Miloedd o weithwyr rheilffyrdd yn mynd ar streic

  • Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr yn picedu ger gorsaf Caerdydd Canolog fore Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr yn picedu ger gorsaf Caerdydd Canolog fore Mawrth

Dim ond llond llaw o drenau sy'n teithio yng Nghymru ddydd Mawrth wrth i filoedd o weithwyr rheilffyrdd fynd ar streic.

Mae aelodau undeb yr RMT yn protestio ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith.

Mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn cynghori pobl i beidio â theithio oherwydd y bydd 'na gyn lleied o drenau yn rhedeg.

Mae "popeth yn yr awyr" i un grŵp o dde Cymru, ar ôl i'r streic chwalu cynlluniau parti plu, ond mae rhai wedi dweud eu bod yn deall yr angen am weithredu.

'Siomedig' bod dim cytundeb

Yr unig wasanaethau fydd ar waith fydd un trên bob awr rhwng Caerdydd a Llundain, ambell drên i Fryste a Chaerfaddon, a threnau ar linellau'r cymoedd o Ferthyr, Aberdâr a Threherbert.

Fe fydd teithwyr yn cael eu cludo ar drenau i Radur, ac yna ar fysys i ganol Caerdydd, oherwydd bod gwaith uwchraddio'n digwydd ar y cledrau yno.

Does dim gwasanaethau o gwbl i'r gorllewin o Gaerdydd nac yn y gogledd na'r canolbarth.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Network Rail yn blaenoriaethu gofalu am eu cwsmeriaid yn ystod y streic, medd Gemma Thomas

Dywedodd Gemma Thomas o Network Rail: "Mae Network Rail a'r RMT yn dal i siarad - ry'n ni'n siomedig ni heb ddod i gytundeb.

"Ein blaenoriaeth nawr yw i ni edrych ar ôl ein cwsmeriaid, ein teithwyr i leihau'r effaith cyn gymaint â phosib."

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gwneud eu gorau i atal y streiciau, ond mai mater i'r undeb a'r cwmnïau trên oedd y trafodaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig "i wneud popeth posib" i ddod â'r anghydfod i ben.

Ychwanegodd llefarydd bydd effaith y streicio ar wasanaethau trenau yng Nghymru yn eang, er nad yw staff Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu diwydiannol.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd yng ngorsaf Bangor yn rhoi gwybodaeth am ddyddiau'r gweithredu diwydiannol

Mae'r ffaith mai staff Network Rail, sy'n gyfrifol am y signalau ar y cledrau, yn golygu na fydd modd i fwyafrif llethol y trenau yng Nghymru deithio yn ystod y streic.

Mae 'na rybudd hefyd i bobl osgoi teithio ar y dyddiau o gwmpas y streiciau, oherwydd bod disgwyl cwtogi ar wasanaethau bryd hynny hefyd.

Yn ôl Network Rail, dim ond teithiau angenrheidiol ddylai ddigwydd.

'Dim gobaith o unrhyw newid'

Mae'r RMT wedi dweud eu bod yn barod i barhau â'u hymgyrch am fisoedd os oes angen, ac yn ôl y gohebydd trafnidiaeth, Rhodri Clark, fe allai rhagor o streiciau fod ar y gorwel y tu hwnt i'r wythnos hon.

"Dwi ddim yn gweld unrhyw obaith fod 'na rywbeth yn mynd i newid yn sydyn," meddai.

"Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi datgan bod nhw'n barod i siarad efo'r undebau eto, ac mae'r undebau yn eitha' clir yn be' maen nhw isio cael allan o'r broses.

"Ond hefyd wrth gwrs mae undebau eraill yn gofyn am fwy o bres ac amodau gwaith gwell hefyd, felly falle bydd lot fwy o streiciau o'n blaenau ni dros yr haf."

  • Ni fydd Avanti West Coast yn cynnal unrhyw wasanaethau ar draws gogledd Cymru ar ddiwrnodau'r streic;

  • Yr unig wasanaethau a fydd yn rhedeg ar 21 a 23 Mehefin fydd gwasanaeth llai rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, a bydd bysiau rhwng Radur a Chaerdydd Canolog;

  • Ar 25 Mehefin, bydd yna lai fyth o wasanaethau rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Phontypridd, gyda bysiau yn lle trenau rhwng Radur a Chaerdydd Canolog, a rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful. Mae hynny yn sgil gwaith sy'n parhau ar gyfer cynllun Metro De Cymru;

  • Bydd cwsmeriaid sydd â thocynnau, na sy'n docynnau tymor, ar gyfer teithio rhwng 21 a 25 Mehefin yn gallu eu defnyddio rhwng 20 a 27 Mehefin.

Cyflogau gweithwyr yw rhan o'r rheswm dros y gweithredu, wrth i chwyddiant gynyddu hefyd.

Ond dywedodd y gweinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies AS: "Os fydde pob un ohonon ni yn cael 7%, 8, 9, 10% neu beth bynnag, bydd chwyddiant yn cario mlaen.

"Y broblem yw os fydden ni yn cael 7% fydden ni yn mynnu gweld 7% y flwyddyn nesaf, ac mae cwmnïau yn sylweddoli bod maint y bobl sy'n mynd ar y trenau wedi mynd i lawr gan - dwi'n credu - 25% ers Covid, achos bod lot o bobl yn aros adre'.

"Maen nhw'n gofyn ar yr undebau i newid rhai o arferion safle gwaith sydd yn atal mwy o bobl i ddefnyddio'r trenau, yn enwedig dros y Sul."

Disgrifiad o’r llun,

Tawel iawn oedd hi yng ngorsaf Bangor fore Mawrth

Ond does dim dewis ond gweithredu ar ôl i weithwyr, meddai AS Llafur dros Gwm Cynon, Beth Winter.

"Dewis olaf, mae'r gweithwyr ar y rheilffyrdd wedi cael eu gorfodi i streicio i amddiffyn eu haelodau, i atal ras i'r gwaelod.

"Doedd dim dewis 'da nhw. Maen nhw wedi cynnig cwrdd gyda'r llywodraeth yn San Steffan, a'r bobl sy'n rheoli'r rheilffyrdd... does dim dewis 'da nhw a rhaid iddyn nhw wneud popeth i amddiffyn a peidio gweld toriadau i swyddi, amodau, cyflog a phensiynau."

Galwodd ar Lywodraeth y DU i drafod gyda'r undebau i ddatrys yr anghydfod: "Mae gan y llywodraeth y pŵer i wneud y penderfyniad i gwrdd gyda'r gweithwyr a'r undebau, a dyna beth ddylen nhw wneud."

'Disgwyl amharu difrifol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i ddatrys yr anghydfodau gyda'r undebau rheilffyrdd.

"Tra nad yw staff Trafnidiaeth Cymru'n streicio, mae'r effaith ar wasanaethau rheilffordd yng Nghymru wedi bod, ac fe fydd, yn eang.

"Dylai teithwyr ddisgwyl amharu difrifol a gwirio'r cyngor gan gwmnïau trên cyn teithio."

Mae yna gyngor hefyd i yrwyr "gynllunio o flaen llaw a chaniatáu rhagor o amser ar gyfer siwrnai, oherwydd fe allai'r ffyrdd fod yn fwy prysur o ganlyniad i'r streic rheilffyrdd".

Pynciau cysylltiedig