Goryrru Eluned Morgan: Argymell cerydd swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o aelodau'r Senedd wedi argymell fod y gweinidog iechyd Eluned Morgan yn derbyn cerydd swyddogol wedi iddi gael ei gwahardd rhag gyrru am oryrru.
Mae pwyllgor safonau Senedd Cymru wedi galw am i Ms Morgan gael y cerydd gan y Senedd, ond dydyn nhw ddim yn argymell cosb fwy difrifol, fel gwaharddiad.
Mae Ms Morgan a Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
Cafodd Eluned Morgan ei gwahardd rhag gyrru yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar 17 Mawrth.
Dywedodd Comisiynydd Safonau'r Senedd fod y gwaharddiad yn dilyn tri erlyniad arall a bod Ms Morgan wedi cael dirwy o £800.
Dywedodd Douglas Bain fod y troseddau yn "esiampl wael iawn" ac yn torri cod ymddygiad y Senedd.
Dywedodd adroddiad y pwyllgor ei fod yn "fater o ofid" fod adroddiad Mr Bain wedi ei ryddhau i'r cyfryngau cyn i'r pwyllgor orffen eu hystyriaeth o'r gŵyn.
Dywedodd Mr Bain wrth y pwyllgor y gallai'r risg y byddai hyn yn digwydd gael ei leihau drwy ddarparu fersiwn lai o'r adroddiad i'r achwynydd.
Bydd yn rhaid i'r Senedd bleidleisio ar gerydd Ms Morgan.
Dywedodd yr adroddiad y byddai'r cynnig yn "gyfle i'r Aelod ymddiheuro am ei hymddygiad i'r Senedd yn ei chyfanrwydd".
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y DU yn hallt dros achosion o bartïon yn Downing Street yn ystod y pandemig.
Fe alwodd Mr Drakeford i'r Prif Weinidog Boris Johnson ymddiswyddo ar ôl iddo dderbyn dirwy am dorri rheolau Covid, gan ddweud "allwch chi ddim bod yn grëwr cyfreithiau ac yn dorrwr cyfreithiau ar yr un pryd".
Cyn yr argymhelliad gan y pwyllgor, roedd Mark Drakeford wedi dweud ei bod yn iawn i'r mater gael ei gymryd o ddifrif, ond "wnaeth hi ddim gwneud y gyfraith y mae hi wedi'i thorri".
"Fe gyfaddefodd hi, ar unwaith. Mae'r llysoedd wedi delio â hi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022