Degawd ers achub bragdy 'eiconig' Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Beer
Disgrifiad o’r llun,

Mark Roberts, Prif Weithredwr Wrexham Lager

Wrexham Lager, Gŵyl Focus Wales, Tŷ Pawb, Dinas Diwylliant 2025 a sêr Hollywood yn prynu'r clwb pêl-droed… Mae taith y bragdy dros y ddegawd diwethaf yn nodi cyfnod newydd llawn hyder yn y dref.

Deng mlynedd yn ôl i 29 Hydref atgyfodwyd un o fragdai enwocaf Cymru a "lager cyntaf Prydain". Digwyddodd hynny ar hap a damwain ar ôl i'r Prif Weithredwr, Mark Roberts a hen fragwr y busnes faglu mewn i'w gilydd a dechrau sgwrsio am bwysigrwydd Wrexham Lager i'r dref.

Mewn tafarn ddigwyddodd hynny, wrth gwrs, ac ymhen dim roedd Mark Roberts mewn trafodaethau gyda chyn-wleidydd a pherchennog hawliau'r busnes, Martyn Jones, i geisio codi'r cwmni yn ôl ar ei draed.

"Gan fod Wrexham Lager mor eiconig… o fod y lager cyntaf ym Mhrydain i fod â hanes enfawr o fod ar y Titanic, a hefyd o fod gyda phedair medal aur fyd-eang… roedd o yn drist," meddai Mark Roberts.

"Doedden ni ddim yn licio'r ffordd roedd o'n cael ei drin felly penderfynom ni ail-ddechrau'r bragdy."

Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn i'r bragdy sydd wedi ei leoli yng nghanol tref Wrecsam

Mae'r penblwydd yn nodi degawd sydd wedi gweld hyder y dref yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cael ei hatgyfnerthu yn aruthrol.

Bu hyd at 300 o artistiaid o bob cornel o'r byd yno yn rhan o Ŵyl Focus Wales ar ddechrau'r mis, mae'r dref ar restr hir Dinas Diwylliant 2025, a daeth perchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam draw o Hollywood i ymweld â'r Cae Ras am y tro cyntaf ddiwedd Hydref.

"Mae o i gyd yn chwa o awyr iach i ni yma yn Wrecsam," meddai Mark Roberts.

'Eiconig'

Sefydlwyd y bragdy yn 1882 gan ddau fewnfudwr o'r Almaen oedd yn hiraethu am y cwrw oedd i'w gael nôl adref.

Gan bod y gaeaf yn gynhesach yng Nghymru o'i gymharu â'u mamwlad, methiant llwyr oedd yr ymgais gyntaf gan nad oedd posib cadw'r lager yn ddigon oer wrth ei gynhyrchu.

Wrth lwc roedd Almaenwr arall o'r enw Robert Graesser yn rhedeg gweithdy cemegol i fyny'r lôn yng Nghefn Mawr ble roedd ganddo oergelloedd mecanyddol i gadw'r tymheredd o dan -1 gradd Celsius.

Cymerodd Graesser reolaeth o'r bragdy ac o'r diwrnod hwnnw daeth Wrexham Lager yn llwyddiannus iawn. Yn sydyn roedd enw'r dref yng ngogledd Cymru i'w weld ar draws y byd.

Teithiodd y lager ar lynges yr SS Baltic, i ryfeloedd byd, ac ar long enwog y Titanic. Erbyn hyn mae Wrexham Lager yn honni mai nhw oedd y lager cyntaf ym Mhrydain yn ogystal â'r cyntaf gafodd ei allforio i wledydd pell, gan gynnwys India, De Affrica, America ac Awstralia.

Disgrifiad o’r llun,

Casgenni Wrexham Lager. Cafodd y lager ei werthu ar draws gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig o dan berchnogaeth Robert Graesser. Roedd Graesser wedi creu cynnyrch oedd yn cadw'n dda ac o ganlyniad dyma oedd dewis nifer o lyngesau'r cyfnod

"Mae'n eiconig," meddai Mark Roberts. "Ac mi ddylai gael ei gofio am hyn."

Dirywiad

"Roedd pethau yn dda tan tua 1986. Ond pan ddaeth globaleiddio... cafodd Wrexham ei wthio mewn i gornel," meddai Mark Roberts.

Roedd y cwmni eisoes wedi glanio yn nwylo Coope & Allsopp ers 1949, ac yn 1992 fe gamodd Carsberg-Tetley (Carlsberg UK rŵan) i mewn.

Er gwaethaf yr ymgais i'w achub daeth y bragu i ben yn 2002 gan ddod â thraddodiad 120 mlynedd yn y dref i'w derfyn. Cafodd parc siopa ei hadeiladu yn lle'r hen fragdai.

Er hyn mi frwydrodd y Martyn Jones i gadw'r lle yn fyw a hynny yn nwylo person lleol. Llwyddodd i brynu'r hawliau i'r enw yn ogystal â'r un adeilad oedd ar ôl yng nghanol y dref am £1.

