Geraint Thomas yn ennill y Tour de Suisse
- Cyhoeddwyd

Geraint Thomas yn ennill tlws y Tour de Suisse ddydd Sul
Mae Geraint Thomas wedi sicrhau buddugoliaeth yn y Tour de Suisse yn dilyn cymal olaf llawn cyffro.
Mr Thomas yw'r seiclwr cyntaf o Brydain i ennill y daith ac mae amseriad ei fuddugoliaeth gyntaf mewn 12 mis yn berffaith gan ddod bythefnos cyn y Tour de France.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth drwy ddod yn ail yn y cymal olaf yn Vaduz ddydd Sul.
Roedd e ar y blaen i Sergio Higuita o Colombia un munud a 12 eiliad.
Cyn eleni bod yn yr ail safle oedd ei berfformiad gorau yn y Tour de Suisse a hynny yn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2015