Ryan Giggs yn ymddiswyddo fel rheolwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Ryan Giggs wedi cadarnhau ei fod wedi camu i lawr fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru.
Fe wnaeth cyn-asgellwr Manchester United, 48, gymryd cam yn ôl o'i rôl ym mis Tachwedd 2020 ar ôl cael ei arestio.
Cafodd Giggs ei gyhuddo'n ddiweddarach o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau.
"Ar ôl llawer o ystyriaeth, rydw i'n rhoi'r gorau i fy swydd fel rheolwr tîm cenedlaethol dynion Cymru ar unwaith," meddai Giggs mewn datganiad nos Lun.
"Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael rheoli fy ngwlad, ond mae hi ond yn iawn fod CBDC [Cymdeithas Bêl-droed Cymru], y staff hyfforddi a'r chwaraewyr yn paratoi ar gyfer [Cwpan y Byd] gyda sicrwydd, eglurhad a heb ddyfalu ynghylch rôl eu prif hyfforddwr."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran CBDC eu bod nhw'n "cydnabod y datganiad personol a ryddhawyd gan Ryan Giggs".
"Mae CBDC yn cofnodi ei gwerthfawrogiad i Ryan Giggs am ei gyfnod fel rheolwr Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru ac yn gwerthfawrogi'r penderfyniad y mae wedi'i wneud, sydd er lles gorau pêl-droed Cymru.
"Mae ffocws llawn CBDC a Thîm Cenedlaethol Dynion Cymru ar Gwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni."
Cafodd Giggs ei benodi i'r rôl ym mis Ionawr 2018 ar gytundeb pedair blynedd, ac fe arweiniodd Cymru i rowndiau terfynol Euro 2020.
Cymerodd Robert Page, 47, yr awenau fel rheolwr Cymru yn absenoldeb Giggs, gan arwain ei wlad i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
O dan arweiniad Page, cyrhaeddodd Cymru hefyd yr 16 olaf o rowndiau terfynol Euro 2020.
'Trist na allwn barhau â'r daith'
Roedd achos llys Giggs i fod i gael ei gynnal fis Ionawr diwethaf yn wreiddiol ond cafodd ei ohirio tan 8 Awst oherwydd diffyg lle yn y llys.
Mae disgwyl i'r achos bara o leiaf bum diwrnod.
Ychwanegodd Giggs: "Dydw i ddim eisiau i baratoadau'r wlad ar gyfer Cwpan y Byd gael eu heffeithio, eu hansefydlogi na'u peryglu mewn unrhyw ffordd gan y diddordeb parhaus yn yr achos hwn.
"Rwy'n drist na allwn barhau â'r daith hon gyda'n gilydd oherwydd credaf y bydd y grŵp rhyfeddol hwn yn gwneud y wlad yn falch yn ein Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.
"Fy mwriad yw ailafael yn fy ngyrfa reoli yn nes ymlaen."
Beth nesaf i Gymru a Page?
Dadansoddiad Dafydd Pritchard, gohebydd chwaraeon
Mae Robert Page wedi bod wrth y llyw ers Tachwedd 2020, gan arwain Cymru i rownd 16 olaf Euro 2020 llynedd, ac i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Oherwydd bod Page dan gytundeb tan ddiwedd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd, does dim disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wneud cyhoeddiad am ei ddyfodol hir-dymor am y tro.
Mae Page wedi dweud ei fod yn hapus hefo'i sefyllfa, a does dim brys iddo arwyddo cytundeb newydd.
Er iddo gael ei gysylltu ag ambell swydd clwb yn ddiweddar, byddai'n syndod enfawr petasai cyn-amddiffynnwr Cymru yn gadael y swydd yma - swydd orau ei fywyd, yn ôl Page ei hun - cyn arwain ei wlad yng Nghwpan y Byd.
Mae Page yn Gymro balch iawn, mae wedi cyflawni ei ddyletswyddau at safon uchel hyd yn hyn, ac mae'r chwaraewyr i gyd yn ei barchu a'i hoffi.
Felly does dim rheswm i Gymru edrych am reolwr newydd, does dim rheswm i Page edrych am swydd newydd, a'r disgwyl yw mai fe fydd wrth y llyw ar gyfer yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2024 hefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018