Banc yn cynnig lle diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig

  • Cyhoeddwyd
cam-drinFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu defnyddio "mannau diogel" i gael cymorth arbenigol ym mhob un o ganghennau HSBC yng Nghymru.

Mae cynllun Safe Spaces yn cynnig rhywle tawel i ddioddefwyr allu cysylltu â gwasanaeth cymorth neu siarad â ffrind neu aelod o'r teulu.

Gall pobl hefyd siarad ag aelod o staff sydd wedi cael eu hyfforddi, neu gysylltu â'r heddlu lleol os oes angen.

Syniad Hestia, elusen cam-drin domestig, ydy'r Safe Spaces ac mi gafodd ei lansio yng nghanol cyfnod clo cyntaf y pandemig Covid-19.

Mae'r cynllun eisoes ar waith mewn dros 5,000 o fferyllfeydd ledled Prydain, gyda chwmnïau mawr fel Boots, Superdrug, Morrisons a Well, yn ogystal â fferyllwyr annibynnol lleol, yn cymryd rhan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Safe Spaces yn cynnig rhywle tawel i ddioddefwyr allu cysylltu â gwasanaeth cymorth neu siarad â ffrind neu aelod o'r teulu

HSBC UK ydy'r mwyaf o'r banciau stryd fawr i gynnig y gwasanaeth a gafodd ei dreialu'n wreiddiol y llynedd yn Southampton.

Mae dros 4,000 o staff ar draws holl ganghennau HSBC yn y Deyrnas Unedig wedi cael hyfforddiant arbenigol i'w helpu i adnabod arwyddion o gam-drin.

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

  • Cerddwch i mewn i unrhyw leoliad sy'n cynnig gofod diogel;

  • Gadewch i aelod o staff wrth y cownter wybod eich bod angen defnyddio'r man diogel;

  • Bydd aelod o staff yn mynd â chi i'r gofod diogel sydd o fewn ystafell breifat;

  • Unwaith y byddwch i mewn, mi allwch ddefnyddio'r gofod ym mha bynnag ffordd sy'n gweithio i chi. Mae'r ystafelloedd ar wahân yma yn darparu ffyrdd diogel i estyn at ffrindiau a theulu a chysylltu â gwasanaethau cymorth arbenigol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dyfrig Roberts y gall pobl fynd i mewn i unrhyw gangen HSBC a gofyn am help

Dywedodd Dyfrig Roberts, cyfarwyddwr lleol HSBC UK yn Llangefni, Ynys Môn, fod mabwysiadu'r cynllun Safe Spaces yn cyd-fynd â mentrau lleol eraill gan y banc, gan gynnwys rhoi'r hawl i bobl heb gyfeiriad parhaol i agor cyfrif banc.

"Mae banciau wedi newid," meddai, "ac un o'r pethau mwyaf pwysig i ni rŵan ydy bod yna, rhoi rhywbeth gwahanol, a rhoi lle saff i gwsmeriaid pan maen nhw isio fo.

"Mae 4,000 o staff wedi cael eu hyfforddi i helpu. Yma yn Llangefni, ar draws gogledd Cymru, a trwy Gymru a trwy Brydain i gyd mi fedrith rywun fynd i mewn i gangen HSBC a gofyn am help."

Esboniodd mai rôl y banc yn y lle cyntaf oedd adnabod problem, ac mai elusennau a chyrff cymorth eraill fyddai'n camu i mewn wedyn.

"Mae staff hefyd wedi cael eu hyfforddi i drio cael y pethau yma allan wrth sgwrsio efo nhw.

"'Dan ni yma wrth gwrs i helpu, ond ein gwaith ni ydy sylweddoli a deud 'reit be arall fedran ni wneud i helpu chi, dewch i mewn am sgwrs efo ni'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun ar waith ym mhob cangen HSBC yng Nghymru

Stori Rehana

Dywed Rehana, sy'n 47 oed ac yn rheolwr banc, nad yw'n ffitio'r syniad arferol o ddioddefwr cam-drin domestig, ond am flynyddoedd roedd hi'n gwrthod cyfaddef ei bod yn cael ei cham-drin gan ei chyn-ŵr.

"Ro'n i'n briod am flynyddoedd cyn sylweddoli o'r diwedd bod angen i mi adael," meddai.

