Cymru'n trechu Wcráin i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi ennill lle yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcráin.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd y gystadleuaeth ers 1958.
Gyda pherfformiadau hyderus gan y ddau dîm, doedd hi ddim yn brynhawn hawdd dan gymylau glawog Caerdydd.
Ond gyda 'Yma o Hyd' yn atsain o amgylch y stadiwm o'r dechrau hyd y diwedd, dim ond cynyddu wnaeth ysfa Cymru i gyrraedd Qatar.

Roedd y stadiwm yn orlawn a sawl un o'r dorf yn eu dagrau
Roedd hi'n ddechrau bywiog yn y brifddinas gyda'r ddau dîm yn ymddangos yn gryf ac ymosodol.
Wcráin oedd â mwyafrif y meddiant yn y munudau cyntaf gyda dau gerdyn melyn i Gymru.
Cafodd Oleksandr Zinchenko ei demtio gydag ymgais i gyrraedd cefn y rhwyd, ond roedd ei gic rhydd yn rhy fuan a'r dyfarnwr - Antonio Lahoz - ddim yn barod.
Wedi 33 munud o herio'n erbyn cryfder Wcráin, fe ddaeth y gôl i Gareth Bale ac ochenaid o ryddhad i Gymru cyn yr hanner.
A gyda hynny, roedd Cymru hanner ffordd at gyrraedd y nod gyda'r sgôr yn 1-0.

Doedd dim newid i chwaraewyr y naill dîm na'r llall wedi hanner amser.
Fe gollodd Cymru gyfle euraidd gyda phas wych ar draws y cwrt gan Moore. Y cyfan oedd angen i Ramsey ei wneud oedd cyfeirio'r bêl tuag at y gôl ond heibio'r postyn wnaeth y bêl.
Taro'n ôl yn gryf wnaeth Wcráin wrth iddyn nhw groesi'n beryglus i'r cwrt.
Tsygankov wnaeth llithro i fewn ond fe lwyddodd Hennessey i arbed gyda'i goes i sicrhau dihangfa lwcus arall i Gymru.

Arbediad arwrol gan Hennessey i gadw Cymru ar y blaen
Daeth newid i dîm Cymru wedi 70 o funudau. Fe gamodd Brennan Johnson, sydd wedi llwyddo i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Nottingham Forest ymlaen i'r maes yn lle Dan James.
Gyda'r cloc yn dangos mai ugain munud oedd ar ôl fe ddaeth yr amser i roi hwb i'r tîm â'r anthem yn cael ei morio gan y dorf.
Roedd 'na eiliadau o gynnwrf i Gymru gyda sawl ymdrech i gyrraedd y rhwyd gan Johnson a Bale - ond y postyn ac arbediad golwr Wcráin yn rhwystro unrhyw bwyntiau ychwanegol.

Deng munud o densiwn ar ddiwedd y gêm a hyfforddwr Cymru, Rob Page, yn croesi popeth
Gydag ychydig dros ddeng munud i fynd, daeth Wcráin â phedwar chwaraewr newydd i'r maes. Yarmolenko yn cwrso a'i dîm yn ymddangos yn beryglus wrth i ambell chwaraewr o Gymru ddechrau blino.
"Viva Gareth Bale" gwaedda'r dorf a chamu oddi ar y cae wnaeth yr arwr gyda Harry Wilson ymlaen am yr wyth munud olaf.
Arbediad anhygoel gan Hennessey i rwystro peniad gan Wcráin a gobeithion Cymru'n dal yn fyw.
Creu hanes
Wrth i'r cloc dicio gyda phum munud ychwanegol fe ddaeth Rhys Norrington-Davies ymlaen i'r cae yn lle Neco Williams. Roedd yna gerdyn melyn i Mudryk am dacl hwyr ar Ampadu.
Er gwaethaf un ymdrech olaf gan y ddau dîm, fe ddaeth y fuddugoliaeth i Gymru â hanes yn cael ei greu.
Wedi 64 mlynedd o aros, mae Cymru wedi ennill lle yng Nghwpan y Byd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2022