Cynllun i gefnogi dioddefwyr trais domestig yng Ngwent

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr arbenigol ym mhencadlys Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithwyr arbenigol nawr yn cydweithio â swyddogion ym mhencadlys Heddlu Gwent

Bydd dioddefwyr trais domestig yng Nghymru yn gallu derbyn cymorth arbenigol ar benwythnosau am y tro cyntaf, diolch i gynllun newydd gan Heddlu Gwent.

Cafodd 27,000 achos o drais domestig eu cofnodi yng Nghymru yn 2017, ond nid yw gweithwyr cefnogol arbenigol wedi gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol o'r blaen.

O ddydd Gwener ymlaen bydd gweithwyr yn cefnogi swyddogion Heddlu Gwent wrth ddelio ag adroddiadau o drais domestig.

Dywedodd Cymorth i Ferched Casnewydd y bydd y cynllun yn sicrhau fod dioddefwyr yn ddiogel.

Mae Heddlu Gwent yn delio a thua 25 adroddiad o drais domestig yn ddyddiol.

Mae tua 40% o'r galwadau hyn yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi galw o'r blaen, ac mae arbenigwyr yn amcangyfrif fod dioddefwyr yn profi rhwng 35 a 40 ymosodiad cyn cysylltu â'r awdurdodau.

Stori Lucy

Cafodd Lucy (enw ffug) ei cham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan ei phartner am fwy na phum mlynedd.

Roedd e wedi ei gwahanu o'i theulu a'i ffrindiau yn ogystal â'i rhwystro rhag gweithio cyn ymosod arni un noson.

"Cefais i fy nghuro yn ofnadwy, wnaeth o daflu fi yn erbyn y drws ac yna glywes i fo yn y gegin. Roedd o'n chwilio am gyllell, Roeddwn i'n meddwl ei fod am fy lladd," meddai.

"Roedd rhaid i mi gael help. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd am ddigwydd nesaf. Roeddwn i wedi cael digon."

Galwodd hi'r heddlu tu ôl i'w gefn a chafodd y dyn ei arestio yn ddiweddarach.

Wedi ei hysgwyd a'i hanafu, dywedodd Lucy nad oedd ganddi unrhywle i droi a byddai hi wedi croesawu unrhyw help gan arbenigwyr.

"Dwi'n credu y byddai'n bendant wedi bod o gymorth i mi. Doeddwn i methu chwilio am gymorth meddygol gan fod neb ar gael i edrych ar ôl y plant."

Mae Lucy bellach wedi dod â'r berthynas i ben ac wedi symud i ffwrdd er mwyn ailadeiladu ei bywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Maloney y bydd y cynllun o gymorth i swyddogion a dioddefwyr

Dywedodd Natalie Poole, Cyfarwyddwr Gweithredu Cymorth i Ferched Casnewydd: "Bydd ein staff ni wedi eu lleoli yn y stafell reoli yn ystod nosweithiau a phenwythnosau - yr amseroedd prysuraf - felly byddwn yn gallu ymateb yn syth pan ddaw'r alwad i mewn.

"Gallwn sicrhau fod dioddefwyr yn ddiogel, eu bod nhw'n ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddynt a'u bod nhw'n gallu cysylltu â gwasanaethau lleol yn eu hardal nhw."

Yn ôl Ditectif Brif Arolygydd Heddlu Gwent, Steve Maloney, bydd y gwasanaeth newydd yn galluogi'r llu i "wella'r gwasanaethau" y maen nhw'n gynnig i'r cyhoedd.