Fideo Facebook yn dod a dwy fam ynghyd

  • Cyhoeddwyd

Ym mis Mai eleni, rhannodd BBC Radio Cymru fideo ar Facebook am stori Enlli a Gwenno oedd wedi'i darlledu ar raglen Bore Sul yr orsaf.

Ffynhonnell y llun, Cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Enlli a Gwenno, a Sian a Gwenno

Mae Gwenno, merch Enlli, yn fyddar ac yn awtistig. Pan welodd Sian y fideo, cafodd ei synnu fod teulu â stori mor debyg i'w un hi yn byw dafliad carreg oddi wrthi a hithau ddim yn eu hadnabod. Gadawodd Sian sylw ar y fideo yn gofyn i Enlli gysylltu efo hi.

Pan welodd cynhyrchwyr y rhaglen y sylw fe gysyllton nhw ag Enlli a Sian er mwyn i'r ddwy gael sgwrs. Dyma sut aeth hi:

"Haia Enlli! Dw i 'di ffendio chdi o'r diwedd!" oedd cyfarchiad Sian. "Fedra i'm coelio bod ganddyn nhw'r un enw. Mae'n hurt dydi?"

Ond nid dim ond yr un enw sydd gan y ddwy Gwenno yn gyffredin. Cafodd y ddwy eu geni'n fyddar, mae'r ddwy yn defnyddio dyfais Cochlear implant ac yn rhannu'r un arbenigwyr.

Meddai Sian: "Dw i'n cofio pan ddaeth Jaquiline Adams, teacher of the deaf, i weld Gwenno tro cyntaf pan oedd hi tua tair wythnos oed, 'aru hi ddweud 'Mae gyno ni Gwenno Jones arall.'

"Ac o'n i fatha 'O waw', a dd'wedodd hi, 'alla' i ddim dweud llawer ond mae hi'n byw ym Mlaenau Ffestiniog.'

"A nes i ddim meddwl llawer am y peth wedyn. Wedyn, pan gafodd Gwenno referral i Fanceinion, oedden nhw'n siarad am dy Gwenno di hefyd. Wnaethon nhw ddweud, 'We'll have to call your girl baby Gwenno.'

"Waw, mae'n hollol nyts. A dydan ni'm yn byw yn bell oddi wrth ein gilydd 'chwaith."

Fideo gwreiddiol BBC Radio Cymru

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan BBC Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan BBC Radio Cymru

Holodd Enlli: "Ydy Gwenno chdi yn fyddar yn y ddwy glust, fel Gwenno fi?"

Eglura Sian: "Pan gafodd hi ei geni 'naeth hi fethu'r newborn screening test. Fel efo chdi, 'naethon nhw ddweud 'Paid â phoeni, mae babis yn congested.' Dod yn ôl dau ddiwrnod wedyn ac oedd hi dal 'run fath.

"So, aethon ni i audiology a 'naethon nhw ddweud pan oedd hi'n dair wythnos oed ei bod hi'n profoundly deaf yn y glust dde, ac yn yr ochr arall ei bod hi'n moderate/severe. O hynny ymlaen, oedden nhw'n canolbwyntio ar roi hearing aids iddi. Oedd hi'n chwe wythnos oed yn cael hearing aids. Oedd hi'n 'neud yn rili da. Oedden ni'n gwneud sign language pan oedd hi'n chwe mis oed.

"Oedd Gwenno'n berffaith, yn fabi perffaith - mor hawdd. O'n i'n gwybod pryd oedd hi isio bwyd, o'n i'n gwybod pryd oedd hi 'di blino, be' oedd hi isio'n ddiod. Ti'n gwybod? Pa fabi chwe mis oed sy'n gallu dweud hynna heblaw drwy sign language?

"[Pan oedd Gwenno] o gwmpas wyth mis oed aeth y glust yn rili drwg efo glue ear, a wedyn gafon ni referral i Fanceinion."

Disgrifiad,

Gwenno gyda'i brawd bach, Guto.

Mae'r ddwy Gwenno yn defnyddio dyfais Cochlear i helpu gyda'u clyw, ac i helpu gyda siarad.

Meddai Sian: "Dw i'n cofio 6th of June 2016 gafodd Gwenno ei Cochlear implant hi, ac yn y mis Medi gafodd hi o 'di troi ar. O'n i'n disgwyl mwy o reaction ganddi. Achos ei bod hi'n clywed [ychydig] efo'r glust arall doedd y reaction ddim yn 'waw!'"

Cytuna Enlli: "Na, chawson ni'm llawer o reaction 'chwaith. O'n i wedi gweld fideos o blant bach eraill yn cael nhw wedi eu troi 'mlaen ac yn cael reaction fel hyn. O'n i'n disgwyl am hwnna gan Gwenno ni, ond doedd 'na ddim llawer de.

"Sut mae siarad Gwenno?"

Mae Sian yn ateb: "Yr unig adeg 'naeth Gwenno drio siarad oedd pan gafodd Guto, ei brawd bach hi, ei eni. Oedd hi'n bedair oed yn y mis Mai, ac yna yn y mis Medi, allan o nunlla, 'naeth hi jest dechrau dweud 'helo' wrtho fo. A hwnna oedd y tro cynta' i mi glywed Gwenno yn dweud 'helo'.

"Ac o hynny, 'naeth hi'm stopio. Mi gafodd hi speech therapy bob wythnos am ddwy flynedd. Mynd yr holl ffordd i Fanceinion. Oedd o'n rili effeithio gwaith fi. Yn diwedd oedd rhaid i fi roi gwaith i fyny a canolbwyntio ar Gwenno. Yn bedair a hanner 'naeth hi ddechrau siarad efo Guto. Oedden ni'n ei dallt hi, ond doedd pobl eraill ddim."

Ffynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Ffrind mawr i'w brawd bach

"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf ers iddi symu i Ysgol Llanllechid, mae ei iaith hi'n ffantastig. Alla i ddim canmol Ysgol Llanllechid ddigon."

Mae Enlli yn credu bod awtistiaeth Gwenno yn cyfrannu at y ffaith nad yw ei Gwenno hi yn siarad eto.

"Dw i'n meddwl am ei bod hi'n autistic hefyd mae o fatha bod y ddau anabledd yn overpowerio."

Ond mae Sian yn dweud wrthi i beidio digalonni: "Wnaethon nhw ddweud wrtha' i fysa Gwenno byth yn siarad, ac allan o nunlla mae hi wedi dechrau siarad, paid â cholli gobaith."

Meddai Enlli: "Na, dydan ni ddim. Dw i wedi gweld storis. Dw i'n dilyn lot o bobl online efo plant sy'n autistic hefyd ac oeddan nhw'n dweud bod plant nhw ddim wedi dechrau siarad tan oeddan nhw 18, rhai ohonyn nhw.

"Dw i'm yn poeni dim am ei bod hi'n medru cyfathrebu trwy ei seinio a'i ffolder hi. Mi fasa'n neis cael sgwrs efo hi, ond dw i'm yn poeni llawer. 'Mond gobeithio."

Pynciau cysylltiedig