Dathliad dwbl i gwpl o'r Gorllewin sy'n cael priodi o'r diwedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o orllewin Cymru yn edrych ymlaen at ddathliad dwbl y penwythnos hwn wrth iddyn nhw briodi a dathlu diwedd cyfyngiadau'r pandemig.
Bydd Chris Miller, 39, a Ffion Martin, 23, y ddau o Gaerfyrddin yn priodi yn Llansteffan.
Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i ddathlu llacio rheolau Covid, wedi i'r ddau orfod cysgodi yn ystod y pandemig gan eu bod yn byw gyda syndrom Down.
Wrth i ffrindiau a theulu orffen y gwaith addurno, mae'r aros bron ar ben i Chris a Ffion.
'Rwyt ti'n gwneud i fy nghalon i hedfan'
"Mi wnes i fynd lawr ar un pen-glin" meddai Chris sy'n cofio'n ôl at y diwrnod y gwnaeth ofyn i'w ddarpar wraig ei briodi, "a dywedais i Ffion, rwyt ti'n gwneud i fy nghalon i hedfan."
"Fe ddywedodd hi ie i'm priodi. Cefais fy synnu."
"Roedd yn ddiwrnod eitha' prydferth ac roedd 'na enfys hefyd", meddai Ffion.
Fe wnaeth Ffion a Chris gwrdd yn un o ddosbarthiadau cwmni theatr Hijinx - sy'n gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu.
Ar ôl dwy flynedd, fe ofynnodd Chris i Ffion ei briodi yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid.
Ond yn ystod yr ail gyfnod clo roedd yn rhaid iddyn nhw gysgodi gan fod ganddyn nhw syndrom Down.
Roedden nhw ar wahân, a'r ffôn oedd eu hunig ffordd o gyfathrebu nes i'r rheolau gael eu lleddfu.
Mae'r briodas yma felly yn achos i ddathlu dau beth - y briodas eu hun, a'r ffaith eu bod yn gallu cwrdd unwaith eto, ac mae Ffion yn edrych ymlaen.
"Rydyn ni'n mynd i gael parti mawr iawn ac rydw i'n cael carped coch yma. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr."
"Rydyn ni wedi cael cyfnod anodd, ond fe wnaethon ni ddod drwyddo."
'Eisiau iddo fod yn arbennig'
I'r forwyn briodas Victoria Walters mae'n bwysig eu bod yn dathlu perthynas y cwpl.
"Rwy'n teimlo'n anrhydedd i fod yn forwyn briodas iddyn nhw. Rwy'n meddwl yn bendant y bydd hwn yn ddathliad mawr iddyn nhw a hefyd i bobl â syndrom Down. Mae angen i ni gael y foment hon yn bendant."
"Rwy'n meddwl y bydd Ffion yn edrych yn hardd yn ei ffrog."
Mae Elizabeth Miller, mam y priodfab, a Janice Martin, mam y briodferch yn gweithio'n galed gyda chymorth ffrindiau a theulu i baratoi Neuadd Goffa Llansteffan ar gyfer y parti priodas.
Yn gosod y byrddau, gosod balŵns a ffafrau priodas ar bob sedd ar gyfer y diwrnod mawr.
"Roedden nhw'n adnabod ei gilydd am ychydig o flynyddoedd cyn mynd mas," meddai Elizabeth.
"Fe ddaethon nhw allan o'r grŵp theatr un diwrnod a dweud 'Rydyn ni wedi penderfynu bod yn gariadon'."
"Daeth Chris ata i a dweud bod gen i rywbeth i'w ddweud wrthych chi," meddai Janice. "Dywedodd e 'Mae Ffion mewn cariad gyda fi' a doedd hi erioed wedi dweud dim byd am Chris. Felly gofynnais i Ffion 'yw hynny'n wir' a dywedodd hi ydy."
"Rydyn ni wedi cael llawer o amser i baratoi. Mewn gwirionedd rydyn ni eisiau iddyn nhw gael priodas hyfryd.
"Ond y cyfan maen nhw eisiau gwneud yw priodi a chael parti. Does dim ots ganddyn nhw beth sydd ar y bwrdd. Ond roedden ni eisiau iddo fod yn arbennig, felly rydyn ni wedi gweithio'n galed."
"Rydyn ni'n darparu'r bwyd a phopeth ein hunain, felly rydyn ni wedi bod allan yn prynu setiau te a ffafrau priodas - does gan siopau elusen ddim setiau te ar ôl!" meddai Elizabeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022