Cynnig profion genetig i ddeall mwy am iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Profion geneteg yn y labordyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwasanaeth newydd yn cynnig cwnsela a phrofion i unigolion ar draws Cymru er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o'r newidiadau genetig a allai fod yn gysylltiedig â salwch meddwl.

Bydd y profion yn caniatáu i arbenigwyr ganfod amrywiadau genetig - mae rhain yn gallu cynyddu risg unigolyn o ddatblygu salwch meddwl difrifol.

Dyma'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yn y DU ac mae'n gobeithio "cynnig cymorth a gofal a allai wella ansawdd bywydau", medd Dr Annie Procter.

Camgymeriad yn y cod genetig

Dywed fod newidiadau yng nghod geneteg person yn cynyddu'r risg o ddatblygu cyflwr iechyd meddwl difrifol.

Mae tua 30,000 o bobl yng Nghymru yn byw â chyflwr iechyd meddwl difrifol sy'n cael ei achosi gan gamgymeriad o fewn y cod genynnol.

Yn aml mae ffactorau o fewn amgylchedd unigolyn yn gallu dylanwadu ar iechyd meddwl rhywun ond mewn rhai achosion y newid yn y cod genynnol sy'n cynyddu'r risg.

Disgrifiad o’r llun,

Y meddyg ymynghorol Dr Annie Procter fydd arweinydd clinigol y gwasanaeth newydd

Bydd Gwasanaeth Genomeg Seiciatreg Cymru gyfan, dolen allanol yn cael ei arwain gan Dr Annie Procter sydd hefyd yn feddyg ymgynghorol.

Dywedodd: "Does dim dwywaith mai profiad person o fywyd yn gyffredinol sy'n cael yr effaith fwyaf ar eu lles meddyliol... ond rydym wedi gwybod ers rhai blynyddoedd y gall rhai newidiadau genetig roi risg sylweddol i rywun sydd ag anhwylderau seiciatrig.

"Mae pobl sydd â chyflyrau fel sgitsoffrenia yn marw 20 mlynedd yn gynt na'u cyfoedion. Ry'n ni'n gwybod fod hynny'n aml yn deillio o broblemau iechyd corfforol.

"Os oes rhywun ag un o'r newidiadau genetig hyn, rydym yn gwybod fod y risg o ddatblygu anhwylderau iechyd meddwl a phroblemau iechyd corfforol sy'n gysylltiedig â hynny, 30 gwaith yn fwy," meddai.

"I'r grŵp hwn o bobl, gall y gwasanaeth nid yn unig eu helpu i ddeall eu sefyllfa unigol - gall hefyd gynnig cymorth a gofal a allai wella ansawdd eu bywydau."

'Teimlo'n wahanol i blant eraill'

Cafodd iechyd meddwl Marc Flagg ei effeithio gan gwestiynau ynglyn â'i sefyllfa.

Roedd y darlithydd sy'n byw yng Nghaerdydd yn teimlo'n "wahanol a thu fas i bopeth ers yn ifanc".

"Y term roedd cyfoedion yn ei ddefnyddio oedd eccentric," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Marc Flagg wedi cael diagnosis o awtistiaeth

"Yn syml iawn, doeddwn i ddim mo'yn bod lle roedd pobl yn cyfarfod.

"So, partïon - unrhyw beth arbennig fel partis neu gyfarfod, doeddwn i ddim mo'yn bod yna heb fod 'na reolau a rhyw fath o rôl i fi.

"Dyna pam o'n i'n credu bo fi'n wahanol."

Agor drws newydd

Gwnaeth Marc Flagg yn dda yn yr ysgol gan lwyddo yn ei arholiadau Lefel O pan yn 16, ond roedd y syniad o newid i'r drefn a mynd i'r brifysgol yn ei "ddychryn" a methodd ei arholiadau Lefel A - yn rhannol ar bwrpas ac am ei fod ofn.

"Gydag ysgol roedd 'na drefn, a gyda phrifysgol roedd 'na anrhefn, ac roeddwn i'n ofni symud mewn i'r byd yna," meddai.

