i ddigwydd nos Fawrth, gan ddechrau ar gyfnod o dreialu a fydd yn para am bum mlynedd.

Ond cafodd yr awyren ei hatal rhag hedfan ar ôl brwydr gyfreithiol funud olaf, meddai'r Swyddfa Gartref wrth y BBC.

Roedd disgwyl i hyd at saith o bobl gael eu symud i ddwyrain Affrica ond cafodd yr awyren ei chanslo ar ôl i Lys Hawliau Dynol Ewrop gamu i'r adwy.

Ddydd Llun fe ddyfarnodd y Llys Apêl ei fod "er lles y cyhoedd" i'r cynlluniau fynd yn eu blaen, yn dilyn her gyfreithiol.

Mae Llywodraeth y DU yn credu y bydd y cynllun yn atal masnachwyr rhag codi symiau mawr o arian ar geiswyr lloches i groesi'r Sianel.

"Mae'n brin o ffibr moesol," meddai'r Archesgob Andy John. "Does dim hawl i apelio a gosod maes cymhleth ar gontract allanol i wlad sydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

"Mae'n ymddangos i'r rhan fwyaf o bobl, dwi'n meddwl, fod hyn yn ymwrthod â chyfrifoldeb," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 10,500 o bobl wedi croesi'r Sianel i Dover eleni, yn ôl ffigyrau'r BBC

Dywedodd Boris Johnson wrth weinidogion ddydd Mawrth mai'r bwriad oedd sicrhau bod "gwahaniaeth clir" rhwng mewnfudo i'r DU drwy lwybrau diogel a chyfreithlon y mae'r llywodraeth yn eu cefnogi a "mudo peryglus ac anghyfreithlon ar draws y Sianel, yr ydym yn bwriadu ei atal".

Cludwyd mwy na 270 o bobl i'r lan yn Dover ddydd Mawrth ar ôl croesi'r Sianel.

Mae'n dod â'r cyfanswm i wneud y daith eleni i fwy na 10,500 yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan y BBC.

'Anfoesol'

Bu mwy na 50 o bobl hefyd yn cynnal protest yng nghanol dinas Abertawe yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU.

Mewn araith yn y brotest, dywedodd Dinas Noddfa Abertawe fod y cynllun yn "ddideimlad a chreulon".

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart ei fod yn "anfoesol".

Fe fydd barnwyr yn ystyried a yw'r polisi yn ei gyfanrwydd yn gyfreithlon mewn adolygiad barnwrol llawn fis nesaf.

Pe bai'n cael ei ddyfarnu'n anghyfreithlon, fe allai rhai pobl ddychwelyd i'r DU o Rwanda.

Yn siarad yn gynharach eleni, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y cynllun yn un "creulon, drud ac aneffeithiol".

Aeth ymlaen i'w ddisgrifio fel syniad "niweidiol i enw da'r DU".

Pynciau cysylltiedig