Qatar yn 'rhy beryglus' i gefnogwyr hoyw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Gwarth llwyr' bod Cwpan y Byd ddim yn ddiogel

Mae cynhyrchydd teledu a chefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi penderfynu fod Qatar yn wlad rhy beryglus iddo ef a'i ŵr deithio yno ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae'r pwyllgor sy'n gyfrifol am drefnu'r gystadleuaeth yn mynnu fod y wlad - lle mae'n anghyfreithlon i fod yn hoyw - yn un agored ac yn barod i groesawu pawb.

Ond mae Seiriol Dawes-Hughes yn credu mai aros adref yw'r unig opsiwn sydd ganddo ef a'i ŵr, Jamie.

Daw hyn wedi iddi ddod i'r amlwg na fydd rhai o staff tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Qatar ym mis Tachwedd oherwydd agwedd y wlad at hawliau pobl hoyw.

'Syndod a gwarth'

"Cyn mod i a fy ngŵr yn mynd ar wyliau, y peth cynta' 'da ni'n wneud ydy Google-o hawliau pobl hoyw yn y wlad honno," meddai Seiriol Dawes-Hughes wrth Newyddion S4C.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Seiriol a Jamie Dawes-Hughes yn mentro i Qatar ym mis Tachwedd

"Dydy hyn ddim yn rhywbeth ma' pobl sdrêt yn gorfod 'neud ond mae o'n rhywbeth 'da ni'n wneud bob tro ac mae'n syndod faint o wledydd mae pobl yn teithio iddyn nhw yn rheolaidd sydd ddim yn ddiogel i bobl fel ni, ac mae Qatar yn sicr yn un o'r llefydd rheiny."

Ychwanegodd yr uwch gynhyrchydd teledu: "Mae sawl un wedi gofyn imi 'o, ti'n mynd i Gwpan y Byd, ti'n mynd i Qatar?' a dwi'n ateb, 'na, dwi ddim yn mynd mae'n anghyfreithlon i fi fynd'. A mae pobl yn ateb drwy dd'eud , 'o ia' a chofio am hawliau pobl hoyw yn Qatar.

"Mae'n syndod i fi faint o bobl sy' 'di anghofio pa mor wael ydy'r safonau yno, nid yn unig i bobl hoyw ond i'r gweithwyr tramor yno, mae'n warth bod Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn Qatar - gwarth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Ddraig Goch yn cyhwfan yn Doha yn seremoni codi baner y gwledydd fydd yn Qatar 2022

Bydd Cymru yn chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, yn dilyn y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Wcráin ar 5 Mehefin.

Mae penderfyniad FIFA i gynnal y gystadleuaeth yn Qatar wedi ennyn cryn feirniadaeth yn sgil record y wlad ar hawliau dynol.

Yn gynharach yn y mis fe gadarnhaodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fyddai rhai o staff y gymdeithas yn teithio i Qatar oherwydd daliadau'r wlad am bobl hoyw.

Dywedodd Noel Mooney mai bwriad y tîm yw defnyddio'r bencampwriaeth fel llwyfan i drafod hawliau dynol yn Qatar.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie (Manchester City) a Seiriol Dawes-Hughes (Chelsea) yn gefnogwyr pêl-droed brwd

Gan dderbyn ei bod yn llawer rhy hwyr i newid pethau mor agos i gic cyntaf Cwpan y Byd, mae Seiriol Dawes-Hughes yn credu fod unrhyw brotest yn digwydd 10 mlynedd yn rhy hwyr.

"Dyma'r enghraifft fwyaf erioed o sportswashing," meddai.

"Os mai Cwpan y Byd i fenywod fyddai hwn mi fyddai canran uchel o garfan Cymru ddim yn cael chwarae yno ac mae'r syniad nad ydy chwaraewyr benywaidd Cymru ddim yn medru teithio i Qatar i gefnogi cyd-chwaraewyr gwrywaidd mewn Cwpan y Byd am y tro cynta' ers 1958 yn gwbl annerbyniol.

"Yn anffodus dwi ddim yn gwybod be' all unrhyw un wneud ar y pwynt yma heblaw am wneud rhyw fath o safiad pan mae'r gemau yn cael eu chwarae."