Haf o Gerddoriaeth ar BBC Sounds
- Cyhoeddwyd

Mali Hâf, Gŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd
Mae cerddoriaeth fyw yn ei ôl! Gwrandewch ar BBC Sounds i glywed rhai o setiau byw gorau Haf O Gerddoriaeth ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi...
Gŵyl Triban, yr Urdd
Wnaethoch chi fethu Gŵyl Triban neu eisiau ail-fyw y penwythnos? Cliciwch yma neu chwiliwch am Haf o Gerddoriaeth ar BBC Sounds i fwynhau setiau Bwncath, Hana Lili, Ciwb a Mali Hâf.

Bwncath, Gŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd
Tafwyl
Swnami, Eadyth, Yws Gwynedd, Adwaith... byddwch yn barod at wledd o gerddoriaeth fydd ar gael i chi os ydych yno neu beidio!

Yws Gwynedd


Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae hi'n flwyddyn arbennig i Sesiwn Fawr Dolgellau eleni gyda'r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Edrychwch ymlaen at set Tara Bandito a mwy!

Tara Bandito
Eisteddfod Genedlaethol Tregaron
Eden, Papur Wal, Gwilym, HMS Morris, Y Cledrau... mae'r rhestr o bwy fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes ac yn Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni yn faith... Sgwn i setiau pwy fydd gan Haf o Gerddoriaeth ar eich cyfer?

Y Cledrau ar lwyfan Maes B yn 2019
Hefyd o ddiddordeb: