'Popeth yn yr awyr' yn sgil streic rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Alice a Bethan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r streic wedi achosi cryn drafferth i barti plu Alice Lally (chwith) sydd wedi'i drefnu gan Bethan Lewis (dde)

Roedd y penwythnos hwn i fod yn un o ddathliad i Bethan Lewis o Ddinas Powys wedi iddi fod yn cynllunio parti plu ei ffrind am fisoedd, ond mae'r streic trenau wedi achosi poendod iddi.

"Mae popeth wedi bod yn y dyddiadur am fisoedd - mae 11 ohonon ni yn mynd i Fanceinion i ddathlu cyn i Alice briodi," meddai.

Dim ond llond llaw o drenau sy'n rhedeg ddydd Mawrth, wrth i aelodau undeb yr RMT gynnal streic yn sgil anghydfod gyda Network Rail.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Mae popeth nawr yn yr awyr... Ro'n ni wedi trefnu teithio ar y trên i fod yn fwy gwyrdd. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r opsiwn gorau am y penwythnos."

"Nawr da ni'n edrych ar wahanol opsiynau i drio cael pobl i fyny ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

"Mae pawb yn mynd i yrru achos bod y trenau ddim yn mynd - felly faint o amser mae'n mynd i gymryd? A faint o arian mae'n mynd i gostio gyda disel ac yn y blaen?

"Mae lot ar fy meddwl ar hyn o bryd.

"Bydd popeth yn iawn yn y pen draw a bydd pawb yn mynd fyny. Bydd pobl hefo pen tost ddydd Sul!"

Disgrifiad o’r llun,

Tawel iawn oedd hi yng ngorsaf Caerdydd Canolog fore Mawrth

"Dwi ddim yn credu mai nawr yw'r amser iawn i streicio", medd Louise Thomas, sy'n gynghorydd cymuned Torïaidd yn ardal Abertawe.

"Ry'n ni newydd fod drwy bandemig ac mae pobl yn gweld hi'n anodd ymdopi.

"Nid dim ond yr undebau sy'n dioddef yn sgil yr argyfwng - mae'n effeithio ar bawb yn Abertawe sydd angen mynd i'r gwaith."

Mae hi'n un o gannoedd y mae'r streic reilffyrdd yng Nghymru wedi effeithio arnyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Gayle Ashill yrru i Gaerdydd fore Mawrth

Fore Mawrth dywedodd Gayle Ashill, 46, sy'n was sifil, ei bod hi'n ofynnol iddi gyrraedd Caerdydd ac "felly fe fyddai'n gyrru sy'n boen".

Mae Colin Dayan, 61, yn gweithio mewn ysbyty ac yn teithio o Gaerdydd i Fryste bob dydd.

"Bydd y cyfan yn cael effaith arnaf am y pedwar diwrnod nesa' - felly dwi'n meddwl 'nai yrru am ddau ddiwrnod a gweithio o adref am ddau ddiwrnod - os yw hynny'n bosib," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Teresa Davies bod y streic yn achosi pryder iddi

Mae Teresa Davies o Ewlo yn Sir y Fflint yn byw â dementia a dywed bod y cyfan wedi achosi cryn bryder iddi gan ei bod angen dychwelyd adref wedi iddi fod yn gofalu am gi ei ffrind ym Mhowys.

"Dwi angen mynd adre' fory, ac mae'n daith o ddwy awr a hanner yn y car", meddai wrth siarad â Radio Wales.

"Dwi'n teithio llawer ac yn eithaf annibynnol ond pan nad yw pethau yn digwydd fel y dylen nhw mae fy nghyflwr yn gwaethygu.

"Dwi'n gallu mynd yn bryderus iawn a dyw hynny ddim yn beth da."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Zak Swetye o'r Unol Daleithiau ddim yn ymwybodol o'r streic nes iddo gyrraedd Caergybi o Iwerddon

Nid pawb sy'n ymwybodol o'r streiciau chwaith, gan gynnwys pobl o dramor sy'n teithio yn y DU, fel Zak Swetye, 23, o Connecticut yn yr Unol Daleithiau.

Fe ddaeth draw i Gaergybi ar y fferi o Ddulyn ddydd Mawrth, ac mae angen cyrraedd Llundain er mwyn parhau gyda'i daith.

"Rŵan dwi'n sownd yma ac mae'n rhaid i fi ffeindio ffordd i gyrraedd Llundain mewn tua wyth awr.

"Dwi'n teithiwr rhyngwladol, felly doedd gen i ddim syniad bod y streic 'ma yn digwydd, na'r rhesymau tu ôl i'r peth.

"Does gen i ddim teulu a ffrindiau yma, felly dydw i ddim yn gwybod be' i'w wneud."

'Gorfod newid cynlluniau'

Ar gyfartaledd mae llawer llai o deithwyr yn ddibynnol ar drenau yng Nghymru na gweddill y DU.

Roedd ffigyrau 2020 yn amcangyfrif mai 3% sy'n defnyddio trenau yng Nghymru - mae'r cyfartaledd ar draws Prydain yn 10% ac yn Llundain yn 45%.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alys Bailey-Wood ei bod yn deall "weithiau ma' angen gwneud rhywbeth fel hyn"

Mae'r streic wedi achosi i Alys Bailey-Wood, myfyriwr cerddoriaeth ym Mangor, newid ei threfniadau.

"O'n i fod ynd gytre fory yn lle heddi a ma' fe just 'di achosi fi i newid plans, ma' hwnne bach yn annoying.

"Dwi'n byw yng Nghaerdydd, felly mae e wedi bod, ddim yn huge hassle, ond digon i fod yn annoying, a gorfod newid plans a beth bynnag."

Er hynny, dywedodd ei bod yn deall "weithiau ma' angen gwneud rhywbeth fel hyn, rhywbeth eithaf drastig, i allu newid stwff, felly dwi'n deall e, ond ma'n anodd dweud os dwi'n cytuno ai beidio".

Disgrifiad o’r llun,

Iola Griffiths

I Iola Griffiths, sy'n 17, mae'r streic yn "ddrwg" ond, "ma' ddim fel ma'n permanent dydy, ma' fel one time thing".

Ond nid pawb sy'n gweld safbwynt y gweithwyr sy'n gweithredu.

"Wel, dwi yn erbyn o 'de. Ma' nhw'n 'neud digon o bres fel mae nhw... cyflog fel ma' gynnon nhw 'de, i be' ddiawl ma' nhw isio mwy?" meddai un gŵr ym Mangor ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teithiwr yma'n anghydweld â'r streicwyr

Fe wnaeth trafodaethau munud olaf i geisio datrys yr anghydfod fethu ddydd Llun, meddai'r RMT.

Mae disgwyl i'r ffyrdd fod yn brysurach yn sgil y streic. Dywed yr AA y gellir disgwyl mwy o draffig ar yr M4, A55, A5 a'r A483 yng Nghymru.

Yn Llundain mae aelodau RMT sy'n gweithio i London Underground hefyd ar streic a hynny yn sgil anghydfod arall cysylltiedig â phensiynau a cholli swyddi.

Yn Lloegr roedd yna ddarogan y gallai'r streic gael effaith ar ŵyl Glastonbury a rhai disgyblion sy'n sefyll arholiadau.

Pynciau cysylltiedig