Dynes yn y llys wedi ar gyhuddiad o lofruddiaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
Steven John DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae dynes 34 oed wedi ymddangos mewn llys wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth dyn yng Nglyncoch ger Pontypridd.

Cafwyd hyd i gorff Steven John Davies, 39, mewn tŷ ar Rodfa'r Garth ar 15 Mehefin.

Fe wnaeth Carrie McGuinness o Ynys Close, Rhydfelen, ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad, yn enwedig gan bobl a welodd Mr Davies rhwng dydd Iau 2 Mehefin, a dydd Sadwrn 11 Mehefin.

Roedd yn cael ei adnabod gan lawer fel 'Hagi', ac yn adnabyddus yn ardaloedd Glyncoch, Rhydfelen a Llwynypia.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steven John Davies ei ddarganfod mewn tŷ yn Rhodfa'r Garth yng Nglyncoch ger Pontypridd

Mewn teyrnged, dywedodd mam a chwaer Mr Davies eu bod wedi eu llorio gan y farwolaeth.

"Mae ein bywydau wedi eu rhwygo ac ni fyddan nhw fyth yr un peth."

Ychwanegodd y datganiad: "Roedd gan Steven galon fawr a byddai'n helpu eraill cyn meddwl am ei hun, ac roedd ganddo amser i bawb.

"Byddi di yn ein calonnau am byth a wnawn ni fyth dy anghofio."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig