Coronafeirws: 'Ceiswyr lloches mewn limbo a methu gweithio'

  • Cyhoeddwyd
Mostafa Alhamad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mostafa Alhamad wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 10 mis ar ôl ffoi o Syria

Mae'r argyfwng coronafeirws wedi achosi oedi pellach cyn bod cannoedd o geiswyr lloches yn cael gwybod a ydyn nhw'n cael aros yn y DU.

Roedd y system dan bwysau cyn i'r pandemig achosi i'r broses ceisio lloches ddod i stop ym mis Mawrth.

Yn wahanol i nifer o wledydd eraill, mae'r cyfleoedd i unigolion weithio tra bod yr awdurdodau'n ystyried eu ceisiadau weithio yn fwy cyfyng yn y DU.

Mae'r sefyllfa'r effeithio ar bobl fel Mostafa Alhamad, gŵr busnes graddedig 30 oed o Syria sy'n byw yng Nghaerdydd ers 10 mis ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn ei famwlad.

"Cyn i mi adael fy ngwlad roedd gen i gar, swydd dda, tŷ ond wnes i adael oherwydd roeddwn eisiau bod yn saff," meddai.

'Dewis i fyw'

Ag yntau yn yr oedran cywir i fod yn y fyddin, cafodd ei roi mewn sefyllfa o orfod dewis ochr yn y rhyfel cartref.

"Roedd rhaid gwasanaethau gyda'r fyddin neu adael y wlad," meddai. "Dewisais i adael y wlad oherwydd roeddwn eisiau byw."

Disgrifiad o’r llun,

Mostafa gyda'i wraig, Zainab sy'n dal yn Damascus gyda'u merch

Aeth gyda'i wraig, Zainab i Libanus yn 2013, ble gawson nhw ddau blentyn.

Agorodd fwyty yno a'i redeg yn llwyddiannus am chwe blynedd ond bu'n rhaid gwerthu'r busnes a gadael y llynedd oherwydd rheolau fisa a dinasyddiaeth.

Doedd dim hawl ganddo i gael cyfrif banc a rheoli ei arian a'i fusnes ei hun. Talodd grocbris ar y farchnad ddu am hediad o'r wlad, ond doedd hynny ddim yn ddigon ar gyfer y teulu cyfan.

Aeth ei wraig at ei theulu yn Damascus, a mis Chwefror y llynedd aeth i weld i ba raddau roedd y rhyfel wedi effeithio ar gyflwr eu fflat. Dymchwelodd yr adeilad gan ladd eu mab dyflwydd oed, Mohammad.

Newidiodd popeth yn sgil hynny, medd Mostafa, sydd hefyd wedi colli sawl ffrind a pherthynas arall yn y rhyfel.

Disgrifiad o’r llun,

Mostafa gyda'i fab Mohammad, a fu farw y llynedd, a'i ferch Rodina

Mae ganddo lety yng Nghaerdydd ac mae'n cael £37.75 yr wythnos mewn budd-daliadau, ond mae'n mynnu "dyw'r arian ddim yn bwysig, rydw i jest eisiau bod yn saff".

Serch hynny, ag yntau ddim yn cael gweithio dan y rheolau, mae'n dweud fod "weithiau mae'n rhaid dewis rhwng pethau hanfodol fel bwyd, neu ddata i siarad gyda'ch teulu".

Gohirio apwyntiadau

Yn ôl ffigyrau Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru fis Hydref y llynedd roedd yna 2,626 o geiswyr lloches yng Nghymru.

Roedd Mostafa i fod i gael cyfweliad wyneb yn wyneb - rhan allweddol o'r broses - ym mis Mawrth, dridiau cyn i'r cyfnod clo ddod i rym ac felly bu'n rhaid gohirio'r apwyntiad.

Mae ymgyrchwyr yn credu y dylai pobl gael gweithio ar ôl ffoi rhag erledigaeth neu ryfel cartref, ac yn enwedig nawr wrth i'r nifer sy'n aros am benderfyniad godi.

Mae Dinas Noddfa yn cefnogi dros 100 o grwpiau yn y DU sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu cymunedau.

Dywed yr elusen fod oedi o fewn y system ers blynyddoedd ond bod y pandemig wedi achosi pentyrru pellach gan ddod â chyfweliadau wyneb yn wyneb i stop am y tro.

Galw am gael yr hawl i weithio

Dywedodd Siân Summers-Rees, prif swyddog Dinas Noddfa sy'n gweithio o Faesteg, nad yw'r system lloches ei hun yn gweld y ceisiwr lloches fel person unigol.

"Weithiau mae'r system yn gallu cymryd blynyddoedd a dydy safon penderfyniadau'r Swyddfa Gartref ddim yn dda," meddai.

Mae polisi'r DU o ran caniatáu i bobl weithio wrth aros am benderfyniad lloches yn fwy cyfyngedig na rhai gwledydd eraill.

Wrth alw am benderfyniadau mwy safonol a chyflym, mae Ms Summers-Rees yn dadlau "y dylai pobl allu gweithio a chyfrannu i gymdeithas yn y cyfamser".

Beth yw'r drefn i geiswyr lloches?

  • Mae'n bosib gofyn am ganiatâd i weithio wedi 12 mis, ond dim ond mewn meysydd ble mae prinder sgiliau;

  • Maen nhw'n cael eu hannog i wirfoddoli gydag elusen neu gorff sector cyhoeddus yn eu cymuned tra bod eu cais yn cael ei ystyried;

  • Mae ceiswyr lloches yn cael gweithio yn yr UE wedi naw mis, ar ôl chwe mis yn yr Unol Daleithiau, ac yn syth yng Nghanada ac Awstralia. Dim ond y DU sydd â rheolau ynghylch natur y gwaith posib;

  • Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisïau lloches, ond mae Llywodraeth Cymru wedi lobïo o blaid llacio'r cyfyngiadau gwaith gan fod "sgiliau ceiswyr lloches yn cael eu gwastraffu ar hyn o bryd".

Egwyddor rheolau'r Swyddfa Gartref yw sicrhau gwahaniaeth rhwng ymfudo economaidd a lloches - cam i atal pobl sydd ddim angen eu gwarchod rhag ceisio lloches er mwyn elwa ar gyfleoedd economaidd na fyddai ar gael iddyn nhw fel arall.

Oherwydd llai o symud ar draws y byd, roedd yna ostyngiad o 69% mewn ceisiadau am loches yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfnod clo yn y DU.

Mae absenoldebau staff hefyd wedi effeithio ar y broses gwneud penderfyniadau, er bod y Swyddfa Gartref bellach yn ystyried cynnal apwyntiadau ar-lein.

'Mater cymhleth'

Dywed y Swyddfa Gartref eu bod yn ystyried o ddifrif y dadleuon dros hawliau ceiswyr lloches i weithio.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi ailddechrau cynnal cyfweliadau ddiwedd Gorffennaf wrth i'r rheolau pellter cymdeithasol lacio, a chynadleddau fideo, a bod achosion bellach yn cael eu cwblhau "yn sydyn ar draws y DU".

Ychwanegodd: "Mae hawl ceisiwr lloches i weithio'n fater cymhleth ac yn cael ei adolygu.

"Fodd bynnag, caiff ceiswyr lloches weithio mewn swyddi ar y rhestr o swyddi lle mae prinder, os ydyn nhw wedi bod yn aros, yn ddi-fai, am benderfyniad am dros 12 mis."