Gadawodd Marc yr ysgol a dechreuodd weithio mewn swyddfa bost.

Roedd ei iechyd meddwl wedi dirywio wrth iddo ofyn i'w hun pam ei fod yn wahanol, yna flynyddoedd yn ddiweddarach cafodd ei fab ddiagnosis o awtistiaeth.

Dyna pryd y dechreuodd arbenigwyr ofyn a oedd Marc erioed wedi cael diagnosis.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Marc Flagg fod deall ei gyflwr wedi gwella ei iechyd meddwl yn sylweddol

Er nad ydy awtistiaeth yn gyflwr iechyd meddwl, roedd deall fod ganddo awtistiaeth wedi newid ei fywyd.

"I fod yn berffaith onest, dwi ddim yn berson emosiynol ond roeddwn i yn emosiynol iawn ar ôl cael y newyddion," meddai.

"Roeddwn i'n crio lot. Roedd 'na ryw fath o ddrws yn agor.

"Fe newidiodd pethau pan ges i ddiagnosis o awtistiaeth - roeddwn i bellach yn gallu gwneud synnwyr o fy mywyd."

Erbyn hyn, mae Marc yn derbyn y gefnogaeth y mae ei angen, ac mae ei iechyd meddwl wedi gwella yn sylweddol.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu?

Fe all unigolion a theuluoedd ar draws Cymru gael eu cyfeirio at y gwasanaeth newydd gan dimau iechyd meddwl neu geneteg lleol, ac o bosib meddygon teulu.

Fe allai rhain gynnwys unigolion ag anhwylderau seiciatrig nad yw triniaeth yn profi'n effeithiol, unigolion sy'n poeni am hanes teuluol o anhwylderau iechyd meddwl neu bobl â ffactorau risg sydd eisiau cyngor am ddechrau teulu.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys seiciatryddion, cwnselwyr genetig, seicolegwyr a fferyllwyr yn ogystal ag ymchwilwyr academaidd.

Os yn briodol gall y gwasanaeth gynnig prawf genetig i berson ac fe allai hynny helpu i ddod o hyd i amrywiadau bach yn eu cod DNA.

Dywed Donna Duffin, sy'n gwnselydd genetig gyda'r gwasanaeth mai'r prif amcan yw helpu unigolion a theuluoedd ddeall eu sefyllfa unigol yn well.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Donna Duffin, sy'n gwnselydd, ei bod yn bwysig siarad â phobl am sut mae genynnau yn cyfrannu at eu salwch

"Mae un ym mhob pedwar person yn cael rhyw fath o broblem iechyd meddwl ac un ym mhob cant yn cael problemau difrifol iawn. Mewn cyfran o'r rheiny ma 'na amrywiadau geneteg allwn ni brofi amdanyn nhw," meddai.

"Mae lot o bobol sydd â phroblemau iechyd meddwl yn teimlo'n euog ac yn beio'u hunain gan feddwl bo nhw wedi gwneud rhywbeth i achosi'u cyflwr.

"Os ni'n siarad â phobl ac yn esbonio sut mae genynnau yn cyfrannu at eu salwch ma' fe'n helpu pobl i 'neud penderfyniadau a lleihau'r teimlad o euogrwydd," meddai.

"Dyma'r gwasanaeth cyntaf ym Mhrydain i wneud hyn a mae'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r tîm.

"Felly ma' 'na lot dydyn ni ddim yn deall eto ond o symud i'r dyfodol gyda'r cleifion a deall gyda'r cleifion fe allwn ni ddysgu llawer iawn mwy."

Ychwanegodd Dr Annie Procter: "Rydyn ni'n gwybod bod amrywiadau genynnol yn cynyddu risg ond dydyn ni ddim yn gwybod sut.

"Weithiau ym myd geneteg gall darganfod un person sydd â newid genetig penodol newid ein dealltwriaeth ac ymhen blynyddoedd bydd modd datblygu triniaeth arbenigol - triniaeth na sy'n bodoli ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig