Pum munud gydag Aled Lewis Evans
- Cyhoeddwyd
Yn llenor a gweinidog o Wrecsam, Aled Lewis Evans, ydi Bardd y Mis Radio Cymru.
Fe fuoch chi'n byw mewn sawl ardal o Gymru pan oeddech chi'n blentyn oherwydd gwaith eich tad. Oedd hynny'n anodd?
Mae gen i ddwy chwaer hŷn, Rhian a Gwenan, ac roedd bywyd teuluol yn aros yr un fath, ond yr arhosiad yn rhai o'r mannau yn fyrhoedlog. Ychydig iawn o amser ges i ym Mro Dyfi, ond digon i ddechrau'r ysgol, yna i Ysgol Morfa Rhianedd Llandudno, a chyfnod wedyn lle roedd fy rhieni wedi byw cyn fy ngeni i - y Bermo.
Roedd y teimlad yno yn un hapus iawn o ddychwelyd, fel tasa pawb yn nabod ei gilydd yn barod. Pan symudodd Dad yn Bostfeistr i Wrecsam yn y dechrau roedd y symudiad hwn yn anos. Pwy mewn difri fel plentyn fyddai isio gadael lan y môr, a glannau Mawddach am le diarth arall?
Roedd gwreiddiau fy nhad o Ardudwy. Ond dyma ddechrau 'nabod plant yn Ysgol Bodhyfryd, ac yna cefais yr ysgol uwchradd ddelfrydol i mi efo fy niddordebau llenyddol a chelfyddydol, Ysgol Morgan Llwyd. Rŵan, dwi'n falch fy mod wedi cael profiad o fyw mewn sawl man, ac wedi dychwelyd iddynt i gynnal oedfaon. Mae darnau ohonof ar wasgar hyd sawl bro!
Fel mab i bostfeistr, petaech chi'n gallu rhoi llun unrhyw un ar stamp, pwy fyddai o neu hi a pham?
Beirdd hoffwn eu gweld ar stampiau, gan fod beirdd yn teimlo ac yn meddwl am eraill, a chrisialu gwefr a gwewyr eu cyfnod, a'r pethau oesol am ein marwoldeb. Mae cymaint o feirdd rwy'n hoff ohonynt, ond beth am y ddiweddar Maya Angelou y cefais y fraint o'i chlywed flynyddoedd lawer yn ôl ym Manceinion? Rhywun a wnaeth wahaniaeth efo'i geiriau, ac a gafodd fyw i weld llawer gwelliant a thro ar fyd ar ôl ei hymgyrchu â gwên a hiwmor a steil.
Wrecsam ydi eich cartref ers blynyddoedd bellach. Mae'r ardal wedi cael cryn sylw yn ddiweddar ond petaech chi'n cael diwrnod i gyflwyno'r lle i rywun, beth fyddai ar yr agenda?
Hoffwn ddechrau ym Mangor-is-y-coed - lle gwelwn yn yr enwau lleol hyd heddiw ddylanwad mynachlog Geltaidd. Merthyrwyd y mynachod yn yr hyn a alwyd yn Frwydr Caer gan Bede yr hanesydd.
Esgobion Celtaidd yn gwrthod cydymffurfio yn dilyn dyfodiad Awstin Sant i Gaergaint yn 597OC. Daeth Awstin yno i drafod efo'r Esgobion Celtaidd o dan Dderwen y Mynach ym Maes y Groes. Mae stori'r ardal o'r cyfnod hwnnw hyd heddiw yn cael ei arddangos yn Eglwys Sant Dunawd yn y pentref.
Buasai'n braf eu cyflwyno i ganolfan prysur Capel y Groes ac Ebeneser lle rwy'n Weinidog. Yna rhoi cyfle iddynt ryfeddu wedyn at Eglwys y Plwyf sy'n dominyddu pob golygfa o Wrecsam. Cael sylwi ar enw Mr Morgan Lloyd a fu'n ficer yno - sef y Morgan Llwyd nodedig a ysgrifennodd ei Lythyr i'r Cymry Cariadus a Llyfr y Tri Aderyn ar adeg gyffrous iawn yn hanes y ddinas newydd. Hoffwn, fynd heibio'r Gofeb sydd iddo yn Rhosddu.
Yna, wedi bod yn y dwyrain ac yn y canol, fe awn a hwy i Rosllannerchrugog i weld pentref sydd efo traddodiad hir o ddiwylliant a chanu corawl. Bydd y nodweddion rheiny yn cronni yno'r Gorffennaf hwn, wrth ddathlu 200 mlwyddiant Eisteddfod Powys a ddechreuodd yn 1820 dan nawdd Watcyn Williams Wyn, ac a lwyfannwyd yn Neuadd y Dref Wrecsam ar y Stryd Fawr am y tro cyntaf yn 1820.
Mae'r Ŵyl ddwy flynedd yn hwyr oherwydd Covid. Mae'r traddodiad corawl yn dal yn fyw yn y pentre' a'r côr diweddaraf, Johns' Boys, yn torri eu cwys eu hunain. Hoffwn daro i mewn i'r Stiwt lle y clywir tafodiaith unigryw'r fro ar waith ynghanol bywyd bob dydd, a'r Gymraeg yn llythrennol ar Glawdd Offa.
Fe wnaethoch ysgrifennu Llwybrau Llonyddwch ar ôl ymweld â mannau o heddwch ar draws Cymru, ac rydych wedi pregethu mewn capeli ar hyd a lled y wlad dros y blynyddoedd. Ble ydi'r lle mwyaf heddychlon ac ysbrydol yng Nghymru yn eich barn chi?
Er bod sawl man ysbrydol yn dod i'r meddwl - yr un mwyaf ysbrydol i mi ydy Pennant Melangell. Ychydig filltiroedd i fyny'r Cwm o Langynog. Mae'r heddwch fel llen denau yma, ac er efallai na welwch neb ar eich ymweliad, mae presenoldeb y canrifoedd yn drwchus o'ch cwmpas, a phresenoldeb y Dwyfol anadliad i ffwrdd.
Yn wir, mae yn aros amdanoch unrhyw adeg yn yr Eglwys hynafol. Mae Tangnefedd yn ddirnadwy; ac wedi treulio amser tawel o fyfyrdod yma, rydych yn barod i wynebu pethau yn ôl i lawr y dyffryn. Rydych yn cael eich cynnal tan yr ymweliad anorfod nesaf.
Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Dwi'n credu mai fy nhaid ar ochr fy nhad, John Ifans, y dewiswn. Mae gen i gymaint o gwestiynau am hanes y teulu yn Ardudwy isio gofyn iddo, ac fe hoffwn ei glywed yn sôn am ei brofiadau mawr pan oedd o'n ifanc.
Ymhlith y rhain, bod yn rhan o Ddiwygiad 1904-05 ym mro Mari'r Golau a goleuadau Egryn. Ysgrifennais ddrama am y cyfnod a lwyfanwyd yn y Stiwt Rhos ac yn Theatr y Ddraig Y Bermo yn 2004-05.
Roedd Taid yn byw gerllaw yn Eithinfynydd, ac wedi ysgrifennu am y dyddiau hynny yn ei gyfrol Pinsied o Halen. Hefyd fe hoffwn ei holi am ei brofiadau cyffrous yn ennill y Gadair ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mhumdegau'r ugeinfed ganrif - yn Aberystwyth 1952 ar y testun Dwylo, ac yna yn 1954 awdl Yr Argae yn Ystradgynlais.
Mi ysgrifennodd englyn ar fedd ym Mynwent y Gwynfryn ger Llanbedr sy'n crynhoi naws y teulu a'r cyfnod a fu.
Er cof am Evan a Suzannah o Dyddyn Llidiart.
"Ein byw clên fel blwch ennaint - y grefydd
"a'r digrifwch gymaint;
"Ym mron bro, mawr yw ein braint
"Huno ein dau mewn henaint."
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Mae cymaint o hoff ddarnau o farddoniaeth. Ond i mi does dim llawer sydd yn rhagori ar emyn Robert ap Gwilym Ddu:
"Mae'r gwaed a redodd ar y Groes
"O oes i oes i'w gofio."
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Hoffwn ddweud llawer o lenydda, ond er gwaethaf prysurdeb 'dw i yn ceisio cadw cornel greadigol yn fy ngwaith - cerdd neu weddi newydd ar gyfer Gwasanaeth arbennig. Sgript arall i'r plant a'r bobl ifanc yn y capel. Ar hyn o bryd mae'n rhaid meddwl ymlaen drwy'r amser. Gobeithio y daw cyfle ac iechyd i wireddu rhai o'r syniadau yn y cypyrddau yn y dyfodol.