"Mae gen i dri o blant a dim ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a dechrau holi pethau fel 'pam bod dad yn cael gwneud pethau a 'dach chi ddim?' y gwnes i sylweddoli pa mor gamdriniol oedd y berthynas wedi mynd.

"Roedd 'na wastad un rheol iddo fo ac un arall i mi."

Ymddygiad rheolaethol yn hytrach nag ymosod corfforol oedd yn gwneud ei pherthynas yn un gamdriniol, meddai, gan esbonio y byddai ei gŵr yn cuddio ei goriadau i'w rhwystro rhag gadael y tŷ.

"Ro'n i'n garcharor yn fy nhŷ fy hun, wedi f'ynysu ac wedi fy nhorri i ffwrdd o'n nheulu."

Un diwrnod cydiodd ei gŵr ynddi, a'i thaflu i'r llawr, a dyna pryd y penderfynodd ei adael.

Ond roedd ei theulu'n cefnogi ei gŵr, ac fe wnaeth hyd yn oed symud i fyw at rieni Rehana ar ôl i'r briodas ddod i ben.

Roedd o'n dal i geisio rheoli agweddau o'i bywyd hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA

"Bu farw fy mam yn 2021 a wnes i mo'i gweld hi cyn iddi farw - dyna rywbeth arall y cymerodd oddi arnaf, fy nheulu.

"Mi ddywedodd wrth fy mhlant cyn dweud wrtha i, roedd o'n rhan o'i gêm ac roedd o'n dal i reoli fy mywyd."

Er iddi gael gorchymyn llys i'w atal rhag cysylltu â hi, dechreuodd ei weld yn ei hardal leol, ac un diwrnod fe'i gwelodd mewn archfarchnad, ac wrth adael sylwodd ei fod yn disgwyl amdani yn y maes parcio.

"'Mae o'n fy stelcian', medda fi, 'be mae o'n mynd i wneud?'

"Arhosais am beth amser ond ro'n i'n poeni achos doedd o ddim yn gadael.

"Gwyddwn fod Morrisons yn rhan o'r cynllun Safe Spaces felly ro'n i'n cael hyder wrth ofyn am help.

"Roedd y rheolwr yn wych, a gadawodd i mi aros mor hir ac ro'n i'n dymuno.

"Ro'n i'n teimlo'n saff yn gofyn am help oherwydd Safe Spaces.

"Mi wnaeth wahaniaeth mawr y diwrnod hwnnw. Ro'n i'n gwybod y byddwn yn saff ac y byddai'r staff yn fy nghoelio a'u bod wedi cael hyfforddiant i helpu.

"Fy nghyngor i unrhyw un sy'n mynd drwy'r un math o beth yw i beidio oedi cyn mynd at Safe Spaces i geisio cael cymorth - mi gewch eich credu ac mi fyddan nhw'n helpu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae "trais economaidd" yn esiampl arall o drais yn y cartref, yn ôl Rhian Bowen Davies

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, ymgynghorydd annibynnol yn y maes trais yn y cartref bod y Ddeddf Trais yn y Cartref, sydd newydd gael ei basio gan San Steffan, yn dangos "fod trais economaidd yn cael ei adnabod fel rhan allweddol o drais yn y cartref".

"Beth mae hyn yn ei olygu yw bod partner yn gallu edrych ar be' sy'n cael ei wario, faint sy'n cael ei wario, lle mae'n cael ei wario, a gorfod dangos bob receipt maen nhw'n cael - i weld be maen nhw wedi gwario, yn lle a pha amser," meddai.

"Mae'n gallu bod yn fath o reolaeth sydd yn anodd iawn i bobl sylweddoli beth sydd yn digwydd.

"Dwi'n credu beth sydd hefyd yn arwyddocaol o'r cynllun yma yw fod dim stigma gan rywun i fynd mewn i fanc neu fferyllfa.

"Maen nhw'n llefydd y mae pobl yn mynd iddyn nhw'n o ddydd i ddydd, mae'n rhan o'u bywydau nhw, ac felly mae hynny'n helpu i leihau'r stigma a'r embaras mae pobl yn teimlo wrth fynd i ofyn am help a gwybodaeth."