Disgrifiad o’r llun,

Adeilad gwreiddiol Wrexham Lager, sydd wedi ei restru. Bu ymgyrchwyr yn brwydro i sicrhau bydd bragu yn digwydd yma eto. Mae siop a swyddfa'r busnes wedi ei leoli yno erbyn hyn

Atgyfodiad Wrecsam

"Wnaethon ni ddechrau arni ddeng mlynedd yn ôl. Doeddan ni ddim wedi sylwi be' oedd am ddigwydd dros y blynyddoedd ond aeth pethau yn fwy ac yn fwy," meddai Mark Roberts.

Mae degawd o atgyfodiad Wrexham Lager yn nodi degawd o atgyfodiad enfawr yn hyder y dref hefyd.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Wrecsam yn un o 10 o leoliadau sydd yn y ras i ennill gwobr Dinas Diwylliant 2025.

Mae llawer o'r diolch i Ŵyl Focus Wales oedd hefyd dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed fis yma gyda hyd at 300 o artistiaid o bob cornel o'r byd yn perfformio ar draws y dref.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Bottlecap (!), band pync o Sweden, ar lwyfan Tŷ Pawb yn Ngŵyl Focus Wales eleni

Yn ganolbwynt i'r ŵyl oedd cartref celfyddydol Wrecsam, Tŷ Pawb a agorwyd yn 2018, y sefydliad wnaeth arwain Cymru yng Ngŵyl Biennale Venice yn 2019.

Tref bêl-droed

Mae llwybr Wrexham Lager yn debyg iawn i lwybr clwb pêl-droed enwog y dref hefyd.

Wrth i sylfaenwyr gwreiddiol y bragdy gyrraedd y dref o'r Almaen yn yr 1870au, roedd cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam a chae rhyngwladol hynaf y byd, Cae Ras, wrthi'n cael ei hadeiladu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cae Ras, Wrecsam. Chwaraeodd Cymru eu gêm cyntaf yma yn 1877

Yn debyg i'r bragdy hynafol roedd y clwb - sef y trydydd hynaf yn y byd - yn agos iawn at fynd i'r wal ar ddechrau'r ganrif yma.

Yn dilyn ymgais y Cadeirydd ar y pryd, Alex Hamilton, i werthu'r stadiwm at ei ddibenion ei hun gwelwyd ysbryd y dref yn codi ac wrth i Wrexham Lager gamu o'r tywyllwch daeth goleuni ar Gae Ras eto wrth i'r cefnogwyr ymgynnull i gymryd rheolaeth o'u clwb o dan Ymddiriedolaeth Clwb Pêl-droed Wrecsam.

A rŵan, fel y diod, mi fydd y crys yn teithio'r byd o ganlyniad i gyrhaeddiad syfrdanol y perchnogion newydd o Hollywood - ar actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney - a brynodd y clwb a gwneud buddsoddiad ariannol enfawr ym mis Chwefror 2021.

Ffynhonnell y llun, Gemma Thomas/Wrexham AFC
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn cyfarfod cefnogwyr Wrecsam yn y Cae Ras. Aeth y ddau hefyd i wylio'r tîm (yn colli 3-2) oddi cartref yn Maidenhead ar 26 Hydref

Meddai Marc Roberts: "Mae'n anghredadwy clywed fod dau seren ffilm wedi prynu eich clwb pêl-droed.

"Mae'r peth ychydig yn eironig i ddeud y gwir ond mae'n mynd law yn llaw â'r llwyddiant diweddar yn y dref. Mi fydd o'n gwthio ein cynnyrch ymhellach ar draws y byd hefyd gobeithio."

'Gwneud rhywbeth yn iawn'

"Mae heriau wedi bod," meddai Marc Roberts wrth edrych yn ôl dros y ddegawd ddiwethaf.

"Mae'r byd tafarn ac adloniant wedi newid yn gyflym iawn. Mae Brexit a Covid wedi ein taro yn galed iawn iawn. Ond wnaethon ni ddechrau yn fach ac rydan ni yn ehangu ac yn ehangu ac erbyn hyn yn allforio ein cynnyrch.

"Yn 2020 wnaethon ni ymgeisio mewn saith cystadleuaeth yn fyd eang ac ennill saith medal aur. Eleni rydan ni wedi ennill tri felly rydan ni'n gwneud rhywbeth yn iawn, gobeithio!"

I ddathlu degawd mae'r bragdy yn cynnal menter i roi sylw i unigolion sydd wedi gwneud gwahaniaeth a mynd "ymhellach na'r arfer" i helpu eraill a'r gymuned yn ystod y pandemig.

"Mae cymuned yn bwysig i ni. Rydan ni yn wastad yn ceisio helpu'r gymuned a gwthio pobl ifanc ymlaen," meddai Marc Roberts.

Hefyd o ddiddordeb: