Iechyd meddwl: Galw am fwy o gymorth wedi 18 oed
- Cyhoeddwyd
![Megan Abbott](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1591F/production/_124715388_85ef27a3-1aa8-40db-96a5-0870c151464c.jpg)
Yn ôl Megan Abbott, mae'r newid mewn gofal iechyd meddwl yn 'rhy sydyn ac yn rhy ddramatig' wrth adael gofal gwasanaethau ieuenctid
Mae Megan Abbott, 21 oed o bentre Gors-las ger Cross Hands yn byw â chyflwr sy'n cael ei adnabod fel anhwylder personoliaeth ffiniol (Borderline Personality Disorder) - cyflwr sy'n ei gwneud yn anodd iddi reoli ei hemosiynau.
"Mae yn anodd bod yn y canol," meddai. "Rwy'n gallu mynd rhai diwrnodau lle dwi'n iawn, ond mae patches mewn bywyd lle mae'n anodd i fi reoli fy emosiynau am ddyddiau lawer. Rwy'n cael highs a lows."
Mae Megan yn cefnogi ymgyrch sy'n dadlau bod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl i ieuenctid wrth iddyn nhw symud o ofal gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Wedi iddi gyrraedd 18 oed, a hithau yn byw ym Mhen-y-bont ar y pryd, mae Megan yn dweud ei bod wedi sylwi ei bod yn cael llawer llai o gefnogaeth.
"Mae yna apwyntiadau, ond ma' nhw yn fyr iawn... deg munud efallai. Ond mae llwyth o stigma rownd y cyflwr ac felly mae'n anodd cael mynediad i'r gefnogaeth sydd ei angen.
"Byddai y gefnogaeth gywir yn gneud llwyth o wahaniaeth. Rwy' angen rhywun i ddeall yn iawn sut fi'n teimlo, ond oherwydd y stigma a'r system mae yna rwystrau mawr sy'n stopio hynna i ddigwydd."
![Ymgynghoriad iechyd meddwl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/99B7/production/_124715393_1dda4127-a035-4983-aac1-5902814084c9.jpg)
Dywed y rhai sy'n byw â salwch meddwl bod apwyntiadau yn gallu bod 'fyr iawn' wedi iddyn nhw adael gofal gwasanaethau ieuenctid
Yn ôl Mind Cymru mae "bwlch mawr" wrth symud o ofal gwasanaethau ieuenctid i system ofal oedolion.
Mae'r elusen yn galw am fwy o gefnogaeth i fyrddau iechyd.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod gwaith yn digwydd i ddeall anghenion pobl ifanc a sut y gall gwasanaethau wella'r gefnogaeth sydd ar gael.
'Cael eu hanwybyddu'
Dywedodd Nia Evans, Rheolwr Plant a Phobol Ifanc Mind Cymru: "Mae pobol ifanc wedi dweud wrthym ni fod eu hanghenion, a'u teimladau ynglŷn â symud i wasanaethau oedolion yn aml iawn yn cael eu hanwybyddu, neu does neb yn gwrando arnyn nhw."
![Nia Evans, Mind Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2487/production/_124715390_863d6644-4529-4092-a053-2e8b0c295082.jpg)
Nia Evans: 'Gadael pobol ifanc heb y gefnogaeth sydd wir angen arnyn nhw'
Mae hi'n dweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn aml ddim yn cael eu dilyn.
"Mae hynna yn gadael pobol ifanc heb y gefnogaeth sydd wir ei angen arnyn nhw.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi byrddau iechyd lleol i 'neud yn siŵr fod hyn ddim yn digwydd a sicrhau fod llais ein pobol ifanc yn cael ei glywed a'u bod yn cael y gofal cywir."
Anodd ymdopi
Dywedodd Megan ei bod yn gwybod bod 18 oed yn nodi cychwyn bywyd fel oedolyn ond mae'n teimlo bod y newid mewn gofal yn rhy sydyn ac yn rhy ddramatig.
"Yn swyddogol ry'n ni yn oedolion, dwi'n gwybod hynny, ond mewn gwirionedd dydyn ni ddim. Ry'n ni yn y canol. Ni yn yr oedran lle i ni jyst wedi dod allan o'r ysgol.
"Mae bwlch wrth gefnogi pobol wrth symud o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Does dim byd yn y canol i helpu."
Mae'n teimlo bod y gwahaniaeth a'r newid mewn gofal mae gwasanaethau iechyd meddwl yn ei roi i blentyn ac oedolyn yn ei gwneud hi yn anodd i ymdopi.
"Y broblem yw pan ni o dan gwasanaethau plant ni yn cael ein trin fel plentyn ac yn cael eitha' lot o sylw, ond mae y gwasanaeth oedolion yn hollol wahanol. Yn fan'na rwy'n teimlo bod yna eitha' lot o'r meddylfryd 'ti ar ben dy hun nawr achos ti yn oedolyn'.
"Mae angen r'wbeth yn y canol i helpu ni wrth i ni fynd trwy y broses o symud o un gwasanaeth i'r llall."
'Blaenoriaethu buddsoddiant'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ar hyn o bryd yn ymwneud â gwaith sy'n delio'n uniongyrchol â phobl ifanc er mwyn adnabod eu hanghenion a gweld sut y gellid gwella'r gefnogaeth sydd ar gael wrth symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
"Rydym yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiant mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda £50m yn ychwanegol wedi ei ymrwymo gennym yn 2022/23."
Mae Megan Abbott yn paratoi i ddilyn gyrfa ym maes gofal iechyd ac yn bwriadu dechrau ar gwrs er mwyn astudio i fod yn nyrs.
Mae hi'n teimlo y bydd ei phrofiad personol yn ei helpu yn ei gyrfa ac hefyd yn fodd i sicrhau bod yna well dealltwriaeth o'i chyflwr.
"S'dim llawer o help wedi bod i fi ar ôl cyrraedd 18. a bod yn onest. Does neb yn rhoi heads up i chi bo chi ar ben eich hun.
"Es i o appointments un awr gyda seiciatrydd pan yn blentyn, i apwyntiadau deg munud pan o'n i yn oedolyn.
"Ry'n ni angen gwasanaethau sydd yn gwrando arno ni ac yn cwrdd â'n anghenion ni yn hytrach na disgwyl i ni gwrdd â'u disgwyliadau nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022