Gyrrwr o Nefyn wedi marw o anafiadau difrifol i'r pen

  • Cyhoeddwyd
DroyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd tafarn Yr Heliwr yn Nefyn fod Droy yn ddyn "annwyl iawn" ac yn "rhan allweddol o'r gymuned yn Nefyn"

Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn 20 oed o Nefyn ar ôl i'w gar gael ei daro gan gar arall a throi ar ei ochr ar benwythnos gŵyl y banc ym Mhen Llŷn.

Bu farw Droy Darroch-York ar ddydd Sadwrn 4 Mehefin ar ôl y gwrthdrawiad ar y B4354 ym Mhentre-uchaf ger Pwllheli.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley fod parafeddygon wedi cyrraedd safle ond y bu farw Droy cyn bod modd ei gludo i'r ysbyty

Yn ôl canlyniad archwiliad post mortem bu farw o anafiadau difrifol i'r pen.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y groesffordd rhwng Fron a Phentre-uchaf ar 4 Mehefin

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio tra bod yr ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau, a bydd cwest llawn yn cael ei gynnal ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Ar ôl y gwrthdrawiad fe wnaeth teulu Droy ryddhau datganiad yn ei ddisgrifio fel dyn "hapus a gweithgar" oedd bob amser "â gwên hyfryd ar ei wyneb".

Dywedodd tafarn Yr Heliwr yn Nefyn, ble roedd Droy yn gweithio, ei fod yn "ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd".

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad rhwng y ddau gar - BMW X3 glas a Ford Fusion du.

Pynciau cysylltiedig